Enw: Liam Bowen
Yn wreiddiol o: Pontyberem, Cwm Gwendraeth
Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?
Rwy’n paratoi i fynd mewn i’n ail flwyddyn fel myfyriwr Gwleidyddiaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy’ wastod yn cadw golwg ar wleidyddiaeth ac yn aml yn gwylio BBC PARLIAMENT (ydw, fi’n cŵl). Tu hwnt i wleidyddiaeth rwy’n caru chwaraeon. Rwy’n dilyn y Sgarlets ac Abertawe, le rwy’ wedi cael tocyn tymor ers i mi fod yn blentyn (JAC ARMYY!!). Hefyd yn mwynhau actio a chanu gyda theatrau a chorau lleol.
Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwahodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â thi. Pwy fyddent nhw, a pham?
1) I gael yr un amlwg allan o’r ffordd i gychwyn, Gwynfor Evans. Joiwn ni cael gwybod sut wefr oedd hi i fod y cyntaf. Roedd Mamgu yn gweithio yn yr ysbyty yng Nghaerfyrddin y noswaith hynny, a soniodd hi i mi am y tawelwch llethol oedd i glywed yn y dre cyn i enw Gwynfor cael ei galw fel Aelod Seneddol Cyntaf y Blaid, a chlywir y floedd fwyaf a glywsai neb erioed. Gennai ‘Goosebumps’ jyst yn meddwl am y peth.
2) Yn ail, Y Gŵr o’r Mynydd, Ray Gravelle. Dyn lleol i Gwm Gwendraeth a garai ei Wlad, ei Iaith a’i Genedl cymaint ag unrhyw un. Arwr personol i mi, gyda’i ysbryd yn dal i fyw yn y Cwm.
3) Bach yn wahanol i’r arfer gan nid yw’r dyn nesaf yn enwog dros ben nac yn farw - Dyfrig Thomas, Aelod o’r Blaid. Mae Dyfrig wedi bod yn ymgyrchu a phrotestio dros hawliau i’r Cymry a’u hiaith am dros Hanner Can mlynedd. Roedd Dyfrig yno ar Bont Trefechan yn 1963 ac mae’n dal i gerdded y palmentydd a chnocio ar ddrysau yn gloiach na neb. Rwy’n dwli clywed Dyfrig yn adrodd hanesion y Blaid a tra bod pobl fel Dyfrig yn dal i gredu, ma’ yna gobaith.
4) Yn olaf, Rosa Parks. Arwres o’r fwyaf a chafodd digon o gamdriniaeth wrth law Dyn Gwyn. Gwnaeth Parks safiad ni feddylia un dyn gwneud, a joiwn i glywed yr hanes ganddi.
Pam ymunaist ti â Phlaid Cymru?
Roeddwn yn gwybod yn syth mai Plaid Cymru oedd yr unig barti i mi. Mae’r Ceidwadwyr yn gweld y Cymry fel byrdwn, mae Llafur yn hoffi gweld Cymru’n dlawd ac mae’r ddau mor ddrwg â’i gilydd. Plaid Cymru yw’r unig barti sydd am weld Cymru yn ffynnu fel endid unigol. Mae’r Sefydliad ar chwâl ac yn perthyn i rywbeth allan o Game Of Thrones. Nawr yw’r amser i sicrhau dyfodol gwell i ni ein hunain. Ymlaen at #CymruRydd

