Pwy ydyn ni?

Enw: Daniel Bryant14686269_1333769543329981_887732713_n
Oed: 20

Yn wreiddiol o: Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin

Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?
Dwi wastad yn eithaf prysur ar y foment gan fy mod i yn fy ail flwyddyn o astudio Gwleidyddiaeth ac Economeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn fy amser sbâr dwi’n hoffi treulio amser gyda ffrindiau a dwi’n mwynhau rhedeg a seiclo. Dwi hefyd yn gefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe â’r Scarlets.

Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwhaodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?
Ray Gravell – Fel rhywun tyfodd lan cwpl o filltiroedd i ffwrdd o gartref Ray ym Mynyddygarreg, mae rhaid i mi wahodd rhywun sydd yn cynrychioli calon ac ysbryd ardal Llanelli. Roedd Ray yn Gymro glan a chafodd ei basiwn am ei wlad ei edmygu ymhobman. Dylwn ni gyd ceisio hyrwyddo Cymru yn ffordd gwnaeth Ray.

Richard Wyn Jones – Gan fy mod i fach o ‘geek’ gwleidyddol, allai’r parti ddim mynd heb drafodaeth wleidyddol. Richard Wyn Jones yw academydd a sylwebydd gwleidyddol gorau gwleidyddiaeth Cymru, felly bydd rhaid i mi ei wahodd i roi ei farn ar faterion gwleidyddol y dydd. Hefyd, beth yw parti heb gog?!

Huw Edwards- Arwr lleol arall i ardal Llanelli. Mae bod yn y dyn ar y newyddion yn dod gyda llawer o fewnwelediad i faterion cyfoes a dramâu gwleidyddol. Dwi’n siŵr bydd gan Huw sawl stori i rannu am y byd gwleidyddol a materion rhyngwladol.

Leanne Wood – Yn olaf mae ein harweinydd arbennig, Leanne Wood. Yn wahanol i nifer o wleidyddion eraill, mae Leanne yn wleidydd dilys ac yn cadw i’r egwyddorion mae hi’n credu ynddo. Gobeithio gallwn ni gweithio mas ffordd i faeddu Llafur yn yr etholiad cynulliad nesaf!

Pam ymunaist ti â Phlaid Cymru?
Pan ddechreuais i feddwl am wleidyddiaeth sylweddolais fod y pleidiau traddodiadol sydd wedi llywodraethu Cymru wedi gadael ni lawr. I mi, dim ond Plaid Cymru gall sefyll lan am Gymru yn go iawn, a dim ond trwy Blaid Cymru gallwn ni deall ein llawn botensial. Ymunais â’r Blaid yn ystod ymgyrch refferendwm annibyniaeth yr Alban, yn benderfynol o sicrhau bod y dydd yna i’w ddod i Gymru.