Pwy ydyn ni?

Enw: Branwen Mair
Oed: 25branwen1
Yn wreiddiol o: Y Bont-faen, Bro Morgannwg

Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?

Dw i ar hyn o bryd yn gwneud cwrs Ymarfer Dysgu yng Nghaerdydd ac yn gobeithio dysgu Cymraeg mewn Ysgol Uwchradd. Ar wahan i hynny, dw i’n mwynhau cymdeithasu, pobi a theithio.

Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwhaodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?

Cwestiwn annodd! Gwenllian, ferch Llywelyn i drafod ei magwraeth (a gwleidyddiaeth, wrth gwrs!). The Beatles (sy’n cyfri fel un person o dan yr amgylchiadau!) gan fy mod i’n dwlu ar ei cerddoriaeth. Mandela i gael gwybod mwy am ei hanes o brofiad personol a Kate Roberts. Dw i wrth fy modd a’i gweithiau a hanes eu bywyd.

Pam ymuno â Phlaid Cymru?

Gweledigaeth unigryw, llais clir ac uchelgais amlwg sydd yn berthnasol i fy nghymdeithas a’r Gymru y breuddwydiaf i ei weld.