Pwy ydyn ni?

rhydian (sense bio)Enw: Rhydian Elis Fitter
Oed: 20
Yn wreiddiol o: Aberystwyth

Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?
Rwy’n hoff o chwarae cerddoriaeth, darllen, a gwastraffu amser ar Football Manager!

Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwhaodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?
Saunders Lewis – Arwr gwleidyddol a llenyddol.

Malala Yousafzai – Ennillydd ifancaf erioed Gwobr Heddwch Nobel. Mae hi’n ysbrydoliaeth i bob un sy’n ymladd dros hawliau menywod, cydraddoldeb a rhyddid o orthrwm.

Conan O’Brien – Siwr o fod y siaradwr mwyaf doniol y byd, byddai’n cadw’r sgwrs i lifo’n dda!

Pam ymunaist ti â Phlaid Cymru?
Ymunais i â’r blaid ar ôl cychwyn teimlo ymbellhad o wleidyddiaeth San Steffan. Roeddwn yn sylweddoli mai Plaid Cymru oedd yn credu’r un peth â fi ynglyn a methiant San Steffan i gynrychioli Cymru yn iawn. Des i’n aelod o’r Blaid wedi i mi ddarganfod bod gan bob aelod lais i siapio cyfeiriad y blaid, felly ymunais i bleidleisio yn etholiad yr arweinyddiaeth a ennillodd Leanne Wood yn 2012.