Enw: Elyn Stephens
Oed: 24
Yn wreiddiol o: Tynewydd, Cwm Rhondda
Pam nad yn ymgyrchu dros Blaid Ifanc sut wyt ti’n treulio dy amser?
Rwy’n gweithio i Jill Evans ASE yn gwneud gwaith achos ac yn treulio llawer o amser yn ymgyrchu gyda Plaid Rhondda. Felly yn yr ychydig o oriau sbar sydd gennyf yr wythnos tu fas i wleidyddiaeth dwi’n hoff o ddarllen, dwi’n canu mewn cor ac yn treulio gymaint o amser a fedrai ar ben mynydd Pen – Pych. Hefyd dwi’n ffan enfawr o sioeau cerdd ac yn treulio lot gormod o amser yn gwylio sioeau ar youtube.
Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwahodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?
O am gwestiwn! Reit te, i ddechrau ‘da buaswn i’n gwahodd Oscar Wilde. Un o’m hoff awduron a dwi’n meddwl bod ei arabedd yn union beth sydd angen ar ginio arbennig. Yna, buaswn i’n gwahodd Seth McFarlane (creodd y raglen teledu Family Guy). Mae’n uffernol o ddoniol ac yn gantor dda iawn hefyd, felly dyna’r adloniant wedi’i trefnu. Un o’m hoff gyfnodau yn hanes yw diwedd y deunawfed ganrif a buasai gallu sgwrsio a Marquis de Lafayette a oedd yn gyfrifol am arwain lluoedd Ffrainc yn chwyldro America yn ogystal a chwarae ei ran yn y chwyldro Ffrengig yn ddiddorol iawn. Ac yn olaf, Gwerful Mechain, bardd a tharddodd o Bowys yn y 15fed ganrif a oedd yn herio ymddygiad dynion tuag at fenywod yn ei gwaith.
Pam Plaid?
Dewisiais cefnogi a phleidleisio dros Plaid Cymru oherwydd dyma’r unig Blaid roeddwn i’n cytuno gyda’i pholisiau tro ar ol tro. Doedd y Blaid Lafur erioed wedi apelio ataf am nifer o resymau. Mae gan Blaid Cymru y weledigaeth a’r egni i sicrhau well ddyfodol i Gymru a’i phobl.
