Enw: Angharad Lewis
Oed: 27
Yn wreiddiol o: Sir Benfro
Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?
Rwy’n ymchwilydd gwleidyddol. Yn fy amser sbar mi fyddai’n darllen gormod o lyfrau ac yn beicio!
Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwhaodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?
Mi fyddwn i am gael gwesteuon fyddai’n ysbrydoli, yn ddifyr ac yn wrthryfelgar. Felly fe fyddwn yn gwahodd Josephine Baker, Virginia Woolf, Constance Markievicz ac Eleanor Catton. Seren o’r 1920au, ymgyrchydd hawliau sifil ac aelod o’r gwrthryfel Ffrengig; arloeswr modernaidd, arloeswr llenyddol, ac un o awduron mwyaf yr 20fed ganrif; yn sosialydd, swffragét chwyldroadol Gwyddelig oedd y ddynes gyntaf i gael ei hethol i San Steffan ar ol cael ei ddefrydu i farwoaleth; a’r person ieuengaf i ennill y wobr Booker ac awdur fy hoff nofel, The Luminaries. Dwi’n credu bydd digon i ni drafod!
Pam ymunaist ti â Phlaid Cymru?
Gadewais Cymru i fynychu’r brifysgol a threulio fy mlynyddoedd fel myfyriwr a fy ugeiniau cynnar yn ymwneud yn helaeth â gwleidyddiaeth asgell chwith heb ymrwymo i unrhyw ymlyniad blaid wleidyddol benodol. Pan symudais adref ar ôl chwe blynedd, fe wnes i ailddarganfod Plaid Cymru ac o’r diwedd dyma ddarganfod plaid y gallaf ei gefnogi heb orfod cyfaddawdu fy nghredodau. Mae angen uchelgais a gweledigaeth Plaid Cymru dros Gymru arnom i gyrraedd ein llawn botensial fel cenedl.
