Pwy ydyn ni?

Enw: Brett John
Oed: 15
Yn wreiddiol o: Llanelli

Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?
Rwy’n mwynhau siarad â phobl am yr hyn maent yn gredu, boed hynny’n cyfynd a fy safbwynt i neu beidio – mae’n ddiddorol gwybod beth mae pobl yn cefnogi a pham, boed hynny’n wledyddiaeth bleidiol neu unrhywbeth arall, rwy’n mwynhau dadlau a siarad. Rwy’n hoff hefyd o gerdded fy nghi daschund, Bentley ar lwybr yr arfordir a threulio amser gyda fy nheulu.

Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwhaodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?
Iawn, felly byddai Leanne Wood yn amlwg yno, gyda Nicola Sturgeon, Natalie Benett a fy mam. Byddai’r sgyrsiau y byddem yn eu cael yn ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig, yn fy marn i. Fe fyddem yn cytuno ar bethau pwysig i gyflawni’r gorau i bobl yr ynysoedd hyn.

Pam ymunaist ti â Phlaid Cymru?
Does gen i ddim diddordeb mewn bod yn frigyn bach o blaid Lundeinig. Rwy eisiau plaid sy’n rhoi Cymru’n gyntaf ar bob achlysur, ac fe ddes i i’r casgliad mai Plaid Cymru yw’r blaid honno.