Enw: Emyr Gruffydd
Oed: 26
Yn wreiddiol o: Caerffili
Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?
Rwyf wrth fy modd yn dilyn y newyddion diweddaraf o Gatalwnia, fy ail genedl! Yn ogystal â hyn, rwyf yn mwynhau dysgu mwy o ieithoedd.
Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwhaodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?
Y cyntaf byddai Kate Roberts; fedra i ddim dweud mai hi yw fy hoff awdur, ond rwy’n ei hedmygu gan bod menywod a phobl LHDT wedi eu tangynrychioli ymhob agwedd o fywyd ac yn enwedig yn ein mudiad cenedlaethol. Roedd hi’n ffigwr blaenllaw mewn cenedlaetholdeb Cymreig ac yn ddylanwadol mewn nifer o ffyrdd; yn ddiwylliannol, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol. Yr ail fyddai Salvador Allende, Arlywydd democrataidd Chile yn y 60au hwyr a’r 70au, a gafodd ei ddisodli gan y Cadfridog Augusto Pinochet, ffasgydd a ffrind agos i Margaret Thatcher. Y trydydd fyddai Lluís Companys, Arlywydd Catalunya yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen dros blaid Esquerra Republicana, a’r unig Arlywydd democrataidd Ewropeaidd mewn hanes i gael ei ddienyddio tra’i fod mewn grym. Y diwethaf, heb os nag oni bai, byddai Tad-cu Penygraig, sosialydd a Chymro mawr na ges i erioed mo’r pleser i’w adnabod. Buaswn wedi dod ymlaen yn berffaith, yn ôl fy mam!
Pam ymunaist ti â Phlaid Cymru?
Does dim byd mwy pwysig i mi na gweld Cymru yn dod yn wlad rhydd, annibynnol, sydd ddim yn cael eu rhedeg gan elit cyfoethog gwlad arall a sy’n bodloni ar gardod.
