Pwy ydyn ni?

Enw: Jamie Evans
Yn wreiddiol o: Castell Nedd

Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?
Pam nad ydw i yn ymrwymo fy amser sbar i’r achos (achos un fel ‘na ydw i!) dwi’n gweithio i gymdeithas adeiladu. Tu allan fy ngwaith mi fyddai’n gwario fy arian prin yn y Cross Keys neu yn teithio ar draws wlad y Basg, Sbaen a Galicia!

Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwhaodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?
Shane Williams, am ei fod o’n arwr o Gastell Nedd ac yn arwr i mi pan roeddwn i yn ifanc. Samantha Barks fel Eponine jesd am fy mod i yn ei ffansio hi a dwi’n meddwl y gallen ni ganu caneuon gyda’n gilydd o Les Mis drwy’r nos. Nelson Mandela achos pwy fyddai ddim am gael sgwrs gyda fo? Yn fy marn i, fo yw pennaeth y wladwriaeth orau mae’r byd erioed wedi ei weld. Yn olaf, fy ffrind Huw am ein bod ni’n mynd allan am fwyd pob wythnos a byddai rhaid i mi ei wahodd o!

Pam ymunaist ti â Phlaid Cymru?
Ymunais a Phlaid Cymru am fy mod am weld Cymru sydd yn rydd o lymder ideolegol, yn rhydd o wladwriaeth apathetig ac anheg Prydain, a chreu gwlad well na gall Llafur neu’r Ceidwadwyr ei wneud i ni o Lundain.