Enw: Owain Glyn Hughes
Oed: 20
Yn wreiddiol o: Amlwch
Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?
Dwi’n astudio gradd mewn Gwleidyddiaeth Rhwngwladol ac Astudiadu Strategol ym Mrifysgol Aberystwyth. Yn fy amser rhydd dwi’n mwynhau cymdeithasu gyda ffrindiau ac chadw’n iach trwy rhedeg ac ffensio. Dwi hefyd yn lywydd y Gymdeithas Gwleidyddiaeth Rhwngwladol.
Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwhaodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?
Yn gyntaf fyswn yn gwahodd Llywelyn ap Iorwerth (neu Llywelyn Fawr) oherwydd fy niddordeb mewn hanes Cymru yn ystod yr Canol Oesoedd. Yn ail, fyswn yn gwahodd Mahatma Gandhi oherwydd ei ymgyrchion i rhoi diwedd i rheolaeth Pydeinig dros India trwy defnyddio protestiadau heddychlon, er i’r milwyr trefedigaethol defnyddio dylliau treisgar yn ei erbyn. Yn drydydd fyswn yn gwahodd fy hoff actor, Clint Eastwood. I orffen fyswn yn gwahodd Gwyfor Evans, un o’r fawrion gwleidyddiaeth Cymru.
Pam ymunaist ti â Phlaid Cymru?
Dwi ddim yn credu mae yr system bresenol San Steffan yn gweithio i Cymru, ac neith o dim gweithio yn yr dyfodol pe bai gwelidyddiaeth Cymraeg yn cael ei dominyddu gan pleidiau Lundain-centric. Plaid Cymru yw’r dewis orau dros Gymru oherwydd mae’n dealt yr problemau rydym yn ei wynebu ac gellir defnyddio yr proiad yma i ddatblygu polisiau fydd yn cyflawni’r gorau ar gyfer Cymru er mwyn adeiladu economi cryf ac cymdeithas deg ac cyfiawn.
