Pwy ydyn ni?

Enw: Llywelyn Williams
Oed: 21
Yn wreiddiol o: Llanrug, Caernarfon

Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?
(Trio) Cadw’n heini. Chwarae Rygbi i Gaernarfon, bach o Bêl-droed, chwarae’r Tiwba i Fand Pres Llanrug. Gweithio ar y funud fel Swyddog Ymchwil Adfywio Cymunedol Cyngor Gwynedd.

Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwhaodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?
Steven Gerrard (Arwr a Phêl-droediwr dwi yn ei edmygu) Gwynfor Evans (Gwleidydd dwi yn ei edmygu), Michael Collins (Gennai ddiddordeb mewn Hanes Iwerddon) ac yn olaf, Robert Owen. (Dwi’n edmygu ei weledigaeth ynglyn a sut roedd o eisiau trin ei weithwyr)

Pam ymunaist ti â Phlaid Cymru?
Un o’n niddordebau cynnar yn fy mhlentyndod oedd edrych trwy fapiau, Atlasau a lluniau, gan geisio cofio dinasoedd, prifddinasoedd, trefi, gwledydd, ieithoedd, fflagiau, llefydd diddorol ac ati. Dwi’n credu fod y diddordeb hwnnw wedi’n ysgogi i ddod i adnabod Cymru yn lot gwell, y syniad yn fy mhen fy mod yn credu y dylai Cymru a nifer o wledydd erill gael yr hawl i fynnu eu bod nhw’n genedl annibynnol a hawlio’i lle ar fap y byd. Yr unig Blaid sydd wirioneddol bleidiol dros ei gwlad a’i hiaith fydd Plaid Cymru. Yn ogystal a hynny, ers i mi ddechrau cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth fwy fwy dros y blynyddoedd diwethaf, mae’i pholisiau yn gwneud synnwyr yn fy mhen ac wedi gwneud i mi ddod yn fwy agosach ati hi. Dwi’n credu’n gryf iawn fy mod wedi darganfod fy nghartref wleidyddol. Wedi’r cwbl, brwydro dros Gymru annibynnol Gymraeg well ddaru’n ysgogi’n niddordeb i wleidyddiaeth yn y lle cyntaf.