Pwy ydyn ni?

Enw: Aled Morgan Hughes

Oed: 21
Yn wreiddiol o: Llangadfan, Sir Drefaldwyn

Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?
O ddydd i ddydd, rwyf yn fyfyriwr ȏl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth Cymru- felly, fel myfyriwr bach da, dwi unai yn y llyfrgell neu yn y dafarn! Ynghyd a hyn, fel cefnogwr brwd o Chelsea a Chymru mewn pel droed.

Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwhaodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?
Cwestiwn da! Yn gyntaf heb os, y ‘maverick’ gwleidyddol, Otto van Bismarck- un o ffigyrau fwyaf dylanwadol, dadleuol a fu erioed. Yn ail, y cyn-rheolwr pêl-droed, Brian Clough- cymeriad yn wir ystyr y gair! Buaswn hefyd wrth fy modd yn gwahodd Leonardo DiCaprio (fy hoff actor). Well i mi gael rhywun o Blaid Cymru hefyd….Cynog Dafis- un o fy arwyr gwleidyddol.

Pam ymunaist ti â Phlaid Cymru?
Ers yn ifanc, rwyf wedi cael fy ymdrochi o fewn ideoleg a syniadaeth y Blaid, felly debyg yr oedd hi yn anochel y buaswn yn ymuno rhyw ddydd! Ynghyd a hyn, mae gweld prif bleidiau unoliaethol Llundain yn anwybyddu Cymru yn gyson yn fy ngwylltio yn gacwn.