Pwy ydyn ni?

Enw: Daniel Roberts
Oed: 20
Yn wreiddiol o: Conwy

Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?
Rwyf ddigon ffodus i fod yn astudio Hanes ac Economeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf yn fy mlwyddyn olaf bellach- felly mae’r pwysau ‘mlaen! Rwyf hefyd yn gweithio ychydig gyda’r Undeb Myfyrwyr, gan gael fy ethol fel Swyddog Amgylcheddol a Moesegol yn ddiweddar- swydd rwyf yn edrych mlaen i ddechrau. Tu hwnt i fywyd prifysgol, rwyf yn gwirioni ar bêl-droed- rwyf wrth fy modd yn gwylio’r tim cenedlaethol, ynghŷd ȃ cynnig help gyda clwb pêl-droed y Rhyl.

Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwhaodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?
Yn gyntaf oll, George Orwell- rwyf yn swr fod ganddo ambell stori ddiddorol i’w hadrodd, ac rwyf wedi darllen ei holl lyfrau! Buasai hefyd gennyf gwestiwn neu ddau i holi wrth Syr Alex Ferguson. Fel rhywun sy’n astudio hanes Cymru, buasai sgwrs efo Gwyn Alf Williams yn ragorol. Rwyf hefyd yn darllen ‘Oryx and Crake’ gan Margaret Atwood ar hyn o bryd, a mai’n ymddangos i fod yn ddynes hynod ddiddorol! Gyda’r criw yno o bobl, dwi’n siwr y fedwrn ateb ambell broblem yn gyflym iawn!

Pam ymunaist ti â Phlaid Cymru?
Cyfuniad o fod eisiau y gorau i Gymru, a’r gwerthoedd asgell chwith.