Pwy ydyn ni?

Enw: Sharyn Williams
Yn wreiddiol o: Castell-nedd

Pan nad yn ymgyrchu dros Blaid Cymru Ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?
Dwi’n gweithio tuag at Ddoethuriaeth ym Mholisi Cymdeithasol a Chymdeithaseg, yn edrych ar y broblem o ddilyniant mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Dwi hefyd yn arweinwr gyda’r Enfysau (Geidiaid 5 I 7 oed), yn rhan o dîm Octopush y Brifysgol, yn gweithio’n rhan amser yn y llyfrgell, ac yn dysgu’n rhan amser yn y Brifysgol.

Rwyt ti’n cynnal cinio arbennig ac yn cael gwhaodd 4 person arbennig yn hanes y byd i ymuno â ti. Pwy fydden nhw, a pham?
Emmeline Pankhurst, Isaac Asimov, J.K. Rowling, a Terry Pratchett. Dwi’n cyfaddef mae fy holl ddewisiadau wedi cael eu hysbrydoli gan lyfrau yr wyf wedi mwynhau, ac yn enwedig sydd wedi gwneud imi feddwl. Teimlaf wrth ddarllen llyfr Emmeline Pankhurst ein bod ni heddiw dal yn gweld llawer o’r un problemau ac agweddau yr oedd hi a’u chyfoedion yn wynebu 100 mlynedd yn ôl mewn llawer o feysydd eraill ar wahân i hawliau menywod, ac ein bod yn methu i ddysgu gwersi mewn modd ein bod ni gallu eu trosglwyddo i agweddau eraill o fywyd. Yr wyf yn mwynhau gwaith Terry Pratchett, Isaac Asimov, a J.K. Rowling oherwydd y ffyrdd maent yn trafod ein cymdeithas a phobl o fewn bydoedd ffantasi.

Pam ymunaist ti â Phlaid Cymru?
Wrth bleidleisio yn y gorffennol, yr wyf wastad wedi edrych ar yr unigolion yr wyf yn cytuno ag hwy, heb roi lawer o sylw ar eu pleidiau, oherwydd yr wyf yn teimlo dyle ein gwleidyddion ystyried y bobl sydd wedi eu hethol cyn diddordebau eu pleidiau. O fy mhrofiadau i adre ac yn y Brifysgol yr wyf yn teimlo taw’r unigolion o Blaid Cymru yw’r bobl sydd yn fwy parod i ddefnyddio synnwyr eu hunan a’r hyn sydd yn mynd i fod o fudd i’r bobl y maent yn eu cynrychioli i wneud eu penderfyniadau, cyn ystyried diddordebau’r blaid. Teimlaf felly bod Plaid Cymru mewn sefyllfa well i gynrychioli pobl fwy lleol ar lefelau mwy eang a chenedlaethol.