Mis Medi fe fynychodd Nia Davies, 17 mlwydd oed o Dredegar ym Mlaenau Gwent, ei digwyddiad Plaid Ifanc cyntaf - ein Ysgol Haf. Dyma oedd ei theimladau hi ar ôl mynychu’r gweithdy ar ymgyrchu cymunedol gyda’r actifydd Sahar Al-Faifi…
Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf gyda Plaid Ifanc! Fe wnaeth yr ysgol haf gwir dangos pwysigrwydd y mudiant ieuenctid i mi.
Yn ystod y cyfarfod, teimlais fod pawb yn frwdfrydig i gydweithio ac roedd awyrgylch cyfeillgar trwy’r dydd.
Cyn mynychu’r cwrs haf Plaid Ifanc gyda Sahar Al-Faifi roedd gen i syniad eithaf da am drefnwyr y gymuned.
Ond, ers cael y profiad o drafod gyda Sahar am ei gwaith a sut gallwn gymhwyso hyn i gymuned Plaid Ifanc mae nawr gen i ddealltwriaeth ehangach o’r pwnc a’r buddion o’r fath o waith.
Dwi’n falch iawn wnes i fynychu’r ysgol haf a dwi’n wirioneddol yn edrych ymlaen at barhau i fod yn rhan o Blaid Ifanc!
Hoffet ti ymuno a ni fel Nia? Chwilia am gangen yn agos i ti, dere i’n digwyddiad nesaf neu cysyllta â ni i ddweud helo drwy e-bostio [email protected]!



