Mae’n siwr eich bod chi gyd yn ymwybodol fod Plaid Cymru ar ganol etholiad arweinyddol ar hyn o bryd.
Fe fydd Plaid Ifanc yn gwbl niwtral yn ystod yr etholiad hwn. Ni fyddwn ni nac ein canghennau yn cefnogi un ymgeisydd ar draul y gweddill.
Ond, mae perffaith hawl ganddoch chi fel aelodau unigol o Blaid Cymru a Blaid Ifanc i gefnogi unrhyw ymgeisydd mewn capasiti personol.
Mae croeso ac anogaeth i bob un ohonoch chi hefyd fynychu hystings ac i gymryd rhan mewn trafodaethau ond byddwch yn barchus o eraill pan fyddwch yn gwneud hyn.
Os ydych chi yn ansicr am unrhyw beth, cysylltwch a ni ar [email protected].
Mae’r hystingau yn prysur agosáu ac mae’r manylion ar eu cyfer isod:
4 Medi 7yh Y Miwni, Pontypridd
5 Medi 7yh Neuadd y Dref, Castell-nedd
6 Medi 7yh Y Clwb Rygbi, Coed Duon
8 Medi 5yh Neuadd San Pedr, Caerfyrddin
10 Medi 7yh Pontio, Bangor
11 Medi 7yh Y Pafiliwn, Llangollen
12 Medi 7yh Y Ganolfan, Porthmadog
17 Medi 7yh Medrus, Campws Prifysgol Aberystwyth
Bydd drysau ar agor 30 munud cyn yr amser cychwyn.

