Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, penderfynodd Fflur Arwel, ein Hysgrifenydd Cenedlaethol, ysgrifennu rhywbeth fyrmryn bach yn wahanol.
[Ffeminydd: Unigolyn sydd yn credu mewn cydraddoldeb cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd rhwng y rhywiau.]
Falle eu bod nhw wedi ceisio dweud wrthot ti nad wyt ti ddigon da neu dy fot ti rywsut yn israddol. Falle eu bod nhw wedi ceisio dy ddiffinio di yn ôl eu telerau nhw.
Mae nhw yn anghywir. Paid anghofio hyn.
Mae dy gorff yn eiddo i ti ac i ti yn unig. Mae dy ryw, dy rywedd a’th rywioldeb yn eiddo i ti ac i ti yn unig. Rwyt ti’n bodoli ar dy dermau dy hun. A hynny yn ddiamod.
Ac os ydyn nhw ryw dro hyd yn oed yn meiddio awgrymu mai ‘gofyn amdani’ oeddet ti a bod bai arnat ti yna, yngana’r geiriau hyn … ‘Does dim bai arna i.’
Perchnoga dy hun. Cara dy hun. A hynny heb ymddiheuriadau.
Ni ellir dy ddiffinio di yn ôl dy raddau neu’r arian rwyt ti yn ei gynilo. Ni ellir dy ddiffinio di yn ôl maint dy ddillad neu’r nifer o gariadon a gei. Ni chei dy gosbi am gerdded dy lwybr dy hun. Mae dy benderfyniadau yn eiddo i ti ac i ti yn unig.
Dysga ddweud ‘Na’. Gad i’r gair adleisio ym mêr dy esgyrn. Cana hi yn rhydd.
Does dim angen i ti fod yn dawel. Mae dy eiriau di hefyd yn bwysig. Parcha a chefnoga eraill ond paid gadael i neb dy sathru.
Hola gwestiynnau. Bydd yn groch. Paid ildio.
Ymladda yn ôl.
Paid byth gadael i ddyn ddweud wrthot ti pwy neu beth wyt ti – nac ychwaith diffinio dy werth. Dim ond ti all wneud hynny.
Cei fod yn gryf, yn dlws ac yn rhywiol. Cei fod yn uchelgeisiol ac rwyt ti’n gallu bod yn benderfynol. Cei fod yn glyfar a chyfrwys, yn ddiwylliedig a dawnus. Cei fod yn gymhleth a chei fod yn anodd. Cei fod yr holl bethau yma a mwy.
Rwyt ti’n ddynol, wedi’r cwbl.
Mae dy stori di yn bwysig. Mae dy hanes di yn bwysig.
Dysga hi, perchnoga hi, adrodda hi – a hynny gyda balchder.
Dwyt ti ddim yn anweledig. Mae’r byd hwn yn eiddo i tithau hefyd.
Mynna dâl am dy lafur. Mynna barch. Mynna addysg. Mynna dy bleidlais a mynna sylw. Mynna ddarpariaeth a mynna’r amodau gorau. Mynna’r hawl i fod yn saff ar y strydoedd a mynna dy lês cymdeithasol.
Mynna dy le yn y byd. Mynna eu bod nhw’n gwrando. Protestia. Bloeddia.
Rwyt ti’n gallu llywodraethu gwlad. Rwyt ti’n gallu bod yn Fam.
Rwyt ti’n gallu bod yn arweinydd. Rwyt ti hefyd yn gallu gweithio o gartref.
Rwyt ti’n abl. Gallet ti fod yn unrhyw beth.
Cofia’r holl ferched ddaeth o’th flaen di. Cofia waeth bynnag rwyt yn ei gredu, lle bynnag gorweddai dy wreiddiau, pa bynnag iaith rwyt yn siarad, neu ba bynnag fywyd rwyt yn dewis ei ddilyn…
Rwyt ddynes.
Rwyt yn anhygoel.
’Cause I’m a woman
Phenomenally.
Phenomenal woman,
That’s me.”
Maya Angelou
‘Anhysbys An sy’n Hysbys’:
haws ydi credu
mai gwraig
yw’r anhysbys
yn cafflo’i dwylo
hydreuliedig,
tynnu geiriau
o dan lawes profiad,
a’u hysgar,
cyn cuddio hances
ei hunaniaeth.
Menna Elfyn

