Er nad yw’n ddydd gwyl swyddogol, y cyntaf o Fawrth yw cyfle’r Cymry i gael dathlu ein bodolaeth fel cenedl.
Ar ein diwrnod cenedlaethol, mae’n hollbwysig i ni gofio hanes Cymru. Hanes sydd, drwy’r canrifoedd, wedi bod yn un cythryblus. Mae pobl Cymru wedi rhoi o’u heithaf i gyfrannu at gyfoeth Prydain – ar brydiau, mae’n cymunedau wedi talu’n ddrud, drwy anfon meibion a merched i ymladd mewn rhyfeloedd imperialaidd ac annheg. Mae miloedd trwy gydol ein hanes wedi dioddef oherwydd y diwydiannau trymion sydd wedi gwneud llond dwrn o bobl yn hynod gyfoethog ond wedi gadael nifer o gymunedau Cymru mewn tlodi enbyd.
Cofiwn hefyd am y rhai hynny sydd wedi siapio’r Gymru fodern; dynion a menywod a rhoddodd eu bywydau drwy ymladd yn erbyn ffasgaeth; undebwyr llafur a gweithwyr a darodd y maen i’r wal er mwyn sefydlu gwladwriaeth lês sy’n deilwng o’n cymdeithas; ymgyrchwyr iaith y 70au a oedd yn benderfynol o weld y Gymraeg yn byw; a chenhedlaethau o genedlaetholwyr sydd wedi meddu ar ddyfalbarhad aruthrol, yn gwrthod gweld Cymru’n marw ar ei thraed.
Mae’n meddyliau ni heddiw gyda’r miliynau o fenywod drwy hanes sydd wedi gorfod brwydro yn erbyn gorthrwm ac ymddygiad rhywiaethol – mae eu cryfder, dros y canrifoedd, wedi ffurfio asgwrn cefn ein cenedl. Meddyliwn hefyd am y miloedd o bobl sydd wedi dioddef oherwydd eu rhywioldeb, eu crêd neu eu hil. Ein dyletswydd ni heddiw yw i adeiladu cymdeithas oddefgar lle mae pawb yn cyfri.
Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae Cymru wedi newid y tu hwnt i bob amgyffred. Mae gennym Gynulliad Cenedlaethol a thoreth o sefydliadau sy’n deilwng o’n statws fel cenedl.
Ond mae’n tlodi materol a safon isel ein democratiaeth yn llesteirio ein cynydd. Mae Plaid Cymru Ifanc yn benderfynol o adeiladu a chreu cymdeithas sy’n ddigon hyderus i wrthsefyll yr ymosodiadau di-ri mae Cymru yn ei ddioddef. Yn ein cynhadledd genedlaethol yng Nghaerdydd ar y 9fed o Ebrill, bydd cyfle i ti ddod i siapio’n gweledigaeth am Gymru well, a dod yn rhan allweddol o fudiad sydd yn gwrthod gweld Cymru’n dioddef am hirach.
Heddiw yw’r diwrnod i adnewyddu ein hymroddiad i Gymru, trwy ymroi i ymladd dros ei rhyddid. Ymuna â Phlaid Cymru Ifanc heddiw i frwydro dros Gymru rydd, deg a goddefgar.

