Cyfle arbennig i ymuno â Phwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Ifanc, a gwneud gwahaniaeth.
GOFYNION Y SWYDD
- Sicrhau bod safbwyntiau aelodau benywaidd i’w clywed ar y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ac o fewn Plaid Ifanc.
- Gweithio i sicrhau cynnydd yng nghyfraniad menywod ifanc o fewn Plaid Ifanc a Phlaid Cymru.
- Gweithio ar y cyd â phob aelod o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol i sicrhau bod menywod yn chwarae rhan ganolog ym mhob un o weithgareddau Plaid Ifanc.
- Cadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol pan na fydd y Cyd-gadeiryddion yn bresennol.
- Gweithio ar y cyd â’r Swyddog Aelodaeth i ddatblygu dealltwriaeth aelodau o ffeministiaeth.
Cyfnod o 4 mis hyd nes Cynhadledd Flynyddol Plaid Ifanc ym mis Ebrill.
Oes gennyt ddiddordeb? Anfon dy faniffesto at [email protected] erbyn 4 IONAWR.
Ethol mewn pleidlais gudd ar-lein erbyn 13 Ionawr.

