Llongyfarchiadau gwresog i Adam Price ar gael ei ethol yn Arweinydd Plaid Cymru.
Wedi gornest arweinyddol sydd wedi tanio a herio ein haelodau, mae Plaid Ifanc yn edrych ymlaen at weithio ar y cyd ag Adam i wireddu ein hamcanion fel Plaid.
Diolch anferthol hefyd i Leanne Wood am ei hysbrydoliaeth, arweinyddiaeth, a’r angerdd.
Mae ein diolch yn ddi-ddiwedd.
Gyda’n gilydd, gallwn newid Cymru er gwell – rydym yn barod i dorchi llewys a gwneud ein rhan.


