Nid oes lle i Islamoffobia yn ein cymdeithas. Mae’r sylwadau diweddaraf gan gynrychiolwyr etholedig amlwg yn llawn casineb, yn hiliol ac yn anghyfrifol. Nid ydynt yn gwneud dim ond anog mwy o hiliaeth, Islamoffobia a chadw pobl Fwslimaidd ar gyrion cymdeithas.
Mae gan menywod Mwslimaidd – sef targed yr ymosodiad diweddaraf, gan gynnwys y menywod hynny sy’n dewis gwisgo dillad crefyddol, fel y burqa a’r niqab – yr hawl i fyw fel dinasyddion cyfartal heb orfod dioddef casineb a senoffobia. Dewis menyw yw gwisgo’r hyn y mae hi’n dymuno ei wisgo.
Mae sylwadau dilornus fel y rhain yn cael eu gwneud i gefndir twf yr asgell dde yng Nghymru ac ar draws cyfandir Ewrop. Mae’r ffenomenon yn fygythiad i’r hawliau dinesig, gwleidyddol, ieithyddol a chymdeithasol y mae dinasyddion Cymru a thu hwnt (yn enwedig merched, colectifau LGBTIQP+, lleiafrifoedd a mudwyr) wedi eu sicrhau ar ôl blynyddoedd o frwydro.
Mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb i herio ac i ddifa Islamoffobia a rhagfarn.
Mae Plaid Ifanc yn arddel cenedlaetholdeb ddinesig sy’n hyrwyddo cymdeithas gynhwysol.
Byddwn yn parhau i ymladd er mwyn creu gwlad ble mae croeso i bawb be bynnag eu hil, crefydd neu gefndir.
Yn ein cynhadledd flynyddol yn Abertawe yn 2017, fe bleidleisiodd Plaid Ifanc i ymladd yn erbyn twf mudiadau a phleidiau asgell dde eithafol ar lefel wleidyddol ac i amddiffyn y polisiau cymdeithasol sydd yn hyrwyddo cymdeithasau teg a unedig drwy ehangu’r wladwriaeth les. Byddwn yn parhau i ddilyn yr addewid hwn a galwn ar wleidyddion o bob plaid wleidyddol flaengar i ymuno a ni.
Cydsafwn gyda menywod Mwslemaidd yng Nghymru a thu hwnt gan addo i ymladd yn unedig yn erbyn Islamaffobia a’r dde eithafol.


