Eleni, ar Ddiwrod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Trawsffobia, mae Plaid Ifanc yn falch o gydsefyll gyda’r gymuned traws ac anneuaidd yng Nghymru.
Mae cynnydd gweladwy wedi bod mewn trawsffobia yn ddiweddar a’r ymgyrchoedd yn erbyn pobl traws yn y cyfryngau sydd wedi eu hanelu yn arbennig at menywod trawsrywiol. Heddiw, mae pobl draws ac anneuaidd yng Nghymru a thu hwnt yn wynebu gwahaniaethau, casineb a cham-drin ym mhob rhan o’u bywydau.
Mae data a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Stonewall (Adroddiad Ysgol Cymru 2017 – Profiadau pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn ysgolion Cymru) yn dangos bod 41% o bobl ifanc trawsrywiol yng Nghymru wedi ceisio hunanladdiad a bod pobl trawsrywiol ifanc yn wynebu cyfraddau uchel o fwlio a phroblemau iechyd meddwl.
Mae merched traws yng Nghymru yn wynebu heriau penodol, gan gynnwys bod yn fwy tebygol o ddioddef o cam-drin domestig, trais, aflonyddu, troseddau o gasineb a digartrefedd.
Heddiw, ategwn ein cred bod pobl traws ac anneuaidd yr hawl cynhenid i gael eu derbyn a byw bywydau yn rhydd o gasineb, rhagfarn a gwahaniaethu.
Rydym yn falch o gefnogi diwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd gan ei wneud yn symlach ac yn un sy’n cydnabod hunaniaethau anneuaidd a ble nad oes angen diagnosis meddygol na’r angen i bobl drawsrywiol gyflwyno tystiolaeth er mwyn datgan eu hunaniaeth yn gyfreithiol – rhywbeth fydd felly yn rhoi yr hawl iddynt i hunan-benderfyniad dros eu hunain .
Bydd Plaid Ifanc yn parhau i gefnogi’r gymuned draws ac anneuaidd yng Nghymru trwy ymgyrchu, darparu llwyfan a llais ar gyfer y gymuned draws ac anneuaidd yng Nghymru, herio casineb a thrawsffobia a hyrwyddo dealltwriaeth, addysg a goddefgarwch.


