O wirfoddoli fel milwyr ar y ffrynt, i fabwysiadu plant ffoaduriaid a sefydlu pwyllgorau codi arian i gefnogi’r dioddefwyr, chwaraeodd gymunedau Cymru rôl bwysig yn amddiffyn democratiaeth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.
Ar ddydd San Siôr (Sant Jordi), nawddsant Aragón a Chatalonia, daeth criw ohonom at ein gilydd i gofio’r rhai hynny aeth i ymladd ac i’r rhai yn ein cymunedau adref a aberthodd lawer i amddiffyn democratiaeth, gan osod rhosod coch ger y gofeb - blodyn cenedlaethol Catalonia.
Diolch i bawb a gyfranodd drwy adrodd barddoniaeth, straeon, ac enwau y rhai fu draw yn ymladd a’r rhai fu farw. Mae’n bwysig inni gofio am y rhai hynny sydd dal wedi eu carcharu heddiw yng Nghatalwnia am wneud safiad dros ddemocratiaeth ac am fynnu yr hawl dros benderfynu.
![]()


