Ar nos Wener oer ar ddechrau mis Ionawr eleni, penderfynais (ar yr eiliad olaf) fy mod i’n mynd i fynychu cyfarfod cymdeithasol o gangen Caerdydd o Plaid Ifanc. Ro’n i braidd yn nerfus, a doedd dim clem ‘da fi beth i’w ddisgwyl. Pum mis yn ddiweddarach, rwy’n ei chael hi’n anodd cofio beth yn union ro’n i’n ei wneud cyn ymuno â Phlaid Cymru!
O edrych nôl nawr, gallen i ddim fod wedi dewis gwell amser i ddechrau gweithredu’n wleidyddol. Mae’r misoedd diwethaf wedi hedfan, a hynny’n bennaf am fod cynnwrf yr etholiad wedi dal pob un ohonom yn ei fomentwm. Wrth i’r dyddiad tyngedfennol agosáu, des i’n gynyddol ymwybodol o arwyddocâd a phwysigrwydd neges Plaid Cymru am obaith ac uchelgais.
Roedd dod i adnabod y bobl a oedd yn perthyn i fudiad Plaid Ifanc - ac i’r Blaid yn gyffredinol - a dod i ddeall eu dyheadau yn rhoi tawelwch meddwl i fi fy mod yn perthyn i Blaid sy’n rhannu yr un gwerthoedd â fi, sef yr awydd i weld cymdeithas deg, gydradd a chyfiawn.
Rhoddodd yr ymgyrch yr hyder i fi siarad yn uniongyrchol ag aelodau o’r cyhoedd ynglŷn â gwleidyddiaeth a pholisïau’r blaid, ac i ddatgan fy marn ar goedd heb deimlo cywilydd am wneud hynny. Ro’n i’n falch o hyrwyddo neges plaid sy’n rhoi buddiannau Cymru’n gyntaf, ac sydd ddim yn atebol i awdurdod y tu hwnt i Glawdd Offa.
Ac o drafod ag unigolion yng Nghaerffili, yng Nghaerdydd ac yn y Rhondda, roedd gen i ddealltwriaeth well o anghenion a gobeithion yr amrywiol bobl hyn ynghylch y dyfodol. Roedd hyn yn ysgogiad ychwanegol i wneud fy rhan i sicrhau mai Plaid Cymru oedd yn eu cynrychioli yn y Senedd er mwyn eu bod yn cael chwarae teg.
Mae Cymru wedi dioddef ac wedi’i hesgeuluso gan sawl llywodraeth dros y blynyddoedd, ac ro’n i ar dân i weld gobaith Plaid Cymru am newid gwirioneddol yn cael ei wireddu. Ac r’yn ni i gyd yn gwybod be ddigwyddodd nesa yn y Rhondda!

Yn siarad yn y gynhadledd
Fodd bynnag, fyddwn i’n sicr heb fod mor weithgar heb anogaeth a brwdfrydedd fy nghyd-aelodau yn Plaid Ifanc. Cawsom gynhadledd flynyddol lwyddiannus dros ben eleni, ac roedd yn agoriad llygad o ran aeddfedrwydd yr unigolion a’r drafodaeth.
Diolch i bawb am eu gwaith caled yn trefnu ac am eu hymroddiad diddiwedd. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i ledaenu neges hollbwysig Plaid Cymru dros y blynyddoedd nesaf - YMLAEN!



