Wyt ti yn teimlo’n frwdfrydig dros Gymru well? Oes gen ti syniadau i gyfrannu tuag at gyfeiriad a gweithgarwch Plaid Cymru Ifanc? Beth am ddod yn aelod o ein Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol?
Yn dilyn penderfyniad diweddar ein cadeirydd i sefyll lawr o ganlyniad i resymau ac amgylchiadau personol, mae Plaid Cymru Ifanc bellach yn chwilio am gadeirydd newydd i’w gyfethol ymlaen i’r Pwyllgor er mwyn helpu gyda chyfeiriad a threfniant y mudiad dros y flwyddyn nesaf.
Ceir disgrifiad o gyfrifoldebau o’r swydd yng Nghyfansoddiad Plaid Cymru Ifanc:
Y Cadeirydd Cenedlaethol sy’n gweithredu fel arweinydd y mudiad. Bydd y Cadeirydd Cenedlaethol yn gweithredu fel cyswllt rhwng y mudiad a Phlaid Cymru yn ganolog, yn ychwanegol at eistedd ar Bwyllgor Gwaith y blaid. Y Cadeirydd Cenedlaethol yw prif awdurdod polisi’r mudiad, ac sy’n cadeirio cyfarfodydd y pwyllgor gwaith. Bydd y Cadeirydd Cenedlaethol yn gweithredu fel wyneb cyhoeddus y mudiad ac yn awdurdodi cyfathrebiadau yn enw’r mudiad.
Os oes awydd gennyt ti ymgeisio, neu am unrhyw gwestiwn pellach, anfona dy enw ar e-bost i [email protected] cyn diwedd y mis!

