Brwdfrydig am Gymru well? Syniadau i gyfrannu tuag at gyfeiriad a gweithgarwch Plaid Cymru Ifanc? Beth am ddod yn aelod o ein Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol!
Yn dilyn penderfyniad diweddar ein His-gadeirydd i sefyll lawr o ganlyniad i resymau personol, mae Plaid Cymru Ifanc bellach yn chwilio am Is-gadeirydd newydd i’w gyfethol ymlaen i’r Pwyllgor er mwyn helpu gyda chyfeiriad a threfniant y mudiad dros y flwyddyn nesaf.
Nododd Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru Ifanc, Aled Morgan Hughes-
“Gyda’r flwyddyn nesaf yn addo i fod yn un enfawr i Blaid Cymru a Phlaid Cymru Ifanc, mae’r agoriad hwn ar y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn gyfle euraidd i unigolyn ifanc sydd yn frwdfrydig dros Gymru well gael dod yn aelod dylanwadol o fudiad ystyriaf i fod yn tyfu o nerth i nerth wrth i bob dydd fynd heibio!“
Ceir disgrifiad o gyfrifoldebau o’r swydd yng Nghyfansoddiad Plaid Cymru Ifanc:
“Yn ogystal at ddirprwyo ar gyfer y Cadeirydd Cenedlaethol ynghylch holl ddyletswyddau’r Cadeirydd Cenedlaethol, bydd yr is-Gadeirydd Cenedlaethol yn gweithredu fel cyswllt rhwng y mudiad a’i bartneriaid yn Ewrop trwy EFAy.”
Os oes awydd arnoch chi ymgeisio, neu gyda unrhyw ymholiadau pellach, anfonwch eich enw i [email protected] cyn 23:59 ar y 1af o Orffennaf 2015!

