Mae Plaid Cymru Ifanc yn condemnio llywodraeth Lundain am wrthod datganoli pwerau i roi’r bleidlais i bobl 16 a 17 mlwydd oed cyn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.
Meddai Leanne Wood: “Mae hwn yn benderfyniad siomedig. Mae pawb, bron, yn cytuno fod angen dwyn pobl ifanc i mewn i’r broses wleidyddol, ond mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gwrthod rhoi’r cyfle i’r Cynulliad Cenedlaethol roi’r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed. Dylai hyn fod yn fater i’r Cynulliad beth bynnag, nid i San Steffan. Mae heddiw yn ddiwrnod drwg i Gymru ac yn ddiwrnod drwg i ddemocratiaeth.”
Yn ei lythyr, dywedodd Stephen Crabb: “Ni wnaed unrhyw ddarpariaeth seneddol felly i newid yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad nac i ddatganoli i’r Cynulliad y pwer i benderfynu a allai pobl 16 ac 17 oed bleidleisio neu beidio yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.”
Meddai Daniel Roberts, swyddog polisi Plaid Ifanc:
“Mae yna bobl 16 mlwydd oed yng Nghymru sydd wedi cael eu geni ac byw trwy gydol eu bywyd gyda’r Cynulliad Cenedlaethol. Fe fyddan nhw’n ddig i gael gwybod bod eu hawl nhw i gael penderfynu dyfodol eu cenedl yn nwylo San Steffan. Mae Plaid Cymru Ifanc yn benderfynol o weld Cymru yn gwireddu ei llawn botensial fel cenedl, gan roi buddiannau pawb yng nghalon ein llywodraeth.
Roedd y profiad diweddar o refferendwm yn yr Alban yn dangos pa mor llwyddiannus gall y polisi yma fod. Os ydy gwleidyddion wir am i bobl ifanc ddechrau cymryd diddordebmewn gwleidyddiaeth, rhaid iddynt ddangos hyn gan adael i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed gael pleidleisio. ”

