Mae Leanne Wood AC Arweinydd Plaid Cymru wedi defnyddio Diwrnod Cenedlaethol Cofrestru Pleidleiswyr heddiw i annog y genhedlaeth nesaf i sicrhau llais yn Etholiad San Steffan drwy gofrestru i bleidleisio.
Dywedodd Leanne Wood fod senedd grog yn debygol iawn a golyga hyn ei bod yn bwysicach nag erioed o’r blaen i bobl ifanc sicrhau pleidlais ar Fai 7fed ac ymuno a Phlaid Cymru i anfon neges glir i sefydliad San Steffan nad yw Cymru’n fodlon cael ei thrin fel cenedl eilradd.
Daw ei hapel wrth i ffigyrau ddangos fod degau o filoedd o bobl ledled Cymru wedi diflannu oddi ar y gofrestr etholiadol.
Dywedodd Leanne Wood:
“Mae Diwrnod Cenedlaethol Cofrestru Pleidleiswyr yn gyfle i holl bobl Cymru sicrhau y bydd eu lleisiau yn cael eu clywed ar Fai 7fed.
“Gyda’r etholiad hwn yn debygol o fod yr anoddaf i’w ddarogan ers degawdau, rwy’n annog pawb i sicrhau eu bod wedi cofrestru i bleidleisio fel y gallant ddylanwadu ar dirlun gwleidyddol y DG.
“Mae gan bobl ifanc yn enwedig rol bwysig i chwarae. Gall eu hegni a’i brwdfrydedd ymddwyn fel y grym sy’n gyrru’r newid radical angenrheidiol i sicrhau cymdeithas decach ffyniannus.
“Mae’r ffaith y bydd Plaid Cymru’n cael ei chynnwys yn y dadleuon teledu yn gam yn y cyfeiriad cywir. Nid yn unig y bydd gan Gymru lais yn y dadleuon - bydd yr achos dros y dewis amgen adeiladol yn cael ei leisio hefyd.
“Mae’r dewis amgen hwn eisoes yn cael ei gefnogi gan y nifer o bobl ifanc sy’n ymuno a thimau Plaid Cymru ar y llwybr ymgyrch ledled y wlad pob wythnos.
“Fel mewn gwledydd eraill, mae gan y pleidiau gwrth-lymder y potensial i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ymwneud a gwleidyddiaeth a chwarae rhan mewn llunio dyfodol gwell i holl genhedloedd y DG.
“Pan fo Plaid Cymru’n ennill, mae Cymru’n gryf. Rwy’n annog pawb i sicrhau pleidlais ar Fai 7fed ac ymuno a ni i anfon neges glir i sefydliad San Steffan fod Cymru’n gwrthod cael ei thrin fel cenedl eilradd.”

