Yn y “niche”

Polly Manning, Swyddog Menywod Plaid Ifanc (2017-18) sy’n adlewyrchu ar y tueddiad diweddar i sarhau materion lleiafrifol o fewn y mudiad cenedlaethol yng Nghymru gan holi os oes wir ffordd i ni anwybyddu’r personol sydd yn y gwleidyddol?


Rwyf wedi bod yn aelod o Blaid Cymru dros ddwy flynedd bellach. Yn ystod haf 2016 daeth Leanne Wood, Adam Price a Jonathan Edwards i’n nhafarn lleol – y Llew Gwyn yn Llandeilo – ar gyfer cyfarfod cyhoeddus, fyddai’n rhoi cyfle i’r cyhoedd fynegi eu barn ynghylch y bleidlais i adael yr undeb ewropeaidd ar y 23 o Fehefin. Mynychais mewn eiliad o chwilfrydedd ac erbyn y bore trannoeth roeddwn wedi ymaelodi.

Yn y brifysgol deuthum ar draws Blaid Ifanc. Mynychais fy nghynhadledd gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe gan gwrdd a chriw o bobl ifanc deallus, doniol ac angerddol o’r math na ddes i ar ei traws o’r blaen. Dyma bobl ifanc mor wych a gwybodus roeddwn yn teimlo bron yn swil yn eu cwmni. Ond buan y gwnes i ymgartrefu gan ffurfio cyfeillgarwch gyd’r bobl fwyaf anhygoel i mi gwrdd yn fy mywyd. Does dim dwywaith bod Plaid Ifanc yn gartref i mi bellach.

Ar y cyfan, mae Plaid Ifanc yn llawn o’r top i’r gwaelod gyda meddyliau craff a chlyfar. Mae fy nghyfoedion – neu fy nghymrodyr – bron i gyd yn ffeministiaid, yn amgylcheddwyr, yn wrth-hiliol, yn angerddol dros hawliau LDHT a phobl ddu, asaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn wrth- imperialaidd ac am weld disodli’r system ddosbarth. Dyna i chi lot o dermau. Yw hyn yn broblem? Na, ddim o gwbl. Mae holl anghydraddoldebau sy’n bodoli mewn cymdeithas yn ddarn o’r un brethyn ac wedi eu gweu ac yn gwbl gysylltiedig a’i gilydd. Yr hyn rwy’n ei edmygu fwyaf am fy nghyfoedion yn adran ieuenctid Plaid Cymru yw eu gallu i ddeall a dirnad fod y brwydrau hyn yn gorgyffwrdd a’u gilydd ac i gydnabod fod amddiffyn a hyrwyddo’r gwerthoedd hyn nid yn unig yn ddelfrydol ond yn hollbwysig os ydym am gyflawni y nod yn y pen draw: sef gweriniaeth Gymreig sosialaidd fydd yn rym o ddaioni ar y llwyfan rhyngwladol.

Yn anffodus, mae iaith “boblogaidd” – neu ‘populist’ yn Saesneg, wedi cropian i mewn i’r mudiad cenedlaethol yn ddiweddar. Dyma ieithwedd sydd yn lladd ar bresenoldeb ‘gwleidyddiaeth hunaniaeth’ – “identity politics” gan ddifrio a dilorni pryderon menywod a lleiafrifoedd a’u galw yn hytrach yn “faterion niche”.

Ond beth yn union yw’r materion “niche” hyn mewn gwirionedd?

Yn ôl ffynonellau gwahanol – mater “niche” yw un sy’n ymwneud â’r heriau penodol sy’n wynebu menywod a grwpiau lleiafrifol. Maent yn faterion sydd yn “tynnu sylw” o’r mater go iawn – sef annibyniaeth i Gymru.

Mae’r bobl sydd wedi bod yn ail-adrodd y cysyniad hwn i’w weld yn gyntaf yn dangos eu bod yn methu mynd i’r afael a mwy nag un mater ar y tro ac yn ail, yn anwybyddu’r ffaith mai ymwneud gyda’r materion hyn fydd yr union beth fydd yn annog pobl ar draws cymdeithas Cymru i ddod yn rhan a’r prosiect dros annibyniaeth i Gymru ei hunan. Wedi’r cyfan, mae’r materion “niche” hyn sy’n ganlyniad o anghydraddoldebau yn ein cymdeithas yn effeithio pob un yn ein gwlad, yn uniongyrchol neu fel arall.

Pam y dylid annog menywod i ymladd dros genedl annibynnol sy’n anwybyddu eu brwydrau yn erbyn patriarchaeth? Pam ddylai mewnfudwyr a ffoaduriaid groesawu gwladwriaeth sofran nad yw’n cydnabod yn llawn eu dynoliaeth, heb sôn am eu dinasyddiaeth? Pam fyddai aelodau o’r gymuned LDHT yn dilyn cynrychiolwyr etholedig sy’n gwrthod cydnabod eu hunaniaeth?

Ond hyd yn oed wedyn, ni ddylem ganolbwyntio ar y materion hyn fel ffordd o ddod i ben siwrne yn unig. Dyle’r egwyddor sylfaenol o ddealltwriaeth dynol ein harwain i ystyried y materion hyn fel rhywbeth gwbl reddfol, mor naturiol ag anadlu.

Felly canolbwyntio ar frwydrau menywod a grwpiau lleiafrifol heb ddisgwyl unrhyw beth yn ol.

Mae calon pob un math o wleidyddiaeth flaengar yr un peth yn y bôn: sef sicrhau hapusrwydd, iechyd a diogelwch i bob aelod o gymdeithas. Ers peth amser nawr, rwyf wedi sylweddoli ar duedd i ddefnyddio’r gefnogaeth a roddir i fenywod a grwpiau lleiafrifol er budd strategol gwleidyddol etholiadol. Ni ddylid ymgysylltu â chymunedau du a lleiafrifoedd ethnig er mwyn teimlo’n dda am ein hunain, ac yn hunanfodlon ein bod wedi sicrhau eu pleidleisiau ar gyfer yr etholiadau nesaf. Dylid ymgysylltu gyda’r cymunedau hyn a’r brwydrau sy’n eu wynebu am ein bod ni gyd yn ddynol.

Nid yw anghydraddoldebau cymdeithasol, heddwch, hawliau menywod a phobl traws yn ‘faterion ymylol’ ar gyfer fy genhedlaeth i o ymgyrchwyr. Y croesdorri rhwng y materion hyn gyda cenedlaetholdeb lleiafrifol oedd yr union reswm y deuthum ni’n rhan o’r blaid yn y lle cyntaf, wedi’r cwbl.

Ni allwch wahanu’r frwydr rhag y bobl.

Mae hefyd werth dweud nad yw a ni ddylai gwleidyddiaeth fod yn dirwedd heb deimlad. Mae’r materion rydym ni fel ymgyrchwyr yn ymwneud â hwy yn amlach na pheidio yn ein heffeithio ni ar lefel bersonol. Mae’r obsesiwn sydd gan rai gyda “bias” yn anwybyddu’r ffaith fod llawer ohonom yn cael ein heffeithio yn uniongyrchol gan y gwleidyddiaeth yr ydym yn ceisio ei hyrwyddo. Yn ôl rhesymeg y bobl hyn felly, yr unig bobl fyddai’n gallu rhoi llais gwleidyddol heb “bias” (er nad yw hyn yn bosibl go iawn) yw’r rheiny nad ydynt yn cael eu heffeithio gan y materion mae anghydraddoldebau strwythurol yn eu creu.

Yn syml, mae hyn yn cyfleu neges i fenywod na allant ddadlau am y bwlch cyflog mewn ffordd resymegol, yn dweud wrth bobl dduon na allant drafod trais dan law yr heddlu heb ragfarn, ac yn cyhuddo’r dosbarth gweithiol o genfigen pan fyddant yn nodi’r cynyddu yn y gagendor rhwng y cyfoethog a’r tlawd.

Yn y bôn, mae’r gred hon yn rhoi mwy o rym i’r grwpiau hynny sydd eisoes gyda digon o rym, gan roi pellter rhwng pobl a’r brwydrau mwyaf personol mae nhw’n eu hymladd. Pwy yw’r rheiny sydd ddim yn cael eu heffeithio yn negyddol gan rywiaeth, hiliaeth a thlodi? Yr ateb, wrth gwrs, yw dynion gwyn cyfoethog – ac os ydym yn glynu at resymeg y ddadl uchod – nhw yw’r unig ddemograffig  sy’n gymwys i siarad ar y materion uchod heb y “bias” o’u profi yn eu bywydau pob dydd.

Mae’r cysyniad y dylai gwleidyddiaeth fod yn rywbeth amhersonol a gwyddonol yn anwybodus ac yn sarhaus. Mae’r anwybodaeth hyn hefyd yn tynnu grym a hyder i ffwrdd o bobl sydd eisoes yn dioddef o fethiannau difrifol cymdeithas.

Un o effeithiau mwyaf niweidiol y duedd ddiweddar hon tuag at ddiystyru’r materion uchod fel ‘niche’ yw ei fod yn dileu dynoliaeth pobl sydd eisoes dan anfantais. Rwy’n ddynes ifanc ‘queer’  gydag anabledd anweledig – os ydyw’r rhain oll yn faterion ‘niche’, ydy hynny yn fy ngwneud i yn berson ‘niche’?

Ni allaf ddidoli a rhannu darnau o fy mod a’m hunaniaeth – boed ar lefel bersonol neu wleidyddol, a ni ddylwn i orfod gwneud hynny chwaith. Y cyd-blethu a’r llifo hynny sy’n dod o’r hunaniaethau a’r brwydrau hyn yw beth sy’n ein gwneud ni’n ddynol. Nid yw’r materion a’r anghydraddoldebau hyn ychwaith yn ein tynnu ni oddi wrth ein  hymdrechion tuag at annibyniaeth, ond yn hytrach yn adlewyrchiad o amrywiaeth anhygoel a chyfoethog ein cenedl yr ydym yn dymuno ei weld yn cymryd ei lle ar lwyfan y byd.

Fe orffennaf gyda’r dyfyniad perthnasol hwn gan Martin Duberman, a ddyfynnir yng nghampwaith Daniel G. Williams, Wales Unchained (Gwasg Prifysgol Cymru, 2015);

‘Mae’n anodd gorymdeithio i’r machlud fel “cymuned ddinesig” gyda “diwylliant cyffredin” pan nad yw dilysrwydd ein gwahaniaethau fel lleiafrifoedd wedi cael unrhywbeth mwy na chydnabyddiaeth arwynebol eto – heb sôn am gael ei ddiogelu. Ni allwch ddal dwylo o dan faner gyffredinol pan na  allwch ddod o hyd i’ch enw eich hun arno. Gall hunaniaeth leiafrif fod yn amodol neu’n anghyflawn, ond nid yw hynny’n ei gwneud yn ffug nac yn ddiangen. Ac ni ellir prynu undod diwylliannol ar gost dileu diwylliannol. ”

‘It is difficult to ‘march into the sunset as a ‘civic community’ with a ‘common culture’ when the legitimacy of our differences as minorities has not yet been more than superficially acknowledged – let alone safeguarded. You cannot link arms under a universalist banner when you can’t find your own name on it. A minority identity may be contingent or incomplete, but that does not make it fabricated or needless. And cultural unity cannot be purchased at the cost of cultural erasure.’’


Mae Polly Manning yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio Llenyddiaeth Saesneg. Mae hi wedi bod yn Swyddog Menywod ar bwyllgor Plaid Ifanc ers 2017 ac yn ymwneud hefyd a Merched Plaid. 

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *