Dyma pam benderfynais i sefyll mewn etholiad

Mae Nia Edwards-Behi, sy’n frodor o Lanfairfechan ond bellach yn byw yn Aberystwyth ers 2004, newydd ennill isetholiad ward Gogledd Aberystwyth wedi bod yn hynod o brysur yn ystod yr wythnosau diwethaf yn ymgyrchu.  Er ei hamserlen orlawn, mae Nia yn garedig wedi cymryd ennyd o’i hamser i ysgrifennu pwt i ni ym Mhlaid Ifanc yn y gobaith y bydd merched eraill yng Nghymru yn gallu dysgu rhywbeth o’i phrofiad.  


Yn ei hamser hamdden, mae Nia yn gadeirydd rhwydwaith gwrth-hiliaeth gorllewin Cymru, ac yn bwriadu gweithio’n galed dros gyfiawnder a thegwch yn ei chymuned os caiff hi ei hethol. Mae nifer o fenywod eraill yng Nghymru yn gofidio am bynciau llosg eu hardal, a llawer eisiau datrys y problemau hynny, ond nid hawdd yw gweld swydd etholedig fel platfform sy’n gallu ysgogi’r newid hwnnw.

Mae’n cymryd cryn dipyn o hyder i ddewis sefyll fel ymgeisydd, dewis y mae Nia wedi’i wneud yn ddiweddar.

“Mae’n rhaid i mi gyfaddef, dydw i ddim yn siŵr a fyddwn i wedi mynd amdani os nad oedd un neu ddau o bobl wedi awgrymu’r peth i mi. Nid oes cefndir gwleidyddol gen i o reidrwydd – hynny yw, dydw i heb astudio gwleidyddiaeth nac wedi gwneud lot o ymgyrchu uniongyrchol i’r Blaid o’r blaen. Ond, mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth (fel cyn gymaint o bobl!) a hefyd mewn gweithredu ac ymgyrchu dros bobl.

Wrth gwrs, rhywbeth sy’n hollbwysig i rôl cynghorydd tref yw’r gallu a’r awydd i helpu pobl. Dw i’n credu bod sgiliau perthnasol gen i – profiad helaeth o siarad yn gyhoeddus â phob math o bobl wahanol, a phrofiad o gyfathrebu’n effeithiol â phobl – rhywbeth, dw i’n gobeithio o leiaf, sy’n fy ngwneud i’n ymgeisydd cryf ar gyfer Cyngor y Dref ac yn fy ngalluogi  i helpu’n effeithiol.

Dw i’n mwynhau’n fawr iawn y broses o ganfasio a chael cyfle i drafod materion sy’n bwysig i bobl. Rhywbeth dw i wedi dod i sylweddoli sy’n bwysig fel rhan o waith cynghorydd tref yw bod yn adfocad dros bobl. Mae gan gynghorydd tref gyfrifoldebau penodol wrth gwrs, ond dw i’n credu bod y rôl yn un bwysig er mwyn medru troi at neu roi pwysau ar gynrychiolwyr ac awdurdodau eraill pan mae angen gwneud hynny.“

Gall y byd gwleidyddol fod yn lle unig ac ynysig ar brydiau, ac mae canfyddiad cyhoeddus y byd gwleidyddol i’w weld yn un hynod o wrywaidd.  Mae sawl rheswm dros hyn, a sawl rhwystr i’w datrys wrth annog mwy o fenywod i sefyll mewn etholiadau, boed yn lleol neu’n genedlaethol. Mae gwahaniaeth nodedig hefyd rhwng profiadau menywod mewn gwahanol ardaloedd. Ond nid oes rhaid i brofiad gwleidydd benywaidd fod yn frawychus. Mae Nia yn canmol y gefnogaeth y mae hi wedi ei derbyn i’r cymylau;

“Dw i’n lwcus iawn fod gen i asiant gwych, rhywun sy’n helpu rhoi trefn ar gynlluniau fel amserlen canfasio a threfnu beth sy’n digwydd ar ddiwrnod yr isetholiad. Mae hefyd cynghorwyr gwych eraill yn yr ardal wedi bod yn help mawr wrth ganfasio, gan gynnig cyngor a hefyd dod gyda fi o bryd i’w gilydd ar y stepen y drws.

Mae staff y gangen wedi bod yn wych hefyd, yn trefnu bod taflenni da gen i i’w dosbarthu a threfnu eraill i ddosbarthu o gwmpas y dref. Heb yr help hyn dydw i ddim yn credu byswn i wedi gallu cynnal ymgyrch mor drefnus nac effeithiol (a gobeithio’n llwyddiannus!). Ces i hyd yn oed gyfle i ganfasio o ddrws i ddrws gyda Ben Lake ac Elin Jones, ac roedd hynny’n brofiad gwych. Dw i’n credu fy mod i’n lwcus iawn i gael cefnogaeth cangen ac etholaeth mor brofiadol a gweithgar i helpu.”

Nid oes lle i ddadlau y dylai menywod fod yn ymwneud â phob agwedd o’r broses wleidyddol, ond sut mae mynd ati i godi’r canran o fenywod sy’n ymuno â’r gofrestr genedlaethol? Pa mor bwysig yw digwyddiadau fel Gweithdy Ymgeiswyr Plaid Ifanc, a’r digwyddiadau tebyg yn Aberystwyth a’r Rhondda i ‘Hybu ymgeiswyr Newydd’?

“Roedd y digwyddiad yn Aberystwyth yn un weddol fach. Yn y bôn, sgwrs rhwng gwleidydd profiadol, Elin Jones, a fi, fel rhywun hefo bron dim profiad o gwbl, oedd hynny. Dw i’n meddwl bod y digwyddiad yn fan cychwyn da – roedd ‘na un person yn yr ystafell oedd wedi dod am y tro cyntaf i gyfarfod o’r gangen, a hithau’n fenyw…!

Dw i’n meddwl bod angen gwneud digwyddiadau fel hyn mewn ffordd sydd bron iawn ar wahân i’r Blaid. Hynny yw, er mwyn annog cenhedlaeth newydd mae angen cyrraedd y rheini sydd falle erioed wedi ystyried cefnogi neu ddilyn plaid wleidyddol benodol o’r blaen, ac wn i ddim faint mae cysylltu digwyddiad ag unrhyw blaid yn apelio at ferched sydd falle eisiau gwybod mwy am brosesau gwleidyddol ac ati ond heb ystyried clymu’u lliwiau i un blaid.

Mae ‘na lot o feddwl yn mynd mewn i gynnal digwyddiadau fel hyn hefyd, yn enwedig wrth ystyried lleoliad, trafnidiaeth, hygyrchedd ac ati. Wrth gwrs, weithiau rhaid ymdopi â’r hyn sydd ar gael, yn enwedig os yw’r digwyddiad yn cael ei drefnu heb lawer o gyllid neu mewn amser byr. Ond, mae’n rhaid cofio’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag dod i ddigwyddiadau. Dw i’n meddwl hefyd fod gwrando ar ferched yn bwysig mewn digwyddiadau i hybu ymgeiswyr – a gwrando go iawn, sy’n arwain at weithredu. Falle hefyd fod angen codi ymwybyddiaeth am yr amrediad o swyddi gwleidyddol sydd ar gael – h.y. nid fel cynrychiolydd etholedig yn unig – er mwyn magu diddordeb a hyder.”

Wrth i Blaid Ifanc ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy ryddhau’r erthygl hon, yn y gobaith y bydd yn sbarduno mwy o ferched i weithredu yn wleidyddol, mi fydd Nia yn gwneud yn union hynny yn Aberystwyth!

“Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod bydda i’n helpu gyda digwyddiad arbennig yma yn Aberystwyth, sy’n cael ei gynnal gan Ben Lake yn y dref. Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at ferched ifanc, rhwng tua 16 a 30, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw fynegi pa faterion sy’n bwysig yn eu bywydau nhw – e.e. newid hinsawdd, cyflogau, iechyd meddwl, neu unrhyw beth bach neu fawr. Fformat y digwyddiad fydd siop siarad/gweithdy, a’r bwriad yn y pen draw fydd i’r grŵp ddewis rhyw dri phrif bwnc licien nhw i Ben [Lake] ymgyrchu ac ymdrechu drostyn nhw yn San Steffan.

Y gobaith, wrth gwrs, drwy wneud hyn, yw nid yn unig clywed gan ferched ifanc, ond hefyd eu hannog nhw i ystyried pa fath o weithredu gallan nhw fynd ati i‘w wneud er mwyn creu newid a dylanwadu ar bobl sydd â rhywfaint o bŵer swyddogol – gan amlinellu, wrth gwrs, fod pŵer gyda ni’i gyd os cawn ni’r cyfle i’w fagu.”


 

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *