A’i ti yw Swyddog Cyfathrebu newydd Plaid Ifanc?

Cyfle arbennig i ymuno â Phwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Ifanc, a gwneud gwahaniaeth.

Gofynion y swydd:

  • Gweithio i sicrhau bod pob aelod o Blaid Ifanc yn cael gwybodaeth am weithgareddau Plaid Ifanc ac yn cyfrannu atynt.
  • Ysgrifennu cylchlythyr misol Plaid Ifanc a’i anfon at aelodau.
  • Bod yn gyfrifol am reoli a diweddaru gwefan Plaid Ifanc.
  • Bod yn gyfrifol am reoli a diweddaru gwefannau cyfryngau cymdeithasol Plaid Ifanc.

Cyfnod o 4 mis hyd nes Cynhadledd Flynyddol Plaid Ifanc ym mis Ebrill.

Oes gennyt ddiddordeb? Anfon dy faniffesto at info@plaidifanc.org erbyn 4 IONAWR.

Ethol mewn pleidlais gudd ar-lein erbyn 13 Ionawr.

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *