Ydy Llywodraeth y DU yn gallu pasio’r cytundeb drafft drwy Dŷ’r Cyffredin?

Wrth gwrs, dyfalu’n unig yw hyn yn y bôn. Ond gallwn awgrymu sut bydd pethau’n edrych heb ormod o drafferth.

I ddechrau, y ffordd orau o ddeall sut bydd y siambr yn Nhŷ’r Cyffredin yn pleidleisio yw ystyried datganiadau’r pleidiau a’r ASau unigol o ran eu bwriadau pleidleisio.

I ennill mwyafrif yn y Tŷ, mae angen 320 o bleidleisiau ar y llywodraeth. Wrth gwrs, mae’r Ceidwadwyr wedi ffurfio llywodraeth heb fwyafrif, a hynny gyda chefnogaeth y DUP.

A dyma ddechrau’r broblem. Mae’r DUP wedi datgan yn barod nad ydyn nhw’n bwriadu cefnogi’r cytundeb drafft. Felly, mae’r llywodraeth 10 AS yn brin yn syth.

Yn ogystal â hyn, mae’r Ceidwadwyr eithafol sy’n cefnogi Brexit yn annhebygol iawn o gefnogi’r cytundeb – o ganlyniad, mae’r llywodraeth yn colli 50 o bleidleisiau. Hefyd bydd 16 pleidlais arall yn cael eu colli wrth gynnwys y Ceidwadwyr sydd nawr yn galw am bleidlais i’r bobl. Felly, o ran y Ceidwadwyr, bydd tua 250 o ASau yn cefnogi’r llywodraeth.

Nawr, gadewch i ni edrych ar y Blaid Lafur. Mae Llafur wedi bod yn galw’n gyson am etholiad cyffredinol, yn y gobaith y byddan nhw’n ennill pŵer, heb gynllun am beth fyddai’n digwydd wedi hyn. Felly, mae chwip y blaid yn annhebygol o chwipio’r ASau Llafur i gefnogi’r cytundeb drafft. Wedi dweud hynny, mae’n werth cofio bod tua 15-20 o ASau Llafur wedi mynd yn erbyn y chwip, ac mae’r rhain yn debygol o bleidleisio gyda’r llywodraeth. Felly bydd hyn yn cynyddu nifer yr ASau sy’n gefnogol i’r llywodraeth i tua 265. Ond, nid yw hyn yn ddigon.

Ar ei ben ei hun, byddai clymblaid dros dro rhwng y Blaid Lafur a gwrthryfelwyr y Ceidwadwyr yn gallu curo’r llywodraeth. Yn enwedig wrth ystyried bod Plaid Cymru, yr SNP, y Blaid Werdd a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu pleidleisio yn erbyn y llywodraeth hefyd.


Beth sy’n digwydd os yw’r cytundeb drafft yn methu?

Fel rydym wedi sôn mewn erthygl flaenorol, bydd gan y llywodraeth 21 diwrnod i greu cynllun newydd. O’r hyn rydyn ni’n ei weld, bydd gan y Prif Weinidog dri opsiwn:

Opsiwn 1 – Galw am Bleidlais i’r Bobl. Yn yr un modd â’r refferendwm diwethaf, bydd rhaid i Fil Refferendwm cael ei roi gerbron Tŷ’r Cyffredin. Mae’n aneglur sut bydd y rhifau yn edrych fan hyn. Nid oes sicrwydd y bydd yr ASau a bleidleisiodd yn erbyn y cytundeb drafft o reidrwydd am bleidleisio dros ail refferendwm. Mae hyn hefyd yn wir am yr ochr arall. Ond, wrth i’r galw am bleidlais i’r bobl gynyddu, mae’n bosibl y bydd ASau sydd ddim yn siŵr sut i bleidleisio yn cael eu gwthio i bleidleisio dros ail refferendwm. Felly, mae’n ddigon teg i awgrymu y gallai Bil Refferendwm basio drwy’r Tŷ.

Opsiwn 2 – Galw etholiad brys. Mae’n debyg na fydd y Ceidwadwyr yn cefnogi’r opsiwn hwn gan eu bod yn ofni y byddan nhw’n colli mwy o seddi na’r tro diwethaf. Bydd Llafur fwy na thebyg yn cefnogi hyn – maen nhw wedi bod yn galw am etholiad cyffredinol ers tro. Hefyd, gall etholiad gael ei alw os yw’r Prif Weinidog yn ymddiswyddo, ac os yw’r Prif Weinidog newydd yn methu â ffurfio llywodraeth newydd o fewn 14 diwrnod.

Opsiwn 3 – Theresa May yn ymddiswyddo. Os yw Theresa May yn methu ag ennill cefnogaeth i’r cytundeb drafft nac i’r Bil Refferendwm chwaith, mae’n fwy na thebyg y byddai’n rhaid iddi ymddiswyddo. Wrth gwrs, mae posibilrwydd hefyd y gallai hi gael ei gorfodi allan o’i swydd gan ei ASau ei hun.


5 rheswm pam nad yw Plaid Cymru yn cefnogi’r cytundeb drafft

  1. Mae’r cytundeb yn ein tynnu allan o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau
  2. Nid yw’r datganiad gwleidyddol yn cynnwys y manylion am ddyfodol ein masnachu yn llawn – mae’n bleidlais ddall
  3. Mae’r Prif Weinidog wedi anwybyddu buddiannau Cymru yn llwyr
  4. Ni fydd Cymru yn mwynhau yr un statws arbennig â Gogledd Iwerddon o fewn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau
  5. Nid yw’r Prif Weinidog yn bwriadu cynnal pleidlais i’r bobl
Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *