Beth yn y byd yw’r Cytundeb Ymadael?

Ar goll braidd gyda’r drafft o’r Cytundeb Ymadael?

Dyma ni’n egluro…


Beth yw’r cytundeb drafft?

Mae’r cytundeb drafft yn amlinellu’r broses ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y manylion ynglŷn â masnach, er enghraifft, yn cael eu penderfynu’n derfynol yn ystod y cyfnod trosglwyddo.

Ynghyd â’r cytundeb drafft, mae hefyd dogfen 5 tudalen sef y ‘datganiad gwleidyddol’ sy’n cyfleu gweledigaeth am y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Mae’r datganiad yn sôn am ddyfodol ble mae “ardal masnach rydd gyda phartneriaeth gref a’r nwyddau yn bodoli, gyda dim tariffau na chwota”.

Prif bwyntiau’r cytundeb

  • Ymrwymiadau ynglŷn â hawliau dinasyddion ar ôl i Brexit ddigwydd – dim newid, hawliau pobl yn aros yr un peth.
  • Cyfnod trosglwyddo o 21 mis
  • Setliad ariannol o £39 biliwn

Trefniant ôl-stop Iwerddon

Mae’r trefniant ôl-stop (backstop) yn bwynt difrifol i nifer. Y mater hwn sy’n penderfynu a fydd y DU yn gadael yr UE go iawn, neu a fydd y DU wedi’i chlymu o hyd.

Yn syml, mae’r trefniant ôl-stop yn fesur diogelwch sy’n sicrhau nad oes ffin galed rhwng y DU a’r UE, neu yn bennaf Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Y pryder yw y gallai ffin galed yn ail-danio trafferthion Gogledd Iwerddon.

Y gwirionedd amdani yw, heb ffin galed, bydd Gogledd Iwerddon wedi’i chlymu o hyd i rai o reolau’r UE. Bydd hyn yn sicrhau bod nwyddau yn medru croesi’r ffin heb gael eu stopio. Ond, bydd unrhyw nwyddau sy’n dod draw o’r DU yn cael eu stopio i’w gwirio.

Mae’r trefniant ôl-stop, yn y bôn, yn sicrhau, drwy Ogledd Iwerddon, fod y DU yn parhau wedi’i chlymu i’r UE drwy’r undeb tollau. Dydy’r Brexiteers ddim eisiau hyn ac mae’r DUP yng Ngogledd Iwerddon yn gwrthwynebu unrhyw beth sy’n sefydlu ffin ym Môr Iwerddon.

Ydy’r cytundeb drafft yn datrys y trefniant ôl-stop?

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud nad yw’r llywodraeth eisiau defnyddio’r trefniant ôl-stop, ac mae’r cytundeb drafft yn ymrwymo’r DU a’r UE i ddatrys y broblem yn ystod y cyfnod trosglwyddo drwy edrych ar wahanol drefniadau. Mae’r cytundeb hefyd yn caniatáu i’r llywodraeth ymestyn y cyfnod trosglwyddo os nad oes cytundeb tymor hir wedi’i sefydlu erbyn Gorffennaf 2020, ond unwaith yn unig gall hyn ddigwydd.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae hyn i gyd yn dibynnu ar p’un ai a fydd y Prif Weinidog yn goroesi’r 24 awr nesaf. Os yw hi’n  mynd, bydd pwy bynnag sy’n dod ar ei hôl yn gallu cael gwared ar y cytundeb drafft.

Ond, gadewch i ni dybio y bydd hi’n goroesi.

Wedi i’r cytundeb drafft cael ei basio gan uwchgynhadledd yr UE, bydd San Steffan yn pleidleisio ym mis Rhagfyr i dderbyn neu wrthod y cytundeb. Os yw’r cytundeb yn cael ei wrthod, mae gan Lywodraeth y DU 21 diwrnod i lunio cynllun newydd – gallai hyn gynnwys pleidlais i’r bobl, etholiad cyffredinol neu adael yr UE heb gytundeb. Os yw San Steffan yn derbyn y cytundeb, bydd Bil Cytundeb Gadael yr UE yn cael ei roi gerbron Tŷ’r Cyffredin ar ddechrau 2019. Os yw hyn yn cael ei wrthod, rhaid i’r llywodraeth feddwl am gynllun newydd. Os yw’r bil yn cael ei dderbyn, bydd Senedd yr UE yn pleidleisio arno. Bydd angen mwyafrif syml fan hyn, ond gydag 20 gwlad yn cytuno (sy’n cynrychioli 65% o boblogaeth yr UE). Wedyn, ymlaen i 29 Mawrth 2019. Y DU yn gadael yr UE, y cyfnod trosglwyddo yn dechrau ac yn gorffen ym mis Rhagfyr 2020 (oni bai bod y cyfnod hwn yn cael ei ymestyn wrth gwrs).

Beth mae Plaid Cymru yn ei feddwl?

Mewn datganiad ar risiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AC a arweinydd y Blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi cadarnhau na fydd y blaid yn cefnogi Cytundeb Ymadael a Datganiad Gwleidyddol Llywodraeth San Steffan fel ag y mae.

Wrth siarad ar ôl y datganiad, meddai Adam Price:

“Mae Plaid Cymru wedi galw’n gyson am y Brexit lleiaf niweidiol posibl, lle mae Cymru yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau – mae’r cynnig hwn yn mynd â ni ar daith a fyddai’n gwneud hynny’n amhosibl. 

“Tra bod yr Undeb Ewropeaidd wedi gweithredu fel sefydliad rhyngwladol go iawn lle mae buddiannau pob aelod yn cael eu blaenoriaethu, yn enwedig y pryderon hynny yng Ngweriniaeth Iwerddon, mae Gwladwriaeth Prydain wedi cadw Cymru ar y cyrion yn fwriadol. Yn bell o bartneriaeth gyfartal, mae Cymru wedi cael ei thrin fel gwlad israddol ac ni chafodd y cytundeb hwn ei drafod gyda ystyriaeth dros fuddiannau Cymru.

“Mae Plaid Cymru yn dweud bod Cymru angen Cytundeb Newydd, i’w roi i’r bobl, gyda’r opsiwn i aros.”

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *