Hanes pobl dduon yw hanes Cymru – felly pam ei fod yn anweledig?

Ein cyd-gadeirydd, Fflur Arwel, sy’n adlewyrchu ar mis hanes pobl dduon yng Nghymru – a beth sydd yn parhau i fod ar goll yn ein dealltwriaeth ni o hanes Cymru.


Pob mis Hydref dathlwn Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru.

Nod Mis Hanes Pobl Dduon yw rhoi cyfle i unigolion a chymunedau ledled Cymru ddathlu a chydnabod cyfraniad pobl dduon i hanes economaidd, gwleidyddol, a diwylliannol Cymru.

Mae Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yn cynnal dathliadau ym mhob rhan o Gymru trwy gydol y mis gyda’r nod o ymgysylltu ac addysgu unigolion a chymunedau yng Nghymru. Y prif nod yw sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r cyfraniad y mae’r Diaspora Affricanaidd wedi’i wneud i hanes Cymru. Mae hefyd yn gyfle i’r gymuned ehangach ddysgu, dathlu, hyrwyddo a rhannu ein hanes cyfoethog cenedlaethol gyda gweddill y byd.

Hanes sydd wedi ei wthio i’r cyrion yw hanes pobl dduon. Yn amlach na pheidio, caiff ei anwybyddu a’i dangynrychioli o fewn hanes poblogaidd ac yn anffodus nid yw hanes Cymru yn ddim eithriad.

Mae hanes Cymru ei hunan, wrth gwrs, hefyd ar y cyrion. Dadl a gyflwynwyd mewn un adroddiad sylweddol a ysgrifennwyd i Lywodraeth Cymru gan yr athro dylanwadol Dr Elin Jones oedd bod disgyblion yng Nghymru yn gael eu ‘hamddifadu’ rhag cael eu haddysgu am hanes o safbwynt Cymreig mewn ysgolion – gyda’r pwyslais yn hytrach yn mynd ar hanes Prydeinig neu Anglicanaidd.

Ni ellir diystyru pwysigrwydd y gallu i ddeall, adrodd ac ail-adrodd, a llunio hanes eich hunan. Mae bod yn ymwybodol ac yn berchen ar eich hanes yn fodd o feithrin hunan hyder ac yn gonglfaen sylfaenol wrth ystyried, hunaniaeth, diwylliant a datblygiad grwp o bobl.

Yn achos hanes Cymru, rydym yn gwbl ddyledus i’r haneswyr arloesol hynny megis Gwyn Alf Williams, John Davies a Deidre Beddoe – gan enwi dim ond ychydig, a ymroddodd eu bywydau i gofnodi hanes coll Cymru – hanes sydd yn parhau yn ddieithr i nifer o bobl Cymru hyd yn oed.

Ond hyd yn oed o fewn ein dealltwriaeth bresennol ni o hanes Cymru, mae hanes pobl dduon yn parhau i fod,ar y cyfan, yn anweledig.

Mae rhaid i’n hanes ni gynnwys pob cymeriad fu’n chwarae rhan yn stori Cymru.

Mae angen i ni fod yn onest am y rhan y gwnaeth Cymru ei chwarae yn erchylltra’r fasnach gaethwasiaeth. Mae angen i ni siarad am gysylltiadau castell Penrhyn i’r phlanhigfeydd yn Jamaica, y gweithdai copr yn Nyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon a gynhyrchodd manillas a ddefnyddiwyd i brynu caethweision, neu deulu Grenfell yn Abertawe a oedd yn ymwneud yn helaeth â’r fasnach gaethweision yn El Cobre, Cuba.

Wrth adrodd straeon yr ungiolion o Gymru hynny fu’n ymgyrchu dros ddiddymu caethwasiaeth, mae’n rhaid i ninnau wneud iawn am ein rhan ni fel gwlad yn y fasnach gaethweision rhwng 1650 a 1850 – yn ogystal â’n rhan yn yr ymerodraeth Brydeinig.

Trwy ddeall a derbyn ein sefyllfa gymhleth fel un sydd wedi gwladychu ac wedi cael ein gwladychu y gallwn ni symud ymlaen fel gwlad.

Mae angen inni ddweud wrth y straeon eraill o hanes Du Cymru.

Y don gyntaf o for-fasnachwyr o Somalia a Yemen fu’n cludo glo o Gymru i bedwar ban byd yn yr 1860au cyn bwrw gwreiddiau ym mhorthladdoedd Cymru gan gynnwys y Bari, Caerdydd a Chasnewydd – gan gyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad hanesyddol, cymdeithasol ac economaidd Cymru am dros ganrif.

Y glowyr o’r Caribî yn gweithio ym mhyllau glo’r Cymoedd.

Cyfraniad anhygoel cenhedlaeth Windrush – y teithwyr hynny a fentrodd ar yr SS Empire Windrush o Jamaica, Trindad a Tobago a’r ynysoedd eraill, draw i Brydain o dan yr addewid ffug byddai cyfleoedd newydd iddynt yno gan sylweddoli yn gyflym mai yno i wneud yn iawn am brinder llafur yno wedi yr ail ryfel byd oedd pwrpas eu taith. Er gwaethaf hiliaeth, casineb a chaledi drwy wydnwch bwriodd hwythau eu gwreiddiau gan droi Cymru yn gartref.

Yr arloeswyr â’r ymgyrchwyr – y gorffennol a’r presennol.

Betty Campbell, y pennaeth ysgol du cyntaf yng Nghymru fu’n ymgyrchu i gael mwy o hanes du yn rhan o addysg ysgolion.

Abdulrahim Abby Farah – y “bachgen o Bari” a mab morwr o Somalia fu’n gweithio fel diplomydd yn y Cenhedloedd Unedig. Bu’n ymgyrchu’n ddiflino yn erbyn Apartheid ac i ryddhau Nelson Mandela o’r carchar.

Elvira Gwenllian (Hinds) Payne, cynghorydd benywaidd du cyntaf Cymru a etholwyd i Gyngor Bro Morgannwg ym 1972. Parhaodd i weithio ym myd gwleidyddiaeth tan ei marwolaeth yn 2007.

Eddie Parris, y pêl-droediwr du cyntaf i gynrychioli Cymru. Fe’i ganed ger Cas-gwent yn 1911 ar ôl symud ei rieni i Gymru o Jamaica.

Heb anghofio wrth gwrs, Caerdydd, prifddinas Cymru, un o’r dinasoedd cyntaf amlddiwylliannol o’i math yn y byd.

Nid oes dwywaith amdani, mae hanes pobl dduon yn rhan annatod a chreiddiol o hanes Cymru ac mae’n berthnasol i bob un ohonom.

Mae Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yn gwneud gwaith amhrisadwy yn addysgu pobl yng Nghymru am hanes pobl dduon ein gwlad yn ogystal â hanes pobl o dreftadaeth Diaspora Affricanaidd. Trwy ganeuon, dawns, darlithoedd, cynhadleddau a rhaglenni cymunedol o bob math maent yn herio canfyddiadau negyddol ac yn dathlu hanes pobl dduon yng Nghymru.

Ond dylid astudio a dathlu hanes pobl dduon, a’i gynnwys yng nghwricwlwm cenedlaethol Cymru a thu hwnt – trwy gydol y flwyddyn.

Hanes Cymru yw hanes pobl dduon.

Hanes pobl dduon yw hanes Cymru.

Yng nghynhadledd 2018 Race Council Cymru, cyhoeddodd Dr Abdul-Azim Ahmed o Dîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) bapur cydweithredol ar Hiliaeth a Hil mewn Ysgolion: Profiadau ac Arferion yng Nghymru. Nododd bod “diffyg cynrychiolaeth yng nghwricwlwm Cymreig yn creu cwricwlwm sydd wed’i gwladychu”.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru y byddai’n edrych ar sut mae hanes a diwylliant Cymru yn cael ei haddysgu yn ein hysgolion.

Pan fydd y panel yn dechrau ar y gwaith pwysig hwn, gobeithiaf eu bod yn bwriadu ystyried yr hanesion amrywiol sy’n ffurfio hanes Cymru. Gobeithiaf eu bod yn bwriadu ystyried pwysigrwydd plethu pob llinyn ynghyd – gan gynnwys hanes pobl dduon, i greu clytwaith ehangach o stori hanes Cymru sydd angen i ni ddysgu i’n plant a phlant ein plant.

Mae Cymru, y wlad hon sydd yn “gymuned o gymunedau”, yn wlad aml-ddiwylliannol falch gyda hanes hir o gyfraniadau arbennig a wnaed gan fewnfudwyr a lleiafrifoedd ethnig. Mae ein hanes amrywiol a chyfoethog yn rhywbeth i wirioneddol ei ddathlu.

Os ydym am i Gymru flodeuo yn wlad annibynnol ffyniannus, sydd yn gallu bod yn enghraifft o gydraddoldeb i weddill y byd, yna mae’n rhaid i’r ffordd yr ydym yn adrodd hanes ein gorffennol adlewyrchu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol .

Fel dywedodd Uzo Iwobi, “er mwyn i Gymru fel cenedl fynd yn bell, mae’n rhaid iddi gofleidio ei holl ddinasyddion”.


Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *