Gwyrddaidd – Bywyd di-blastig

I’r rheiny sydd yng Nghaerdydd a’r cyffuniau mae’r wythnos hon yn un pwysig yn siwrnai ymwybyddiaeth amgylcheddol y ddinas. Rydym wedi darganfod beth yw lleoliad y siop newydd di-wastraff, di-blastig Ripplesef y stryd fyrlumus Albany Road. Am enw perffaith i’r siop. Daeth Ripple yn realiti oherwydd fe’i ariannwyd drwy Kickstarter, lle dangosodd aelodau o’r cyhoedd ac o’r gymuned eu cefnogaeth mewn rhoddion. Codwyd dros £33,000 a oedd yn ddigon i cadarnhau lle Caerdydd yn rhan o symudiad di-wastraff sy’n tyfu a thyfu. Cyfwelodd Sioned James, ysgrifennydd Plaid Ifanc, âMari Elin sy’n creu blog ar fod yn Wyrddaiddi ddraganfod mwy am beth a olygir i fod yn ddi-wastraff.


Yn gyntaf oll, beth yn union yw Gwyrddaidd a beth yw ei amcanion?

Blog yw Gwyrddaidd sy’n cofnodi fy ymdrechion i drio byw bywyd llai gwastraffus, a di-blastig.

Ma’r pwyslais ar yr ‘aidd’ – yr ‘ish’ yna. Wy’n meddwl ei fod yn hawdd i swnio’n eithaf hunan-gyfiawn wrth drafod byw yn wyrdd, felly o’n i eisiau pwysleisio mod i ddim yn berffaith a mod i’n cal lot o ‘fails’. Fi’n meddwl ei bod hi’n ddefnyddiol gweld profiadau pobl eraill wrth iddyn nhw drio torri lawr ar bethau di-angen a newid eu ffordd o fyw.


O ran amcanion y blog, i ddechrau roeddwn i eisiau cadw cofnod, rhywbeth o ni’n gallu edrych nôl arno, gweld beth o’n i wedi trio, beth oedd wedi gweithio, beth oedd heb weithio cystal -teip ‘na o beth.

Unwaith ti’n dechre cadw cofnod yn gyhoeddus, a falle hyd yn oed jyst un person sy’n ei ddarllen, yn sydyn reit ti’n atebol i rhywun. Mae ‘da ti blatfform sy’n dy ysgogi i gario ‘mlaen. Mae rhoi rhywbeth ma’s ’na yn ei wneud yn fwy o sialens. Hefyd, y gobaith oedd trio ybrydoli un person, dim ond unperson arall, i drio torri lawr ar faint o blastig ni’n defnyddio a faint o wastraff ni’n cynhyrchu.

Beth yw’r ymateb sydd wedi bod iddo? Oes lot o bobl wedi estyn ma?

Oes!  O‘n i ddim yn disgwyl lot o unrhywbeth, odd e jest yn rhywbeth o‘n i moyn neud yn bersonol a ‘na ni , ond wy’ wedi cal lot o negeseuon wrth bobl yn gofyn am tips neu awgrymiadau. Ma’ lot mwy o bobl nag oeddwn i’n disgwyl yn dechre cymryd diddordeb yn y peth ac yn dechre newid pethau yn eu bywydau eu hunain.  A wedyn fi’n defnyddio Instagram hefyd sydd yn cael ymateb da, wy’n derbyn negeseuon wrth bobl sy’n dweud eu bod nhw’n mynd i drio ambell beth nawr, sydd wedi bod yn hyfryd ac yn anogaeth grêt i gario mla’n.

Oes ‘na rhyw ardal penodol sydd wedi dal diddordeb pobl?

Y stwff mae’r rhan fwyaf yn gofyn amdanyn nhw yw pethau fel shampoo bars, a pynciau ‘health and beauty’, y teip ‘na o beth. Merched yw’r unig bobl, rili, wy’n derbyn cyswllt wrthyn nhw, sy’n ddiddorol.  Ond yn bendant ma’ pobl eisiau clywed profiadau pobl eraill.

Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddilyn bywyd di-wastraff, di-blastig?

Wel fi’n meddwl odd lot o bethau wedi adeiladu lan. Wy’ wastod wedi bod yn hoff iawn o Orcas, ers gwylio Free Willy pan o‘n i’n fach! A fi’n cofio cwpwl o flynyddoedd yn ôl nes i wylio’r rhaglen ddogfen Black Fishac o hynny nes i ddechrau cymryd bach mwy o sylw ar be’ sy’n digwydd i forfilod a dolffiniaid. Ymunais â’r Whale and Dolphin Conservationa ma’ nhw’n anfon cylchgrawn bob chwarter, ac roedd lot o sôn yn dechre dod yn y cylchgronnau yma am effaith plastig ar forfilod a bywyd yn y môr yn gyffredinol, a nes i  ddechre sylweddoli bod ein defnydd ni o blastig yn issue difrifol. Wedyn, wrth gwrs, daeth Blue Planet II, a nath yr holl beth just ffrwydro o fyna; ac yn sydyn reit rodd erthyglau ymhobman, o’dd pawb yn siarad am y peth. Roedd hyn just rownd adeg ‘Dolig a nes i benderfynnu trio torri lawr ar fy nefnydd o blastig fel adduned blwyddyn newydd.  O hynny, mae’r syniad o gynhyrchu llai o wastraff yn gyffredinol wedi dod yn bwysig hefyd, yn ogystal â chael ymwybydyddiaeth ddyfnach o effeithiau fy habits gwario.   

A sut wyt ti wedi dysgu sut i daclo’r peth, gwylio Youtube, darllen llyfrau?

Darllen lot o flogs pobl eraill nes i i ddechrau, ac o ni’n ffeindio rheiny mor ddefnyddiol o’n i eisiau gwneud rhywbeth tebyg yn y Gymraeg. Wy’ hefyd yn joio pori drwy’r llyfr No. More. Plastic., Un bach glas yw e, ac mae’n fyr ond mae’n brillianta’n hawdd iawn i’w ddarllen. Mae e’n amlinellu’r issuesac yn awgrymu un peth bach gelli di wneud, yna rhywbeth mwy difrifol, felly mae’n ffordd dda iawn o ddysgu sut i wneud newidiadau bach i ddechre, ac adeiladu lan i stwff mwy.

Beth yw’r heriau mwyaf rwyt ti’n wynebu wrth ymdrechu i ddilyn bywyd di-wastraff? Sut wyt ti’n eu trechu?

Mae’n eironig achos mae’r holl syniad o fyw yn ddi-wastraff neu’n ddi-blastig yn cyd-fynd â bywyd symlach sydd â llai a llai o wariant. Ond ar y llaw arall y broblem fwyaf yw bod y dechrau’n gallu bod yn ddrud. Os wyt ti’n mynd am yr eitem sy’n defnyddio deunyddiau cynaliadwy ma’ nhw mynd i fod yn ddrytach. So ma’ hynny’n gallu bod yn anodd yn y tymor byr, achos ma’ angen gwario mwy mewn cyfnod bach o amser. Ond yn y tymor hir, wrth gwrs, gelli di weld y buddion. Y theori yw bod ti ddim gorfod prynu cymaint o stwff dros amser. Felly ma’r arian gallu bod yn sialens ar y cychwyn, achos bod e gymaint yn haws a rhatach i brynu rhywbeth rhad, dros dro. Mae’n her i ddod i mewn i’r habit o symud oddi wrth y tafliadwy ac edrych i mewn i rhywbeth sy’n mynd i bara’n hirach.

Y sialens arall, rownd ffor hyn yn enwedig, yw nagwyt ti’n gallu prynu lot yn ddi-blastig, yn enwedig siopa bwyd – ma’ hwna gallu bod moranodd. Ma’ popeth mewn plastig, a does dim dianc rhag lot ohono fe. Pethau fel reis, pasta, cnau neu cous-cous, mae’n rhaid i ti ei brynu mewn plastig, neu ti’n gorfod teithio i rhywle fel Natural Weighyn Crickhowell, neu Ripplesy’ ar fin agor yng Nghaerdydd. Ma’ wir angen rhywbeth felna yn Aberystwyth, felly os oes rhywun ma’s na â lot o arian i wario, agorwch siop ddi-wastraff yn Aber! Y peth yw gyda siopa bwyd yw bod dod adre â llond bag o blastig yn gallu ‘neud i ti deimlo’n euog ac yn anobeithiol. Ond mewn un ffordd mae hynny’n bet positif achos mae’n dangos ein bod ni’n dod yn fwy ac yn fwy ymwybodol o effaith ein gwariant.

fi’n teimlo fel taw’r unig beth sy’n mynd mewn i’n fag du i yw’r ffilms plastig, neu’r haenau tenau o blasting rownd ciwcymber, neu sydd, fel ti’n gweud, rownd pasta.

IE! Mae plastig rownd bananas hyd yn oed…mae’n rhaid i rhywun roi stop ar hyn o’r top!

Mae nifer o bobl yn gweld byw yn ddi-wastraff hefyd yn cyd-fynd gyda byw bywyd minimalaidd. A yw hyn yn wir amdanat ti? Wyt ti’n berson gyda lot o ‘stwff’ neu beidio?

Mae gymainto stwff gyda fi mae’n sili. Fi’n sentimental iawn so fi’n dueddol o brynu, a chasglu, a chadw stwff. Fi hefyd yn hoffi siopa…lot!

Er hyn, y mwy fi ‘di edrych mewn i’r syniad o fyw bywyd di-wastraff y mwy fi’n gweld shwt ma’ torri lawr ar ‘stwff’ yn helpu’r achos.  Dwi’n prynu lawer llai, ac yn cael gwared ar lot o stwff. Pan mae’n dod i ishe prynu rhywbeth, mae angen gofyn o ble mae e’n dod; ydy e’n dod o ffynonellau cynaliadwy, ac yw  e mynd i bara am sbel hir? Ti’n gallu gweld bod y cysylltiad rhwng y ddau beth yn amlwg. Wrth dorri lawr ar bethe ac addysgu dy hun, ti’n dod yn fwy o ‘conscious consumer’.

Beth fydde ti’n dweud yw sgil effeithiau ariannol (personol hynny yw) bod yn ddi-wastraff. Beth yw dy tips i gadw costau bod yn ddi-wastraff mor isel âphosib?

Fel o ni’n dweud mae’n gallu bod yn ddrytach ac yn anoddach yn y tymor byr, ond os wyt ti’n gallu edrych o safbwynt hir dymor yna ma’ lot o’r gwario yn gwneud synnwyr. Bydden i siwr o fod yn gwario £5 neu £6 y tro ar ddeunydd golchi dillad – un o’r bocsys plastig yn’n llawn capsulescemegol – lle gei di rhyw 20 golch am £5 os ti’n dod ar draws bargen. Felly ma’r holl bunoedd yn adio lan.  Edryches i mewn i’r Ecoegg, sydd yn £9.99 one-offac yn para am rhyw 200 golch…plys does dim cemegion! Ac er falle bod bach yn ddrytach ar y pryd, o edrych ar y tymor hir mae’n gwneud synnwyr i wario degpunt am gwerthu blwyddyn o olch.

A wedyn, wrth gwrs, ma’ DIY. Os wyt ti’n gallu gwneud e dy hun, gwna hynny. Ma’ cymaint o’r eitemau di-blastig sy’n ffasiynol ar hyn o bryd, fel  beeswax food wraps, yn ddrud.  Cer i brynu bwndel o fat quarters a peth cŵyr gwenyn a gwna nhw dy hun – ti’n cael lot mwy am dy arian. Os wyt ti’n gallu gwneud e dy hunan wy’n annog hynny, neu o leia trio. Dyw popeth ddim yn mynd i weithio, ond ma’ DIY yn ffordd dda o gadw costau lawr.

Fi’n gwbod bod ti hefyd yn gwneud lot o bethau harddwch dy hun?

Ydw, wel trio beth bynnag! Mae hwnna’n bach fwy hit and miss, ond ma’ lot o’r cynhwysion sydd angen siwr o fod yn stwff sydd ar gael gyda ti yn y tŷbeth bynnag; olew coco, eseential oils ayyb. Mae e werth trio gwneud pethau dy hunan, yn lle dilyn yr instinctnaturiol o brynnu rhywbeth.

Beth sydd wedi taro fi yw nad yw byw bywyd di-blastig, di-wastraff yn rhyw ffordd newydd, fodern o fyw – i’r gwrthwyneb!  Beth ni’n ‘neud yn mynd ‘nôl mewn amser at ffordd symlach o fyw, fel pan oedd mamgu a dadcu yn iau. Ac mae’n dda meddwl, neu ofyn os chi’n gallu, sut oedden nhw’n dod i ben â cadw bwyd yn ffresh, golchi gwallt ag ati – mae’r atebion i gyn yna’n barod.

Rwy’t ti’n byw ym Mhontrhydfendigaid; wyt ti’n ystyried dy leoliad daearyddol fel ffactor sy’n effeithio ar dy ymdrechion i fod yn Wyrddaidd, boed yn bositif, yn negatif, neu unrhywbeth arall?

Fi’n meddwl bod rhywbeth am fyw yng nghefn gwlad sy’n siwtio byw bywyd di-wastraff. Efallai ei fod rhywbeth i neud âthyfu lan gyda mamgu a dadcu ble’r o’dd y pwyslais yna ar wneud pethe dy hun; pobi dy fara dy hun, neu cael dy fwyd o’r cae neu o’r clawdd.

Ac mae byw’n agos i, a gweithio yn Aberystwyth yn beth positif hefyd.  Mae’n dref sy’n eithaf gweithgar o ran bod yn ddi-blastig, ac mae ymgyrch Plastic Free Aberystwyth, sy’n deillio o’r grŵp Surfers Against Sewage yn cynnal digwyddiadau ac yn codi ymwybyddiaeth.  A ma’ da ti siopau fel Maeth y Meysydd,a Treehouse; siopau bach annibynnol ac organig lle ti’n gallu cael bwyd ffresh a llaeth mewn potel wydr.

Ond mae hi hefyd yn gallu bod yn anodd. Does dim siop ffrwythau a llysiau gyda ni yn Aberystwyth; nath hwnna gau rai blynydoedd yn ôl yn anffodus.  A does dim siop ddi-wastraff gyda ni. Felly o ran bwyd a diod mae’n gallu bod yn negatif mewn ffordd, achos ti’n gallu bod yn limitedi be’ ti yn gallu cael yn ddi-blastig.

Gall hwna fod yn wir am Gaerdydd. Weithiau wy’ just yn sdyc yn mynd i archfarchnad, er bod opsiynau eraill, weithiau diogi yw hwna. So dyw e ddim o’r rheidrwydd lot yn well, mae’n dibynnu ar dy lefel di o ymdrech.

Ma’ Morrissons Aberystwyth wedi cal gwared ar fagie plastig ar gyfer ffrwythau a llysie rhydd, ac ma’ nhw’n fodlon rhoi cig a pysgod mewn bocstuppaware, felly ma’ nhw wedi datblygu lot jyst yn y misoedd diwethaf, ac yn gweld bod pobl moyn gweld llai o blastig. Ond ambell waith wy’n gorffen gwaith am 6 o’r gloch; ydw i’n mynd i fynd rownd 4 siop yn trio ffeindio popeth fi angen yn ddi-blastig, neu ydw i jyst yn mynd i fod yn ddiog a mynd i Morrisons? A ma’ hwnna’n beth pwysig i bwysleisio, ein bod ni’n dod yn fwy ymwybodol o’r dewisiadau ni’n eu gwneud; da neu ddrwg.  

Fe’i dderbyniwyd yn eithaf cyffredin erbyn hyn y dylsai pawb ystyried cario bagiau bywyd a photel ddŵr gyda nhw drwy’r amser i leihau ar y defnydd plastig, ond pa fath o hanfodion eraill gelli di awgrymu sydd ddim mor amlwg a fyddai’n lleihau gwastraff yn syfrdannol?

Fi’n deuddol o gael pobl yn gofyn y cwestiwn yma’n aml, felly es i ati i greu zine bach sy’n amlinellu problem plastig ac sy’n rhoi rhai awgrymiadau o bethau allwn ni gyd wneud i leihau ein defnydd o blastig tafliadwy. Ynghyd â hyn, fi wedi creu bwndelbach, le ti’n cal print leino Orca, bathodyn a zine Gwyrddaidd, ble mae cyfran o’r elw yn mynd at waith Whale and Dolphin Conservation.

Yr awgrymiadau gorau i ddechrau yw pethau fel cario potel ddŵr, cwpan coffi, 2-3 bag canfas (rhai digon mawr i neud y siopa i gyd a rhai bach yn llai os ydw i eisiau  pethau rhydd fel bara, ffrwythau, llysiau ayyb), tuppaware box ar gyfer unrhyw gig neu bysgod, a gwelltyn metel ar gyfer cocktails bach ar y penwythnos, (ond a dweud ‘ny dwi ddim wedi gorfod gwneud hynny’n ddiweddar achos bod gymaint o lefydd wedi cael gwared ar wellt plastig a wedi mynd yn syth at wellt papur – hwrê!).

A stwff wedyn o ran y cartref, os wyt ti’n gallu gwneud deunyddiau glanhau DIY ma’ hwna’n brilliant; ma’ finegar, lemwn a bicarb yn gallu glanhau popeth! Pan o ni’n dechre edrych ar faint o blastig sydd yn y tŷ, y ’stafell folchi a’r cwpwrdd dan y sinc odd y ddau waethaf. So ma’ gallu neud newidiadau yn y ddau le yna’n golygu torri lawr ar lot o wastraff plastig.

peidio prynu i mewn i’r syniad bod angen eitem wahanol am wahanol bethau.

Ondife! Gyda’r tri cynhwysyn yma ti’n pretty much sorted. Ac mae’n ffordd arall o gadw costau i lawr!

Petai ti yn wleidydd pa newidiadau fyddi di’n gwneud i newid ein defnydd o blastig a gwastraff?

Yr un peth bydde ni’n ’neud yw mynnu bod archfarchnadoedd yn taclo problem plastig. Unrhywbeth sydd ddim angen bod mewn plastig, dyw e ddim yn ca’l bod mewn plastig. Achos, fel ti’n gweud, bob wythnos pan ma’r bins yn mynd mas, dyna yw bulky sbwriel; pethau hollol di-angen sydd rownd ein bwyd ni, a hwn yw’r stwff ni gyd yn prynu trwy’r amser. Dyw pawb ddim yn prynu coffi take-away, dyw pawb ddim yn prynu poteli o ddŵr, ond ma’ pawb yn gorfod prynu bwyd.

Felly bydden i wir yn trio apelio at ein harchfarchnadoedd i dorri lawr – bydde fe’n neud gymaint o wahaniaeth.  

Yn un o wledydd Scandinafia ma’ arfarchnadoedd wedi dechre cyflwyno ‘plastic free aisle’. Bydden i’n gwthio rhywbeth felna – cymryd y dewis i ffwrdd wrthym ni fel defnyddwyr a’i gwneud hi mor hawdd â phosib i dorri’n dibyniaeth ar blastig.

Sut wyt ti’n credu allwn ni ddenu pobl i mewn i’r sgwrs am fod yn ddi-wastraff neu’n ‘ddi-blastig’ a magu ysbrydoliaeth ynddynt.

Siarad amdano fe! Fi’n gwbod bod cwpwl o fideos gwych ar blatfformau fel Hansh, e.e. Arctig: Môr o Blastig?gan Mari Huws.  Ac mae angen mwy o sgwrsio, a chreu cynnwys diddorol, modern a gweledol.  Ma’ pobl ifainc yn byw a bod o flaen sgriniau o bob math, a falle mai dyna lle mae eu cyrraedd nhw.

Pwy sydd ddim wedi gweld y fideo yna o’r crwban gyda’r gwelltyn yn sownd yn ei drwyn?Mae’n ddychrynllyd, ond ma’ pethau gweledol yn gweithio.  Weithie mae’n hawdd swnio’n elitaidd, a holier-than-thouwrth drafod pynciau fel hyn, felly ma’ just angen siarad yn naturiol am y pwnc ar blatfformau addas.

Ma’ gallu bod peryg ein bod ni’n byw mewn bubbles, a just yn siarad gyda pobl like-minded, ac mewn echo-chambers ar-lein. So os wy’ mas ar y stryd a fi’n gweld rhywun sydd newydd brynu plastic bag wy’n synnu, ac yn ei weld fel peth mor backwards i wneud, ond ma’ rhaid i fi gymryd yn ganiataol bod dim pawb yn gweld yr un negeseuon a fi o hyd. So ma’ rhaid siarad yn naturiol ac agored ddim dod at bethau o berspectif pre-determined.

Be’ wy wedi ffeindio sydd yn ffordd wych o  ddechrau sgwrs gyda rhywun mewn archfarchnad yw, os oes letisen gyda fi mewn bag plastig, neu flodfresychen mewn bag hollol ddi-angen, na’i dynnu’r plastig a’i roi i’r cashier gan ddweud nad ydw i angen yr holl blastig.  Weithiau nawn nhw  holi pam, neu ma’r person tu ôl yn dechre sgwrs achos bod nhw’n gweld rhywbeth newydd. Ac os wyt ti’n neud e’n naturiol, heb wneud môr a mynydd am y peth, mae’n gallu gweithio.

Mae’r un peth yn wir, fi wedi sylwi, gyda cwpanau coffi. Os wyt ti’n mynd a fe i rhyw siop goffi a gofyn iddo gael ei lenwi ti’n synnu pobl ar yr ochr orau. Dyw pobl falle ddim wedi gweld e o’r blaen, ond yn falch i’w weld yn digwydd. Ti byth mynd i gael rhywun sy’n erbyn e, so man a man bod yn hyderus wrth ddechrau’r sgwrs.

Yn union!  A beth dyw pawb ddim yn ymwybodol ohono mewn siopau coffi, yw yn aml iawn ti naill ai’n cael arian bant, neu’n cal dwbwl y loyalty points am ddefnyddio dy gwpan dy hun, ond dy’n nhw ddim yn hysbysebu hyn ddigon yn fy marn i.  

Beth wyt ti’n gobeithio mae’r rheiny sydd yn darllen dy flog yn cymryd o dy waith?

Pan nes i ddechre darllen blogs nes i ffeindio rhai yn eithaf off-puttingachos o‘n i’n teimlo fel bod angen bod yn deip penodol o berson, sydd âllwyth o arian ac sy’n byw mewn bwthyn ar ben dy hun ar ben mynydd. Odd lot ohonyn nhw âvibeeitha elitaidd. Beth wy’n gobeithio dangos yw does dim angen bod â llwyth o arian ac amseri fyw mewn ffordd mwy cynaliadwy; gall unrhywun drio, ac mae newidiadau bach yn gwneud gwahaniaeth.

Sdim rhaid gwneud rhyw fath o overhauldramatig chwaith, ble ti ddim yn prynu dilledyn newydd byth eto; y pwynt yw bod yn ymwybodol a gwneud rhyw fath o ymderch – efallai gwneud dim ond un peth efallai. Os oes 50 person yn darllen y blog, a 50 person yn penderfynnu peidio â phrynnu poteli plastig mwyach, gobeithio byddan nhw’n dylanwadu ar jyst un ffrind arall neu aelod o’r teulu, ac o hynny gallwn ni wneud rhyw fath o wahaniaeth gobeithio.

Ie, dyw e ddim yn drawsnewidiad bywyd.

Os wyt ti ishe trawsnewid, digon teg a cer amdani, ond sdim rhaid. Os bydde banc llawn arian gyda fi ma’ llwyth bydden i’n newid, ond wy jyst yn berson normal, gyda swydd normal ac wy’n neud beth wy’n gallu. A fi jyst yn gobeithio bod un neu ddau berson arall yn meddwl “nai neud beth wy’n gallu hefyd”.

Diolch o galon am rhoi dy amser Mari. Edrych mlaen yn fawr at y zine!

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *