Dros pwy ddylwn ni i bleidleisio yn ras arweinyddaeth Plaid Cymru?

Tri ymgeisydd. Tri dewis. Un Blaid.

Mae papurau pleidleisio ar gyfer etholiad arweinyddol Plaid Cymru wedi eu danfon ac mae’r aelodau yn brysur pleidleisio.

Wyt ti dal yn ansicr dros bwy i fwrw dy bleidlais gyntaf a’th ail bleidlais? Fe holodd Plaid Ifanc tri o’n aelodau sydd pob un wedi gwneud eu dewisiadau a dyma beth oedd ganddyn nhw i’w dweud.

Cyflwynir yr ymgeiswyr yn y drefn mae nhw’n ymddangos ar y papur pleidleisio swyddogol.


Rhun ap Iorwerth

Wiliam Jac Rees, Ceredigion

Mae’r etholiad arweinyddol hwn wedi bod yn gyfle gwych i ni fel plaid gael dadl gadarnhaol ac egnïol am ein cyfeiriad ar gyfer y dyfodol a’r strategaethau byddwn am eu defnyddio i ennill yn 2021. Yn y pen draw, mae’n ymwneud â dewis yr ymgeisydd gorau i fod yn Brif Weinidog, fydd yn gallu ennyn cefnogaeth pleidleiswyr o bob cwr o Gymru ac ein harwain i mewn i’r llywodraeth, ac yna ymlaen at annibyniaeth.

Mae’n amlwg imi nad ydym yn gwneud digon i ennill cefnogaeth mwyafrif o’r pleidleiswyr fydd yn ein galluogi i ffurfio llywodraeth yn 2021. Er gwaethaf ennill pedwar sedd yn yr etholiad diwethaf yn San Steffan, gallai fod wedi bod yn hanner hynny yn unig petai ychydig o gannoedd o bleidleisiau wedi mynd y ffordd arall. Yn y Cynulliad, mae ein grŵp wedi gostwng i ddeg. Mae arolygon barn yn dangos ein bod ni tu ôl i’r llafur a’r Torïaid. Nid yw hyn yn ddigon da.

Mae angen i ni ennill pleidleiswyr newydd ac i wneud hyn mae’n rhaid i ni wella ac yn  fy marn i, Rhun ap Iorwerth yw’r ymgeisydd sydd orau i allu gwneud hyn a chyfleu ein syniadau i bobl Cymru a’n harwain ni tuag at annibyniaeth . Mae cyfathrebu yn allweddol yma, hebddo, mi fyddwn ni’n mynd i nunman. Gan ddefnyddio ei brofiad fel darlledwr, mae gan Rhun y gallu i gyfleu ein syniadau mewn ffordd wahanol, a gyda egni nad ydym wedi ei weld o’r blaen. Rhaid inni hefyd ehangu ein aelodaeth, ac mae Rhun wedi dangos ei fod yn deall yr angen i sicrhau bod pawb sy’n dymuno cymryd rhan yn ein prosiect o adeiladu cenedl yn teimlo fod ganddynt gartref ym Mhlaid Cymru.

Mae Rhun wedi rhoi pobl ifanc wrth wraidd ei weledigaeth am Gymru. Mae’n deall mai ni yw dyfodol ein cymunedau a dyfodol ein cenedl. Byddai ei Gynllun Cymru Ifanc yn rhoi lles ieuenctid wrth wraidd gwneud penderfyniadau llywodraethol ac yn hybu iechyd meddwl a chorfforol. Yn ogystal, mae am weld sefydlu gwasanaeth gwybodaeth a dinasyddiaeth ‘Cymru Ifanc’ (yn debyg i’r hyn y mae’r Llywodraeth SNP wedi’i weithredu yn yr Alban).

Yn gwbl gadarn yn ei gefnogaeth i Gymru annibynnol o fewn yr Undeb Ewropeaidd, mae Rhun wedi cefnogi’r achos dros bleidlais ar y fargen y bydd Llywodraeth Theresa May yn ei dderbyn gan Frwsel. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru gadw ein hawliau i deithio, byw a gweithio yn Ewrop.

Er mwyn helpu roi hwb i’n heconomi mae gan Rhun strategaeth ‘Dod â’ch sgiliau gartref’ a fyddai’n rhoi cyfle i’r bobl hynny sydd wedi gorfod gadael Cymru am addysg a hyfforddiant i ddychwelyd adref er mwyn cyfrannu at ddyfodol ein cenedl.

Er mwyn creu Cymru gymdeithasol gyfiawn ac annibynnol rydym ni ym Mhlaid Ifanc yn dymuno’i weld, mae Rhun yn credu, ochr yn ochr â’n haddewidion o’r hyn y gallwn ei wneud a byddwn yn ei wneud yn ein maniffesto nesaf, y dylem  gynnwys Cynllun Annibyniaeth er mwyn dangos beth y gallem ei gyflawni os oedd gennym ni’r grym a’r offer i wneud hynny.

Gwyddom i gyd ym Mhlaid Ifanc mai annibyniaeth i Gymru yw’r ffordd orau ymlaen i’n cenedl, ond dim ond drwy ddod yn blaid llywodraeth y gallwn wneud hynny. Am y rhesymau a amlinellir uchod, yn fy marn i, Rhun ap Iorwerth yw’r ymgeisydd gorau i allu gwneud hynny. Dyna pam y byddaf yn rhoi iddo fy mhleidlais cyntaf.


Adam Price

Liam Bowen, Sir Gâr

Pan ro’ ni yn yr ysgol, roedd tirlun gwleidyddol Cymru yn bell o’m dealltwriaeth i. Ac i fod yn onest, ro’ ni ddim yn becso chwaith! Ro’ ni’n gwybod fy mod i’n genedlaetholwr, yn caru Cymru a’u hiaith ac yn casáu’r cysyniad o Brydeindod. Ond yn bellach ‘na hynny – oedd gen i ddim diddordeb o gwbl!

Ond, wrth eistedd yn un o fy ngwersi TGAU diflas, arferol – newidiodd popeth. Daeth Aelod Seneddol i’r dosbarth i drafod pwysigrwydd gwleidyddiaeth ac ar ôl hanner awr o areithio ysbrydoledig gan yr AS ifanc taniwyd ysbryd a brwdfrydedd ynof a newidiodd fy mywyd.

Yr Aelod Seneddol hynny, Adam Price oedd wedi fy mherswadio i ymuno a Phlaid Cymru, i ymgyrchu dros Blaid Cymru ac yn y pen draw, sefyll a chael fy ethol fel Cynghorydd Sir dros Blaid Cymru.

Rydym yn ffodus iawn i gael tri ymgeisydd arbennig ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid ac mae Leanne Wood wedi ein harwain drwy gyfnod cythryblus gydag egni, cryfder ac angerdd.

Ond, mae Cymru dan fygythiad. Mae’n cymunedau amrywiol, lleiafrifol dan fygythiad ac mae ein hiaith a’n diwylliant dan fygythiad. Mae’r dde eithafol yn cylchi ac yn cael eu cryfhau gan anallu neu anfodlonrwydd y Blaid Lafur yng Nghymru i amddiffyn Cymru.

Yr unig ffordd, yn fy marn i, o drechi’r Ceidwadwyr creulon a’r Blaid Lafur llipa yw drwy gael arweinydd cryf sy’n peri gofid ac ofn iddyn nhw ‘oll – ac Adam Price yw’r arweinydd hynny.

O arwain y gad yn erbyn Rhyfel Irac yn San Steffan i godi cywilydd wythnosol ar Carwyn Jones yn ein senedd genedlaethol – Adam yw’r arweinydd egwyddorol, carismatig ac effeithiol sydd angen ar Blaid Cymru wrth i ni geisio disodli gafael tynn y Blaid Lafur dros Gymru.

Erbyn hyn, mae Etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a Dinefwr yn rym etholiadol llwyddiannus. Mae Adam a’i dîm yn gwybod yn iawn sut mae ennill etholiadau a dwi’n gryf o’r farn gall Adam wneud dros Gymru beth mae wedi gwneud dros Orllewin Caerfyrddin a Dinefwr.

Cyn gryfed ei allu i sbarduno cynulleidfaoedd Cymru (a Harvard!) gyda’i areithio anhygoel, mae gweledigaeth wleidyddol Adam Price heb ei ail. Mae ei 7 cam i Annibyniaeth a’i 10 pwynt i gryfhau’r economi yn brawf o’i allu clir i greu polisïau hygyrch a chynhwysol sydd yn tanio dychymyg a dod a’r freuddwyd bell o Gymru Rydd yn agosach bob dydd.

Adam Price yw’r rheswm wnes i ymuno a Phlaid Cymru a dwi’ argyhoeddedig bod gan Adam Price y weledigaeth, yr angerdd a’r brwdfrydedd i berswadio pleidleiswyr Cymru mai Plaid Cymru yw’r newid sydd ei angen i adeiladu Cymru newydd.

Dyma ein cyfle ni i waredu Cymru o grafangau Llafur Cymru.

Dyma ein cyfle ni i adeiladu Cymru Rydd, lewyrchus.

Dyma pam dwi am roi fy mhleidlais rhif 1 i Adam Price.


Leanne Wood

Sioned James, Caerdydd

Fel menyw ifanc does yna ddim nifer o ffigyrau cyhoeddus galla i alwn’n ysbrydoledig a chreu brwdfrydedd, heb sôn am fenyw mewn gwleidyddiaeth. Ond mae Leanne Wood wedi bod yn un o’r bobl sydd wedi camu i mewn i’r gwagle. Pan mae Leanne yn siarad dydw i ddim yn clywed rhethreg gwleidydd, neu rhyw ymateb fformiwleaidd, dystlyd does gen i ddim ffydd ynddi. Mae’n ddeialog, gwahoddiad i sgwrs. Nid yw’n dod o le o ego na uchelgais bersonol; nid yw’n dod o le o amddiffyniad na esgisodion; nid yw’n dod o le anwybodaeth na arwynebol. Mae ganddi’r gallu i gyfathrebu ein cyd-werthoedd a phoenydiau mewn ffordd hyderus a chyfarwydd.

Rydym yn ffodus ym Mhlaid Cymru i gael gymaint o unigolion talentog sy’n cyfrannu i’n plaid, sy’n gallu cynnig syniadau arloesol a chyffroi cynulleidfa i weledigaeth ein dyfodol. Mae bob gwleidydd ac aelod yn ran o jig-so Plaid Cymru ond Leanne sy’n gwneud y dweud. Mae ganddi’r gallu i gynnai tân yn y bol a chodi awditoriwm i’w thread, ond hefyd gallwn ymddiried yn ei geiriau. Mae syniadau’n anadlu bywyd ac amcanion yn cael eu cwrdd o’i herwydd hi. Rwy wedi cael digon o dactegau sy’n tynnu a throi nol ac rwy’n dewis Leanne achos rwy’n ymddiried ynddi i wneud y penderfyniad cywir.

Mae nifer ohonom yn rhy gyfforddus ‘ddim yn ymddiried mewn gwleidyddion’ neu ‘ddim yn gwybod digon’ ac yn defnyddio’r esgusodion I fod heb ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth neu i fod yn rhan o dwf a datblygiad ein cymunedau. Gadewir y gwaith caled o adeiladu cenedl i nifer fach; nifer fach sy’n ysgwyddo’r gwaith dylsai’r nifer fod yn gwneud.  Mae Leanne yn un o’r nifer fach sydd yn gwybod hyn eto yn wynebu’r her, gan ymestyn ei gafael cyn belled a phosib i gefnogi pawb. Mae hi wedi defnyddio’i thread i gasglu pleidleisiau, ei dwylo i greu newid go iawn, ac ei llais i rymuso eraill i wneud tebyg.

Ac nid yw hi wedi diflasu, mae mwy ganddi i’w rhoi. Dyna beth yw ysbrydoli – egni di-flino, drwy bopeth. Meddyliwch am ein siwrnai yma, i’r pwynt yma. Mae wedi bod yn un aflonydd wrth i ni gael ein siomi a’n gadael i lawr. Penderfyniadau’n cael eu rhoi ar Gymru heb ein dweud. Rydym wedi cael ein sathru a’n anghofio gan ddau lywodraeth, ac fe all fod yn le unig mewn gwleidyddiaeth pan mae lleisiau gwrthwynebol yn cael ei clywed mor dda. Ond mae Leanne wedi ein llywio ni drwyddo ac mi fydd hi’n parhau i wneud. Mae ei geiriau yn rhai o gysur, gobaith a gwirionedd. Mi fydd hi’n cerfio llwybr i ni tuag at Gymru gwell, teg a rhydd gyda gwydnwch, urddas a realaeth, gan gymryd bob dinesydd gyda hi. Pawb, nid y nifer fach.

Rwy’n siarad gyda chi o le o gryfder, cymhelliant a grymusder. Rwy’ wedi etifeddu’r egni yma wrth Leanne Wood ac rwy’n benderfynnol o basio’r egni ymlaen, i sicrhau iddo donni trwy’n aelodau fel cerrynt, i mewn i’n cymdogion a thrwy ein cymunedau. Yr egni yma fydd yn ein symud ni i weithredu newid a mynnu dyfodol mwy disglair i Gymru. Gadewch iddo beidio â llithro o’n dwylo tro yma.


Os wyt ti’n aelod o Blaid Cymru ac wedi derbyn papur pleidleisio, mae gen ti tan hanner nos, nos Iau 27 o Fedi i anfon dy bleidlais at Ty Gwynfor. Cofia fod modd i ti rifo dy ddewis yn ôl ffafriaeth drwy system STV.

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *