Etholiad Arweinyddol Plaid Cymru – datganiad gan Blaid Ifanc

Mae’n siwr eich bod chi gyd yn ymwybodol fod Plaid Cymru ar ganol etholiad arweinyddol ar hyn o bryd.

Fe fydd Plaid Ifanc yn gwbl niwtral yn ystod yr etholiad hwn. Ni fyddwn ni nac ein canghennau yn cefnogi un ymgeisydd ar draul y gweddill.

Ond, mae perffaith hawl ganddoch chi fel aelodau unigol o Blaid Cymru a Blaid Ifanc i gefnogi unrhyw ymgeisydd mewn capasiti personol. 

Mae croeso ac anogaeth i bob un ohonoch chi hefyd fynychu hystings ac i gymryd rhan mewn trafodaethau ond byddwch yn barchus o eraill pan fyddwch yn gwneud hyn.

Os ydych chi yn ansicr am unrhyw beth, cysylltwch a ni ar info@plaidifanc.org.

Mae’r hystingau yn prysur agosáu ac mae’r manylion ar eu cyfer isod:

4 Medi 7yh Y Miwni, Pontypridd

5 Medi 7yh Neuadd y Dref, Castell-nedd

6 Medi 7yh Y Clwb Rygbi, Coed Duon

8 Medi 5yh Neuadd San Pedr, Caerfyrddin

10 Medi 7yh Pontio, Bangor

11 Medi 7yh Y Pafiliwn, Llangollen

12 Medi 7yh Y Ganolfan, Porthmadog

17 Medi 7yh Medrus, Campws Prifysgol Aberystwyth

Bydd drysau ar agor 30 munud cyn yr amser cychwyn.

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *