Llafur ‘Cymru’ – Rhoi’r Ffidil yn y To Dros Gymru!

Ar Ebrill 24 daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb â Llywodraeth y DU ar ddiwygiadau i Gymal 11. Yn ogystal â hyn, cyhoeddwyd y ddogfen ‘Cytundeb Rhynglywodraethol ar y Mesur a sefydlu fframweithiau cyffredin’, a oedd yn rhoi gofynion pellach ar y modd y byddai’r diwygiadau i Gymal 11 yn gweithio’n ymarferol. Mae’r diwygiadau eu hunain yn troi Cymal 11 ben-i-waered ac yn golygu bod gan y sefydliadau datganoledig hawl i ddeddfu o fewn eu pwerau heb gael eu cyfyngu. Er hynny, mae gan weinidogion y DU hawl i osod rheoliadau a fyddai’n cyfyngu’r sefydliadau datganoledig a allai bara hyd at 5 mlynedd, a 2 flynedd ar ôl y diwrnod y byddwn yn ymadael â’r UE.

I bob pwrpas, ers i Fawrth 29 2019 gael ei nodi fel y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE, gall Llywodraeth y DU gyfyngu Cynulliad Cenedlaethol Cymru hyd nes 2026. Fe gaiff gweinidogion y DU fwrw ymlaen â hyn heb ganiatâd y Cynulliad. Er hynny, mae’r Cytundeb Rhynglywodraethol yn nodi na fyddai Llywodraeth y DU fel rheol yn cymeradwyo cyfyngiadau Cymal 11 heb sêl bendith y Cynulliad. Mae Mark Drakeford AC wedi canmol y Cytundeb am fod yn welliant ar y gwreiddiol.

Yn ddibynnol ar eich safbwynt ar y cytundeb hwn, mae’n enghraifft berffaith o gymryd un cam ymlaen a dau gam yn ôl. Heb os, mae’n wych fod y Cynulliad bellach â’r gallu i ddeddfu o fewn ei bwerau, ond ochr arall y geiniog yw fod gan Lywodraeth y DU hawl i osod cyfyngiadau ar y Cynulliad heb eu caniatâd nhw. Dyma, mewn gwirionedd, y ddadl a fu ynghylch Mesur Ymadael â’r UE o’r cychwyn cyntaf.

Yr hyn mae Llafur wedi ei brofi yw nad ydym yn gallu ymddiried yn y blaid i lywodraethu pan mae buddiannau’r DU yn uwch ar eu rhestr na rhai Cymru. Er gwaethaf y brand ‘Llafur Cymru’, dim ond cangen o fewn Llafur y DU ydynt mewn gwirionedd. Peidiwch â chael eich twyllo gan eu slogan ‘sefyll cornel Cymru’. Yn yr achos hwn, mi fyddai ‘Rhoi’r Ffidil yn y To Dros Gymru’ yn fwy priodol!

Mae hyn wedi datgelu rhagor hefyd, sef strategaeth Llafur Cymru wrth ddelio â Llywodraeth y DU. Strategaeth y gweision bach.

Mae Llywodraeth Cymru’n credu rhywsut fod bod yn driw i’r DU yn golygu y bydd Cymru’n cael ei gwobrwyo. A* am eu hymdrech (!) ond pryd wnaethon ni gicio yn erbyn y tresi ddiwethaf? Oedd, mi oedd yna ddigon o gicio yn erbyn y tresi pan basiodd y Bil Parhad. Neu, o edrych yn ôl, efallai mai cicio’u sodlau oedd Llywodraeth Cymru.

Yn anffodus, wrth ddelio â’r wladwriaeth Brydeinig, dyw bod yn driw’n ennill dim! Er enghraifft, Yr Alban. Oes, mae yna wahaniaethau mawr rhwng y ddau sefydliad datganoledig yn y DU, gwahaniaeth mewn agwedd. Yn Yr Alban  mae’n ymddangos eu bod yn brwydro am bopeth neu ddim o gwbl, tra ein bod yng Nghymru’n barod i fodloni ar sbarion a chyfaddawdu ar ddim. A sut mae’r agwedd honno wedi gweithio hyd yn hyn?

Mae’n wir fod angen peth gyfaddawdu, ond cyfaddawdu ar bolisi, yn hytrach na chyfaddawdu wrth adeiladu cenedl. Mae’n amhosibl disgwyl i wlad ei rhedeg ei hun yn iawn pan mai’r oll sydd ganddi yw cymysgedd o bwerau mewn meysydd gwahanol – popeth neu ddim o gwbl! Dychmyga drїo trwsio peipen ddŵr â thwll ynddi efo morthwyl! Ia, gwallgof…

Ond dyna sydd i’w ddisgwyl gan blaid lywodraethol sydd â gormod o ofn i gicio yn erbyn y tresi, a hynny rhag ofn iddi bechu ei ffrindiau yn Llundain a phleidleiswyr yn Lloegr. Yn yr un modd â’r Alban, pe bai Plaid Cymru mewn pŵer yng Nghymru, ni fyddai’r llywodraeth wedi rhoi’r ffidil yn y to mor hawdd. Gallwn ddweud â hyder y byddai llywodraeth Plaid Cymru wedi dal eu tir, a hynny er budd Cymru. Dyma rywbeth mae’r Blaid Lafur wedi methu â gwneud, nawr yn fwy nag erioed.

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *