Neges Dydd Gwyl Dewi 2018

Mae Dydd Gwyl Ddewi, ein diwrnod cenedlaethol, yn gyfle i ni adlewyrchu ar ein llwyddiannau fel cenedl ac i gofio’r rheiny sydd wedi dod o’n blaenau, gan ail edrych ar y gwaith sydd dal i’w wneud fel mudiad cenedlaethol dros Gymru. Fel ymgyrchwyr o fewn Plaid Ifanc, mae hefyd yn ddiwrnod i ymfalchio ynddo ac i ddathlu Cymreictod gyda’n gilydd.

Mae’n ddiwrnod i fod yn falch o’n llenyddiaeth, ein bwyd, ein llwyddiannau cerddorol ac ym myd y campau. Diwrnod i ni fod yn falch o’n iaith a’n diwylliant unigryw – yn ogystal â bod yn falch o gefndiroedd amrywiol a straeon anhygoel ein dinasyddion.

Yn fwy na dim, mae’n ddiwrnod i ni gael bod yn ddiolchgar bod Cymru’n ddemocratiaeth. Gyda gwleidyddion Catalonia yn y carchar am drefnu refferendwm, a ieuenctid Cwrdistan ar flaen y gad yn ymladd mewn rhyfel dros eu rhyddid, mae’n rhwydd cymryd ein sefyllfa yn ganiataol.

Ar ein diwrnod cenedlaethol, mae’n hollbwysig i ni gofio hanes Cymru. Hanes sydd, drwy’r canrifoedd, wedi bod yn un cythryblus. Mae pobl Cymru wedi rhoi o’u heithaf i gyfrannu at gyfoeth Prydain – ar brydiau, mae’n cymunedau wedi talu’n ddrud, drwy anfon meibion a merched i ymladd mewn rhyfeloedd imperialaidd ac annheg. Mae miloedd trwy gydol ein hanes wedi dioddef oherwydd y diwydiannau trymion sydd wedi gwneud llond dwrn o bobl yn hynod gyfoethog ond wedi gadael nifer o gymunedau Cymru mewn tlodi enbyd.

Cofiwn hefyd am y rhai hynny sydd wedi siapio’r Gymru fodern; dynion a menywod a rhoddodd eu bywydau drwy ymladd yn erbyn ffasgaeth; undebwyr llafur a gweithwyr a darodd y maen i’r wal er mwyn sefydlu gwladwriaeth lês sy’n deilwng o’n cymdeithas; ymgyrchwyr iaith y 70au a oedd yn benderfynol o weld y Gymraeg yn byw; a chenhedlaethau o genedlaetholwyr sydd wedi meddu ar ddyfalbarhad aruthrol, yn gwrthod gweld y cysyniad o ddemocratiaeth Gymreig yn marw ar ei draed.

Eleni, rydym yn meddwl yn arbennig am y miliynau o fenywod drwy hanes sydd wedi gorfod brwydro yn erbyn gorthrwm ac ymddygiad rhywiaethol – mae eu cryfder, dros y canrifoedd, wedi ffurfio asgwrn cefn ein cenedl. Ganrif union wedi i rai menywod gael yr hawl i bleidleisio, mae ffordd bell i fynd cyn i ni weld gwir gydraddoldeb mewn gwleidyddiaeth – mae hyn yn arbennig o wir yn ein plaid a’n mudiad ni ein hunain hefyd.

Meddyliwn hefyd am y miloedd o bobl sydd wedi dioddef oherwydd eu rhywioldeb, eu crêd neu eu hil. Ein dyletswydd ni heddiw yw i adeiladu cymdeithas oddefgar lle mae pawb yn cyfri.

Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae Cymru wedi newid y tu hwnt i bob amgyffred. Mae gennym Gynulliad Cenedlaethol a thoreth o sefydliadau sy’n deilwng o’n statws fel cenedl.

Ond mae’n tlodi materol a safon isel ein democratiaeth yn llesteirio ein cynydd.

Mae Plaid Cymru Ifanc yn benderfynol o adeiladu a chreu cymdeithas sy’n ddigon hyderus i wrthsefyll yr ymosodiadau di-ri mae Cymru yn ei ddioddef.

Mae’r ansicrwydd o ganlyniad i Brexit yn fygythiad mawr i’r cysyniad o genedl Gymreig. Fel pobl ifanc sy’n ymwneud â’r mudiad cenedlaethol, rhaid i ni weithio’n galed i sicrhau bod lleisiau ifanc yn cael eu clywed. Dyna pham rydym wedi lansio’r Arolwg Cenedlaethol, gyda tharged o 10,000 o sgyrsiau gyda phobl ifanc drwy Gymru gyfan. Beth am ymuno â’ch tîm Plaid Ifanc lleol allan ar y strydoedd yn ystod mis Mawrth, a mynychu ein Cynhadledd Genedlaethol ym Mangor ar y 14 o Ebrill?

Mae’r newid yn dechrau gyda ni, yma a nawr. Ymuna â ni heddiw i ymladd dros Gymru rydd, deg, a goddefgar.

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *