Mae brad Llafur ar ddiwygio’r Cynulliad yn profi’n union pam ei fod yn angenrheidiol

Y bore ‘ma, dihunodd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn meddwl am y tywydd oer, yn poeni am y siopa Nadolig, neu’n paratoi eu siwrne i’r gwaith. Fodd bynnag, mewn cornel fach o Fae Caerdydd, roedd panel o arbenigwyr yn datgan wrth gynulleidfa gymharol barchus o ran maint y dylid cynyddu nifer yr aelodau yn y Cynulliad, y dylid newid y system bleidleisio, ynghyd â  gostwng yr oedran pleidleisio I 16.

Cafodd y panel hwn o arbenigwyr ei gomisiynu gan y Cynulliad i ystyried materion ynghylch ethol ein ACau, gyda chefnogaeth drawsbleidiol.

Nid oedd yr adroddiad yn syndod i unrhywun sy’n gweithio neu’n treulio amser yn ein Cynulliad. Mae’n amlwg bod gan ACau ormod o waith. Mae llawer yn eistedd ar nifer o bwyllgorau, yn ogystal â bod yn Ysgrifenyddion neu Weinidogion Cabinet Cysgodol. Maent hefyd yn cymryd rhan mewn nifer helaeth o grwpiau trawsbleidiol, yn mynychu’r cyfarfod llawn, delio â busnes yn yr etholaeth, ceisio cyflawni eu briff, a chraffu ar ddeddfwriaeth a pherfformiad y llywodraeth.

Nid oes modd dadlau bod digon o graffu yn digwydd ar Lywodraeth Cymru. Mae pobl yn sôn yn ddi-baid am wendid cyfryngau cynhenid Cymreig, ond mae hynny oherwydd ei fod yn rhan sylweddol o ddiffyg aeddfedrwydd democratiaeth Gymreig.

Dylid croesawu unrhyw gyfle i wella craffu cyhoeddus ar Lywodraeth Cymru. Dylai 30 Aelod Cynulliad ychwanegol arwain at wella polisi a deddfwriaeth. Gyda chynlluniau ar y gweill i ostwng y nifer o Aelodau Seneddol o Gymru (o’r 40 presennol I 29), ac o ystyried y bydd gadael yr UE yn golygu colli Aelodau Seneddol Ewropeaidd, dylai unrhyw gynnydd mewn Aelodau Cynulliad symud mwy o sylw’r cyfryngau draw at ein Senedd Genedlaethol (gobeithio).

Y gobaith yw y bydd system bleidleisio fwy cyfrannol yn esgor ar fwy o gyffro dros bolisi a theimlad cynyddol ymysg yr etholaeth bod ganddynt ddylanwad dros yr hyn sy’n mynd ymlaen yn y Senedd. Gallai lleihau’r oedran pleidleisio I 16 gael effaith debyg, gyda’r fantais ychwanegol o wahaniaethu rhwng ein sefydliadau gwleidyddol ni a Senedd Prydain. Byddai’r effeithiau hyn hyd yn oed yn fwy eglur pe bai’r argymhellion ynglŷn â gwella cydraddoldeb yn y Cynulliad.
Mae Plaid Ifanc wedi ymgyrchu ers tro dros y Bleidlais yn 16. Nid ni yw’r unig fudiad gwleidyddol ieuenctid i wneud hynny, gan fod mudiadau ieuenctid y Democratiaid Rhyddfrydol, y Gwyrddion a Llafur hefyd wedi gwthio’r achos dros ostwng yr oedran pleidleisio.

Pan gafodd yr adroddiad hwn ei gyhoeddi, roedd Plaid Ifanc yn hyderus y byddai ein mam-blaid yn cefnogi’r argymhellion. Cafwyd datganiad yn brydlon,gan Blaid Cymru, yn cydnabod bod yr adroddiad wedi taro’r hoelen ar ei phen.

Roeddem hefyd yn disgwyl i’r Blaid Lafur wneud y peth cywir ar y mater hwn. Wedi’r cyfan, roeddent wedi ymrwymo i gyflwyno’r bleidlais i bobl ifanc 16 mlwydd oed cyn gynted â phosibl yn eu maniffesto yn 2016 (ar dudalen 20).

Roedd eu hymateb yn sioc i ni gyd.

Yn hytrach na dathlu’r ffaith bod eu polisi o gyflwyno pleidleisiau i ddinasyddion16 oed wedi cael ei gefnogi gan adroddiad arbenigol, mewn un datganiad byr penderfynont adael yr holl bobl ifanc hynny i lawr unwaith eto, a oedd wedi rhoi eu ffydd yn y blaid honno i weithredu newidiadau radical i’n democratiaeth.

Yn hytrach na gwneud y peth gonest a synhwyrol, a chadarnhau y byddant yn gweithredu argymhellion yr adroddiad cyn gynted ag y bo modd, byddant yn aros nes 2019 i benderfynu.

Does dim synnwyr yn hyn. Mae’r adroddiad arbenigol yr oeddent yn ei gefnogi ar y dechrau wedi rhoi’r dystiolaeth i gyd sydd angen arnynt. Yr unig gasgliad y gellid dod iddi ynghylch y penderfyniad hwn yw ei fod yn ymgais i ohirio argymhellion yr adroddiad nes ar ôl etholiad 2021.

Fel y dywed Simon Thomas AC, mae’r weithred hon yn ‘lladd unrhyw obaith o basio’r ddeddfwriaeth angenrheidiol cyn yr etholiad nesaf i’r Cynulliad.’

Mae’n edrych yn debyg bod Llafur yn gwneud yr hyn a fedrant i sicrhau parhad y system annheg sy’n gwarantu mantais etholiadol iddynt am un etholiad arall, er gwaetha’r ffaith bod hyn yn dod ar draul eu hygrededd a’r bobl ifanc sydd wedi dibynnu arnynt.

Mae brad Llafur ar y mater hwn yn dangos yn glir pam fod rhaid gwella’r broses graffu ar ein Llywodraeth ar frys. Mae’r adroddiad hwn yn gam sylweddol  yn y cyfeiriad cywir.

Rhydian Elis Fitter

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *