Llythyr agored i weinidogion Llywodraeth Cymru – rhaid cydnabod gweriniaeth annibynnol Catalwnia

I weinidogion Llywodraeth Cymru: Anrhyd. Carwyn Jones, Jeremy Miles, Alun Davies, Mark Drakeford, Vaughan Gething, Lesley Griffiths, Ken Skates, Kirsty Williams, Julie James,  Dafydd Elis-Thomas, Rebecca Evans, Hannah Blythyn , Eluned Morgan, ac Huw Irranca-Davies.


Mae Plaid Ifanc yn galw ar weinidogion Llywodraeth Cymru i ddatgan eu bod yn cydnabod gweriniaeth Catalwnia fel gwladwriaeth newydd annibynnol.

Gwnaed datganiad o annibynniaeth gan senedd Catalwnia yn dilyn canlyniad y refferendwm annibynniaeth a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2017.

Cafodd dros ddwy filiwn o bleidleisiau eu cyfrif yn llwyddiannus wedi’r refferendwm annibynniaeth. Pleidleisiodd dros 90% o’r rheiny dros ‘Si’ – ‘Ie’, hynny yw o blaid sefydlu Catalwnia yn wladwriaeth annibynnol ar ffurf gweriniaeth.

Cynhaliwyd y refferendwm hwn yn unol â deddf y refferendwm a basiwyd gan Generalitat Catalwnia.

Ar 28 Hydref 2017 fe wnaeth Senedd Catalwnia ddatgan annibynniaeth yn swyddogol, gan wireddu drwy hynny fandad etholiadol ac ewyllys ddemocrataidd pobl Catalwnia yn dilyn refferendwm 1 Hydref.

Dywed y datganiad, ‘Rydym yn datgan bod Gweriniaeth Catalwnia yn wladwriaeth sofran, gyfreithiol, ddemocrataidd, gymdeithasol gyfiawn’. Pasiwyd y datganiad annibynniaeth gyda 70 o bleidleisiau o blaid, 10 yn erbyn a 2 yn ymatal.

Nododd Senedd Catalwnia bod angen i lywodraeth Catalwnia weithredu rhai mesurau er mwyn sicrhau bod y wladwriaeth newydd yn effeithiol ar unwaith, gan gynnwys derbyn cydnabyddiaeth o’r weriniaeth newydd gan ‘bob gwlad a sefydliad’.

Ar yr un pryd, cytunodd Cyngor Seneddol Sbaen i ddiddymu Llywodraeth a Senedd Catalwnia yn gyfan gwbl ac i atal hunan-lywodraeth Catalwnia. Mae’r penderfyniad hwn yn gwbl groes i’r ewyllys ddemocrataidd a fynegwyd gan ddinasyddion Catalwnia yn y gorsafoedd pleidleisio. Mae hefyd yn gwrthddweud cyfansoddiad gwladwriaeth Sbaen ei hunan sydd yn nodi yn ei rhagymadrodd ei bod am ymrwymo i sefydlu ‘cymdeithas ddemocrataidd ddatblygedig’. Ond yn fwy na dim, yn dilyn datganiad annibyniaeth Catalwnia, nid oes gan Sbaen unrhyw fandad democrataidd o gwbl dros Gatalwnia a’i phobl.

Mae’r hawl i hunan-benderfyniad wedi’i hymgorffori yn Siarter y Cenhedloedd Unedig. Mae’r hawl hon yn perthyn i bob person, fel sydd wedi’i gydnabod yn yr erthygl gyntaf yn y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol a’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (1976).

Mae paragraff cyntaf yr erthygl hon yn nodi:

‘Mae gan bob person yr hawl i hunan-benderfyniad. Yn rhinwedd yr hawl honno, mae ganddynt yr hawl i benderfynu ar eu statws gwleidyddol ac i ddatblygu yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.’

Fel dinasyddion rhyngwladol, mae’n rhaid i ni gydnabod, amddiffyn a chynnal yr archddyfarniad hwn.

Aeth miliynau o ddinasyddion Catalwnia i fwrw eu pleidlais ar 1 Hydref, a thrwy wneud hynny, roedden nhw’n arfer eu hawl ddemocrataidd. Gwnaethant hyn er gwaethaf y trais a ddaeth i’w rhan yn y gorsafoedd pleidleisio gan heddlu gwladwriaeth Sbaen. Mae’n rhaid i ni fel cymuned ryngwladol barchu ewyllys dinasyddion Catalwnia a sicrhau bod eu hawliau democrataidd a’u dyheadau am annibyniaeth yn cael eu gweithredu. Gallwn wneud hyn drwy gydnabod dilysrwydd gweriniaeth Catalwnia a chondemnio’r defnydd o rym, carcharu a thrais gan wladwriaeth Sbaen.

Drwy gydnabod Gweriniaeth Catalwnia, byddai Llywodraeth Cymru yn dangos bod gan ein llywodraeth genedlaethol ymrwymiad a chyfrifoldeb dros ddemocratiaeth, deialog ac urddas.

Mae hyn yn fater i ni ein hunain fel dinasyddion Ewropeaidd a rhyngwladol. Rhaid inni bellach gefnogi pobl Catalwnia a’u Senedd wrth iddynt geisio cyflawni’r mandadau democrataidd drwy ddeialog, sefydlogrwydd a heddwch.

Felly, mae Plaid Ifanc yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod gwerthoedd democrataidd, i amddiffyn yr hawl i hunan-benderfyniad fel sydd wedi’i chydnabod gan y Cenhedloedd Unedig (sefydliad y mae Cymru’n rhan ohono), ac i gydnabod gweriniaeth annibynnol Catalwnia.

Llofnodwyd gan Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Ifanc
Emyr Gruffydd
Sioned Treharne
Morgan Bowler-Brown
Rhydian Elis Fitter
Lois Roberts
Fflur Arwel
Polly Manning
Jamie Evans

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *