Pan ddaeth Leanne Wood i fy ysgol i

Aelod Preseli a Sir Benfro Alanna Jones sydd yn myfyrio ar yr amser daeth Leanne Wood i’w hysgol hi, a’r argraffiadau oedd ganddi yn dilyn yr ymweliad.


Ym mis Ionawr, daeth Leanne Wood i’m hysgol, Ysgol y Preseli i drafod gwahanol bynciau gyda disgyblion. Fel y gallwch ddeall, roedd y rhan fwyaf o’r cwestiynau wedi’u seilio ar Brexit ac addysg. Un pwnc a gododd yn ystod y drafodaeth oedd a fydd hi’n bosib i Gymru i ymuno a’r Undeb Ewropeaidd fel gwlad annibynnol. Dilynwyd hyn gan drafodaeth ar yr Alban, a sut y bydd hi’n fwy syml iddynt i ail-ymuno â’r UE gan yr oeddent wedi pleidleisio dros aros ynddi.

Fodd bynnag, dywedodd Leanne wrthynt os oedd yr UE yn caniatáu i’r Alban i fod yn aelod, ond nid ydynt yn gadael y Deyrnas Gyfunol, yna gall yr Undeb Ewropeaidd wynebu problemau wrth wledydd eraill sydd yn awyddus i fod yn annibynnol megis Gwlad y Basg a Chatalwnia.

Gan ystyried fod yr Alban, Catalwnia a Gwlad y Basg i gyd yn cael eu hystyried fel gwladwriaethau ymreolaethol, oni ddylid eu trin yn gyfartal? Yn ôl Geiriadur Saesneg Caergrawnt, diffinnir “ymreolaethol” fel “annibynnol gyda’r pŵer i wneud penderfyniadau eu hun”. Fodd bynnag, a ydy hi’n bosibl i ddadlau fod y gwledydd hyn yn wir yn annibynnol? Ag oes ganddynt y pŵer i wneud eu penderfyniadau eu hun?

Os roddir aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd i’r Alban, ond yw hi’n deg i Gatalwnia a Gwlad y Basg ddod yn aelodau annibynnol o’r Undeb Ewropeaidd hefyd? O ystyried bod ganddynt oll bwerau dros feysydd polisi tebyg megis iechyd a phlismona.

17029118_10155106673033885_1219398056_n

Felly, ble mae hyn yn gadael Cymru a’i dyfodol hi o fewn yr UE? Gyda mwyafrif yn pleidleisio i adael, bydd hi’n anodd yn ddemocrataidd i ail-ymuno a’r UE. Felly, mae yna bosibilrwydd bydd rhaid cael pleidlais arall ar amodau unrhyw ddêl Brexit. Mae Leanne Wood a’r Prif Weinidog wedi amlinelli eu hachos i gadw Cymru o fewn y Farchnad Sengl a’i gyfnewid a system mewnfudo yn seiliedig ar waith. Oherwydd y canran uchel o allforion Cymru sy’n mynd i’r Farchnad Sengl, byddai dêl o’r fath yn amddiffyn buddiannau economaidd Cymru ac yn rhoi sefydlogrwydd i fusnesau Cymru sy’n allforio i’r UE.

Fodd bynnag, hyd yn oed os digwyddir dêl fel yr un a amlinellwyd, nid oes gan Gymru’r un lefel o ymreolaeth sydd gyda’r Alban. Nid oes gennym ein system plismona ein hunain, neu system addysg hollol annibynnol. Mae’r Mesur Cymru ddiweddar wedi syrthio’n fyr o nifer o’n gobeithion. O’i gymharu â’r Alban, Gogledd Iwerddon a hyd yn oed rhai dinasoedd yn Lloegr, mae setliad datganoli Cymru yn ymddangos yn wan, y wlad wedi’u dal nôl gan y ddau brif blaid yn San Steffan y ddwy blaid wedi pleidleisio dros y setliad mewn pleidlais yn y senedd. Bysaf yn cefnogi annibyniaeth i Gymru ag i’r Alban, ond credaf bod angen economi cryfach, pwerau annibynnol dros blismona a thrysordy Cymreig hyd yn oed cyn all annibyniaeth i Gymru fod yn lwyddiant. Er mwyn adeiladu’r economi cryfach hyn, mae angen setliad datganoli sy’n addas ar gyfer anghenion Cymru, yn ogystal â’g aelodaeth o’r Farchnad Sengl.

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gallwch ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>