‘Mynd ar flaen y gad’ – Ysgolion Gaeaf 2017

Mae mudiad ieuenctid Plaid Cymru, Plaid Cymru Ifanc, yn edrych at fynd ar ‘flaen y gad’ wrth edrych ymlaen i ddyfodol gwleidyddol Cymru. Bydd y gwaith yn dechrau gyda dwy ysgol aeaf arbennig fydd yn cael eu cynnal yng nogledd a de Cymru mis Ionawr.

Bu 2016 yn flwyddyn anodd i nifer o bobl ifanc wleidyddol flaengar’ meddai cadeirydd Plaid Cymru Ifanc, Emyr Gruffydd, ‘Mae’n bwysig felly ein bod ni’n hyfforddi ein gilydd ac yn gwella ein dealltwriaeth o’r sialensau dyrys sy’n  ein wynebu fel cenedl’.

Bydd dwy ysgol aeaf yn cael ei cynnal – un ym Mangor a’r llall yn Nghastell Nedd. Mae’r digwyddiad am ddim ac yn agored i bobl ifanc.

‘Rhaid i ni fod yn ffres ac ar flaen y gad wrth i ni sefyll mwy o ymgeiswyr Plaid Ifanc nag erioed yn etholiadau lleol 2017 ac mae’r Ysgol Aeaf yn ffordd arbennig i ddechrau ar y gwaith’ ychwanegodd Emyr Gruffydd. 

Bydd yr ysgol aeaf gyntaf yn cael ei gynnal ym Mangor yn ystafell Eric Sunderland ym mhrif adeilad Prifysgol Bangor am 11 o’r gloch y bore, dydd Sadwrn yr 14eg o Ionawr.

Bydd yr ail ysgol aeaf yn cael ei gynnal ym Mharc y Gnoll yng Nghastell Nedd am 10.30 o’r gloch y bore dydd Sadwrn 28ain o Ionawr.

I gofrestru clicia yma.

Welwn ni di yno!

3c0de2e7-ec58-4a5f-b24b-5c7012e1718e

 

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gallwch ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>