BARN: Digon o ddagrau – mae’n amser gweithredu!

Kieran Sawdon sydd yn cnoi cil ar yr hinsawdd gwleidyddol sydd ohoni…


8 mlynedd yn ôl, roeddwn i’n eistedd yn fy ystafell wely yn gwylio’r teledu, gyda’r sain yn ddigon isel i guddio’r ffaith fy mod i’n bwriadu aros ar ddihun drwy’r nos i wylio canlyniadau’r etholiad wnaeth ethol Barack Obama fel arlywydd yr Unol Daleithiau. Dyna oedd dechrau fy siwrne o hunanddarganfod, ac rwy’n cofio heddiw faint o obaith oedd gennyf yn sgil etholiad Obama. Hyd heddiw, rwy’n dweud wrth ffrindiau mai dyma oedd un o’r prif resymau dros fy ngweithgarwch gwleidydyddol.

Unwaith eto eleni, ro’n i ar ddihun drwy’r nos, ac unwaith eto ro’n i yn fy nagrau ar ddiwedd y noson – ond y tro hwn, am y rhesymau anghywir. Ofn. Ymraniad. Casineb. Dyma’r prif themâu sydd wedi nodweddu ymgyrch Donald Trump i gyrraedd y Tŷ Gwyn. Mae America yn haeddu gwell na hyn, ond nid yw America ar ei phen ei hun yn y frwydr hon. Mae’r byd i gyd yn haeddu gwell.

Yr hyn rydyn ni wedi’i weld yn ymgyrch Trump yw ymgais arall i gyfiawnhau ymraniad, gwahaniaethu a bwlio agored. Yn yr ynysoedd hyn, fodd bynnag, mae’r perygl ddwywaith yn waeth. Cafodd rhai o syniadau mwyaf arswydus ein cymdeithas eu datgelu gan y refferendwm diweddar yn y DU; mae’r bobl sy’n arddel y syniadau hyn nawr yn teimlo, ers etholiad UDA, bod cyfiawnhad dros yr achosion hyn. Dydw i ddim yn gweld bai ar bawb wnaeth bleidleisio i Adael yr UE – rwy’n derbyn bod rhesymau dilys dros adael. Fodd bynnag, ni all trefnwyr yr ymgyrch i Adael anwybyddu’r ffaith bod yr ymgyrch wedi’i chefnogi gyntaf gan rai o adrannau mwyaf ofnadwy ein cymdeithas, gan gynnwys mudiad ‘Britain First’ a’i syniadau erchyll.

Y ffordd orau o grynhoi hyn i gyd yw’r frawddeg ganlynol: mae’r byd wedi mynd yn wallgof.

Beth sy’n mynd mlaen?

Felly sut rydyn ni wedi caniatáu i’n cymdeithas ddod i’r sefyllfa hon? Beth sy’n mynd ymlaen? Mae’r ateb yn eithaf syml yn y bôn – mae pobl yn rhwystredig bod eu problemau a’u trafferthion yn cael eu hanwybyddu. Nid yw’r status quo yn gwneud dim i’w helpu, ac mae’r wlad wedi anghofio amdanyn nhw tra bod lleiafrif bach wedi ffynnu. Yn America, fel yng Nghymru, mae pobl yn ymbil am newid. Does dim ots ganddyn nhw am sgil-effeithiau’r newid hwnnw, does dim ots ganddyn nhw am y syniadau mae newid yn eu cyfiawnhau. Iddyn nhw, does dim yn waeth na’r sefyllfa maen nhw ynddi ar hyn o bryd.

Brexit a Trump yw ffordd y bobl o frwydro yn erbyn y sefydliad sydd wedi eu diystyrru nhw. Ces i fy magu mewn tref yn y cymoedd, lle mae’r ganolfan gymunedol ar ddiwedd y ffordd yn ymddwyn hefyd fel banc bwyd, lle mae fy nghymdogion yn ei chael yn anodd cadw deupen llinyn ynghyd o ganlyniad i ymosodiadau o du’r llywodraeth fel y dreth ystafell wely bondigrybwyll. O ystyried hyn, rhaid cyfaddef, dwi ddim yn gweld bai arnyn nhw.

Un ateb sydd, felly: rhaid i’r status quo newid, a hynny ar frys. Dyma’r union adeg, felly, y dylen ni yn Plaid Ifanc a Phlaid Cymru gamu i’r adwy. Mae unrhyw un sydd wedi ymwneud â ni yn y gorffennol yn gwybod mae ein raison d’être ni yw chwalu’r status quo.

Rydyn ni’n gwybod nad yw Llafur yn becso taten amdanon ni, er mor gyfeillgar mae Corbyn yn gallu ymddangos weithiau. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod holl anhrefn Llafur wedi rhoi rhwydd hynt i’r Torïaid fod mewn grym am sbel hir. Yn union fel pobl UDA, mae pobl Cymru yn credu mai dewis rhwng drwg a gwaeth yw’r unig opsiynau. Yr unig beth mae pobl yn galw amdano yw gobaith y bydd yfory’n well.

Wyt ti’n cofio arwyddair yr ymgyrch i Adael yr UE? ‘Take Back Control’. Er tegwch, mae’r neges yn un deniadol. Roedd yn apelio at emosiynau pobl ac yn gafael ym mhawb a oedd yn teimlo nad oedd llais ganddyn nhw, nad oedd neb yn poeni amdanyn nhw. Rwy’n credu mai’r neges hon oedd un o’r prif resymau pam pleidleisiodd y DU i Adael. Yn yr un modd, roedd cefnogwyr Trump yn emosiynol o weld y slogan ‘Make America Great Again’, ac mae’r ddwy sefyllfa’n debyg iawn yn fy marn i. Mae’n drueni mawr, mewn gwirionedd, bod dwy neges sy’n cynrychioli gobaith wedi’u defnyddio er budd ymgyrchoedd a oedd yn hyrwyddo cynnydd yr adain dde eithafol.

Gweledigaeth i Gymru

Felly, rwy’n datgan mewn ysbryd agored, cynhwysol a phositif – Mae’n bryd hawlio rheolaeth yn ôl i Gymru ac adfer ei mawredd unwaith eto. Mae gennym ni, aelodau Plaid Cymru, weledigaeth am Gymru sy’n rheoli ei thynged ei hun; sy’n cynorthwyo ei chymdogion; sy’n caniatáu i’w phobl lwyddo mewn bywyd ac sy’n gwrthod anghofio am neb. Rydyn ni’n credu’n gryf bod hyn yn rhan annatod o’r hyn ydyw i fod yn Gymro neu’n Gymraes – hunaniaeth ydyw sydd ar agor i unrhyw un ei mabwysiadu, cyhyd â’u bod nhw eisiau cymryd rhan yn hanes Cymru.

Gall Cymru chwarae rhan ar lwyfan y byd gyfuno cynnydd ac agwedd gynhwysol. Cymru sy’n caniatáu i ni, drigolion y wlad hon, benderfynu ar yr hyn sy’n digwydd yma a sut. Cymru lle rydyn ni’n rhydd o’r rhwymau sy’n ein clymu ac yn ein rhwystro rhag ffynnu. Cymru sy’n chwalu’r status quo ac sy’n dod â chymdeithas bositif, amlddiwylliannol a llewyrchus yn ei le.

Hapusrwydd a llwyddiant – yr unig ddau beth mae pobl wir eu hangen. Er mwyn i ni roi’r pethau hyn i’n trigolion yma yng Nghymru, rhaid i ni roi’r pŵer a’r dylanwad i’n gwlad i gyflawni’r nod.

Beth bynnag fo dy hil; dy rywedd; dy rywioldeb; dy iaith; dy gefndir. Mae gan bawb ran i’w chwarae yn hanes Cymru.

Dyma’r neges sydd angen ei rhannu â phawb. MAE dewis arall heblaw am y status quo. Gallwn ni lwyddo fel cymdeithas bositif a chroesawgar, ac arwain y ffordd i wledydd eraill ledled y byd. Mae’r pŵer a’r gallu gennym ni – y cwbl sydd angen ei wneud yw rhannu’r freuddwyd a dal gafael ynddi. Mae angen i ni adeiladu mudiad sy’n herio ffasgwyr adain dde eithafol ac sy’n dangos bod dewis amgen i syniadau hyll y grwpiau hyn.

Rhaid sefydlu’r cynllun hwn nawr. Lledaenu’r neges hon. Chwalu’r status quo a herio’r adain dde eithafol tra’n bod ni wrthi. Ymunwch â ni – bawb. Helpwch ni i ledaenu’r neges. Digon o ddagrau, mae’n amser gweithredu!

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *