Mwy na tîm Pêl-droed

Mae’n dipyn o beth pan nad ydi’r mae’r frawddeg “Ti wedi gwireddu ‘mreuddwydion I” yn ddigon i gyfleu hapusrwydd rhywun.

I ddilynwyr pel-droed Cymru, fe wireddwyd ein breuddwydion ni ar noson wlyb yn Bosnia, ym mis Tachwedd 2015, wedi i ni lwyddo i fynd drwyddo i Bencampwriaeth Ewrop. Daeth blynyddoedd o obaith a blynyddoedd o fethiant i ben. Ond roedd beth ddigwyddodd yn Ffrainc yr haf hwn gymaint mwy na hynny – nid dim ond chwarae ym Mhencampwriaeth Ewrop y gwnaethom ni – mi wnaethom ni serennu.

Daeth pobl ledled y byd i wybod am hanes ein chwarewyr arwrol ac ysbryd diysgog ein tim. Er i ni fethu a chipio’r brif wobr, fe gipion ni galonnau y byd pel-droed. Does dim ond angen edrych ar ddilynwyr pel-droed Cymru a’r dagrau yn llifo i lawr eu wynebau i weld pa mor bwysig oedd hyn iddyn nhw. Dyma fod yn dyst i’r amhosibl. 

Ond sut all tim pel-droed olygu cymaint i ni?

Rydym ni gyd yn ymwybodol o hanes a methiant tim Cymru yn ystod y 58 mlynedd diwethaf. Teimlai bron ein bod ni wedi cael ein diarddel o’r cyfleon i chwarae ar y llwyfan rhyngwladol. Golygai blynyddoedd o fethiant fod pobl ar draws Cymru yn colli diddordeb yn y tim cenedlaethol ac yn colli gobaith. Byddai Cymru yn chwarae yn Stadiwm y Milieniwm (sydd yn dal hyd at 70,000 o bobl) o flaen dim ond ychydig o filoedd a’r naws yno yn un o wangalondid ac anobaith. Pan fyddai pencampwriaethau mawr yn cael eu cynnal, byddai Cymru, i bob pwrpas, yn cael ei thrin fel rhan o Loegr – ein siopau dan ei sang a nwyddau Seisnig. Teimlai yn aml iawn fod ein tim cenedlaethol yn farw. 

Hyd yn oed yn 2014 roedd galwadau gan Wales Online i ddiddymu ein tim cenedlaethol ar draul “Team GB”. Cafwyd Aelod Seneddol yn dadlau’r mater yn Nhy’r Cyffredin hyd yn oed. Ac yn siwr i chi – tim Lloegr fyddai hwn, gyda rhai o’n chwaraewyr Cymreig gorau ni, o dan enw gwahanol. Byddai’r naws anhygoel sydd wedi datblygu yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn cael ei gyfnewid am gemau yn Wembley. Byddai torf o ddilynwyr yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn groch ac yn angerddol yn diflannu. Ac, efallai yn waeth na dim, byddai the Barry Horns yn mynd yn angof. 

I’r dilynwyr Cymreig triw arhosodd gyda’r tim drwy’r blynyddoedd anodd, a hyd yn oed i’r rhai oedd bellach wedi colli pob ffydd, roedd dim ond bodolaeth tim Cymru yn rhywbeth i fod yn falch ohono. Roedd ei gweld nhw’n cynrychioli’r wlad gyda gymaint o angerdd, brwdfrydedd, sgil ac ymroddiad mewn rownd cyn-derfynol mewn pencampwriaeth mor fawr yn fwy na profiad o lawenhad – roedd yn fraint roeddem wedi ymladd amdano. Does dim syndod felly mai un o hoff slogannau y ffans, sydd bellach wedi ei argraffu ar sticeri ar draws ein gwlad, “Independent Football Nation”.  

Ac am genedl pel-droed ydym ni.

Mi wn am bobl sydd ‘rioed wedi gwylio gem o bel-droed yn eu bywydau roddod floedd o hapusrwydd wrth weld Robson-Kanu yn sgorio. Ond er mor hawdd fyddai bod yn falch o dim mor dda a’n un ni, fe aeth fy malcher i tu hwnt i hynny. Mewn cyfnod ble mae Cymru dan fygythiad gan y rheiny sydd am rannu ein cymdeithas, fe ddangosodd ein tim pel-droed  cenedlaethol ni beth yn union ydi o i fod yn Gymreig.

13624440_10208561568409479_2028037668_n

Yn ein tim, mae ganddom ni siaradwr Cymraeg o Benygroes, Owain Fon Williams, Joe Ledley o Fairwater yng Nghaerdydd, Pel-droediwr Asiaidd y Flwyddyn 2015 yn Neil Taylor (gyda’i Fam yn hanu o India), ac Ashley Williams, ein capten ysbrydoledig wnaeth, fel plentyn 9 mlwydd oed, ysgrifennu llythyr at Subbuteo i gwyno am y diffyg chwarewyr du.  

Ym Mhlaid Ifanc, rydym yn ymladd ac yn ymgyrchu dros ein gweledigaeth am Gymru – Cymru ble waeth bynnag eich cefndir, mae ganddoch chi ran yn nyfodol eich cenedl ac yn cael eich trin fel dinesydd Cymreig. Mae ein tim pel droed ni yn ymgorfforiad o hyn. Ac edrychwch pa mor wych ydyn nhw. Edrychwch pa mor wych allwn ni fod. I’r sawl sy’n ceisio ein rhannu ni, i ddiffinio Cymreictod yn eu termau eu hunain – allwch chi ddim cymryd y llawenhad a’r llwyddiant y gwnaethom ni ei gyflawni yn Ffrainc oddi wrthom ni. Dyma fuddoligaeth a dathliad dros Gymru fodern, flaengar, unedig.

Does dim wedi fy ngwneud i yn hapusach na gweld y fideos o’n ffans yn dathlu ar draws y wlad. Mi welais i tair o’n gemau ni yn y fanzone yng Nghae Cooper yng Nghaerdydd, ac roedd y naws yno yn anhygoel. Pobl yn canu gyda’i gilydd  yn Gymraeg a Saesneg, yn dawnsio, chwerthin, cofleidio ac yn cysuro ei gilydd wrth i’n emosiynau ni fynd i bob cyfeiriad. Lle bynnag yr oeddech chi yng Nghymru, o fanzones yng Nghaerdydd i Ynys Mon neu mewn tafarndai yn Wrecsam ac Abertawe, dyma brofiad i ni gyd ei rannu gyda’n gilydd. Ni anghofiwn ni fyth yr haf ble chwifwyd baner Cymru yn falch yn rownd cyn-derfynol Pencampwriaethau Ewrop. Haf ble sgoriodd ein ymosodwr di-glwb un o’r goliau gorau yn ein hanes – gan ennill yn erbyn yr ail dim gorau yn y byd. Haf ble safodd y byd yn ol mewn tawelwch wrth i ni ganu ein anthem cenedlaethol.

Gallwn ddysgu tipyn o’n tim pel-droed. Wrth i ni ddechrau hel yr atgofion, mae Gareth Bale wedi bod yn mynnu mai dyma megis dechrau’r daith. Mae’r chwarewyr yn fwy penderfynol nag erioed i wisgo cit Cymru a mynd a’u gwlad i bellafion newydd. Mi wnaf innau ymuno a nhw gan ddefnyddio’r angerdd a’r ymroddiad i wneud Cymru yn le gwell. Mae ein gwlad yn wynebu heriau sydd yn teimlo’n anorchfygol. Ond gadewch i wers Ewro 2016 adrodd nad oes unrhyw her yn ormod i’n gwlad ni ei oresgyn.

Gall Cymru, wrth weithio gyda’n gilydd, gyflawni pethau tu hwnt i’n breuddwydion. Fel ddywedodd Chris Coleman – mae ‘na orbwyslais ar ofn. Peidiwch byth bod ofn breuddwydio.

photo 2_13 copy

– gan Daniel Roberts

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *