Cyfarchion Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

banksyx-mas

 

Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn flwyddyn ddiddorol, gyffrous, a chythryblus. I ni, fel Plaid Ifanc, rydyn ni wedi cael blwyddyn anhygoel – cawsom ein cynhadledd genedlaethol gyntaf yn Aberystwyth yn mis Mawrth, mae gennym ddwy gangen newydd a degau o aelodau newydd hefyd.  Yn ogystal â hyn, rydyn ni wedi lawnsio dwy ymgyrch lwyddiannus, sef ein hymgrych #CymruRydd, sy’n ceisio gwneud i bobl ifanc Cymru i ystyried annibyniaeth, ac ymgyrch matiau cwrw yn erbyn ymddygiad rhywiaethol.

Hoffem fel Pwyllgor Cenedlaethol ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un yng Nghymru a thu hwnt. Yn ogystal, hoffem ddangos ein cefnogaeth i bob un yng Nghymru sy’n dioddef unigedd, tlodi a thrais yn y cartref y Nadolig hwn. Dymunwn sefyll gyda’n chwiorydd a’n brodyr ar draws y byd sy’n brwydro i ddiweddu gorthrwm, ac mae’n meddyliau yn arbennig y flwyddyn hon gyda’r miloedd o ffoaduriaid sy’n cael eu halltudio o’u cartrefi yn Syria ac Irác a’u gwrthod gan wladwriaethau’r gorllewin.

Yn olaf, gobeithiwn y bydd 2016 yn flwyddyn lewyrchus i bob un sy’n ysu am gyfiawnder cymdeithasol a rhyddid – ymuna â ni yn y frwydr!

 

 

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *