Rydyn ni oll yn fodau dynol

Mae’r llun trasig diweddar o blentyn wedi boddi ar y lan yn Nhwrci wedi sbarduno’r tabloids Prydeinig i newid cyfeiriad yn llwyr ar argyfwng ffoaduriaid Ewrop. Mae’r digwyddiad trasig yma yn ein hatgoffa bod gan y sefydliad Prydeinig fwy o ddiddordeb mewn gwerthu papurau na delio gyda un o drasiedїau dynol mwyaf Ewrop yn yr 21ain ganrif.

Mae miloedd o ffoaduriaid wedi marw tra bod y Wladwriaeth Brydeinig yn osgoi cymryd unrhyw gyfrifoldeb.

Yn y 100 mlynedd diwethaf yn hanes Ewrop, mae’r Wladwriaeth Brydeinig wedi cymryd ffoaduriaid o Sbaen, yr Almaen, Hwngari, Zimbabwe a sawl gwlad arall ar adegau o ryfel neu eithafiaeth. Heddiw, fodd bynnag, mae’r sefydliad Prydeinig wedi dod yn beiriant asgell-dde. Mae geiriau fel “swarm”, “cockroach” a “boat people” wedi troi pobl gyffredin yn erbyn y ffoaduriaid. Mae’r tabloids yn creu teimlad o ofn a chasineb yn erbyn rhai o’r pobl mwyaf agored i niwed yn y byd. Heddiw, maent wedi penderfynu cymryd saib a galw arnom i fod yn drugarog tuag at y ffoaduriaid.

Gall y ffeithiau a’r ymgyrch godi ofn ddim fod yn fwy gwahanol i’w gilydd. Y flwyddyn hon, amcangyfrifir y bydd 800,000 o bobl o Syria yn orfod gadael eu cartrefi sydd o dan warchae parhaol a theithio i Ewop, gan roi eu bywydau yn y fantol. Hyd yn hyn, gallai’r holl ffoaduriaid sydd wedi cael eu derbyn gan Brydain o Syria ffitio mewn i un trên. Mae David Cameron wedi dweud y dylai Prydain dderbyn 500 o ffoaduriaid ychwanegol. Mae hynny’n llai hyd yn oed na’r faint a awgrymwyd gan Nigel Farage. Heddiw, mae David Cameron wedi dweud mai creu heddwch yn Syria, nid cymryd ffoaduriaid ychwanegol, yw’r ateb. Ond beth am y plant sydd yn boddi pob dydd ym Môr y Canoldir? Tan ddaw heddwch, mae rhaid achub pobl. Mae record gan y Wladwriaeth Brydeinig record o greu argyfyngau yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, nid record o greu heddwch.

Mae’n rhaid i ni gofio bod llywodraeth Prydain wedi chwarae rôl bwysig yn creu’r ansefydlogrwydd presennol yn yr ardaloedd mae’r ffoaduriad yma yn ffoi ohonynt. Y gwactod pwer a ddaeth allan o oresgyniad anghyfreithlon Prydain a’r Unol Daleithiau o Iraq yn 2003 sydd wedi creu sefyllfa le all ISIL ffynnu. Disgrifiodd y bardd Seisnig, Akala, y sefyllfa yn berffaith pan dywedodd “Yn 2011 clywsom ein bod yn caru pobl Libya gymaint fel ein bod am fomio democratiaeth i mewn iddynt. Llai na 5 mlynedd yn ddiweddarach rydym ni’n gadael pobl sydd yn dianc yr un rhyfel i foddi yn y môr.”

Mae’n bwysig ein bod hefyd yn sylwi mai Groeg, yr Eidal a Hwngari sydd yn cymryd y cyfrifoldeb mwyaf o ran derbyn y ffoaduriad. Mae gwbl rhagrithiol bod y sefydliad Prydeinig yn gallu ceisio gwasgu llymder eithafol ar pobl Groeg tra ar y llaw arall yn dweud ‘nad ein problem ni’ yw’r ffoaduriaid yma, gan adael llywodraeth Gwlad Groeg i ddelio gyda’r broblem ar eu pen eu hunain. Problem Ewropeaidd yw hyn, ac mae angen ateb Ewropeaidd iddo. Dyma pam mae Plaid Cymru Ifanc yn mynnu bod llywodraeth Cymru a llywodraeth y DG yn chwarae ein rhan i helpu’r ffoaduriaid a chymryd y baich oddi ar ein cymdogion Ewropeaidd sydd heb yr adnoddau i ymdopi â’r sefyllfa.

Mae Plaid Cymru Ifanc yn sicr y dylai Cymru a Phrydain chwarae eu rhan. Y Wladwriaeth Brydeinig yw un o bwerau economaidd mwyaf Ewrop ac mae’n hen bryd i David Cameron ddangos arweinyddiaeth yn yr argyfwng yma. Dywedodd Leanne Wood y bore ‘ma ar ITV: “Pobl yw rhain fel chi a fi. Mae ganddynt blant, gobeithion, dyheadau ac ofnau, yn union fel sydd gennym ni am ein plant.” Mae pobl yn dioddef y fath erledigaeth sydd yn eu gorfodi i roi eu bywydau a bywydau eu plant yn y fantol gan groesi Môr y Canoldir mewn cychod simsan. Dyliwn ni fod yn croesawu ac eu hamddiffyn, heb unrhyw amhauaeth. Dyma ein cyfrifoldeb fel aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, ac yn bennaf, fel pobl.

Rhydian Elis Fitter, Cadeirydd Cangen Abertawe

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *