Blaenoriaethau

Pan ofynnodd Plaid Cymru am gydraddoldeb ariannol gyda’r Alban yn ystod Etholiad Cyffredinol 2015, bûm yn destun gwawd ac anghrediniaeth ar naïfrwydd ymddangosiadol y blaid. Hyd yn oed pan nododd Leanne Wood ei fod yn cael ei dderbyn fel gwybodaeth gyffredinol ymhlith pleidiau gwleidyddol eraill bod Cymru wedi bod yn cael ei thanariannu er tua 1978, gwrthododd arweinydd y Blaid Lafur ar y pryd, Ed Miliband, dderbyn bod cyllid ychwanegol yn gais resymegol a dilys, ac yn hytrach fe wrthododd gael ei dynnu i mewn i addo unrhyw arian ychwanegol ar gyfer Cymru. Yn wir, y farn gyffredinol ymhlith y pleidiau gwrthwynebol yn ystod Etholiad 2015 oedd bod cyllido teg ar gyfer Cymru yn ddisgwyliad afrealistig.

Er mwyn i ni fesur os ydi’r cais hwn, mewn gwirionedd, wirioneddol yn afresymol, yn gyntaf mae angen i ni edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth y D.U. yn ei ystyried yn addas pan ddaw i wariant “helaeth” o arian cyhoeddus.

Fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, mae angen gwaith ar adeilad San Steffan, gyda costau adnewyddu yn cael eu amcangyfrif i gyraedd rhwng £3.9 biliwn a £7 biliwn. Felly mae £1.2 biliwn ar gyfer un o ranbarthau mwyaf difreintiedig Gorllewin Ewrop yn gwbl chwerthinllyd, ond mae £5 biliwn ar gyfer adnewyddu adeilad i’w weld yn eithaf rhesymol. Ffigwr llai yw faint yn flynyddol mae’r Frenhines yn ei gostio i’r trethdalwr, gyda’r Grant Sofran yn cael ei godi unwaith eto yn 2016 i £40 miliwn. £1.2 biliwn y flwyddyn i wlad sy’n dioddef diweithdra eang a rhai o gyfraddau uchaf beichiogrwydd yn yr arddegau drwy Ewrop gyfan? Hurt bost! Gwario £40 miliwn er mwyn cynnal plasty a ffordd o fyw moethus y Frenhines? Hollol rhesymegol!

Ond, mae hyd yn oed yr enghreifftiau hyn o’r ragrithiau enfawr a welir o fewn gwariant cyhoeddus yn ystod adeg o lymder a thoriadau yn pylu mewn cymhariaeth o’i gymharu a’r canlynol. Yn 2008, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod am achub croen diwydiant bancio’r wlad drwy ‘bailout’. Er bod £200 biliwn wedi ei wneud ar gael yn wreiddiol er mwyn helpu gyda’r adferiad, roedd y ffigwr go iawn a wariwyd yn y diwedd yn llawer iawn uwch. Mae un diwydiant unigol werth niweidio economi’r Deyrnas Unedig gyfan, ond wrth ystyried swm llawer llai ar gyfer Cymru, prin ei fod werth dadl ddifrifol.

 

Yn olaf, bydd ein system Ataliaeth Niwclear annwyl (Trident) yn dod i ddiwedd ei wasanaeth i’r Goron yn fuan, gyda trafodaethau i’w adnewyddu yn amcangyfrif cost o dros £100 Biliwn. Caiff hwn, arf y byddwn byth yn ei ddefnyddio a sydd mewn gwirionedd yn ddim mwy na symbol o statws, ei ystyried yn angenrheidiol, tra bod Cymru yn cael ei gweld i’r gwrthwyneb.

Felly yr egwyddor y gellid ei thynnu o’r wybodaeth uchod yw, pan fydd y breintiedig angen cymorth bydd arian wastad ar gael. Caiff mynyddoedd eu symud er mwyn gwneud lle a darparu eu anghenion nhw, ac fe welir bod un diwydiant, symbolau o statws, neu adeilad, yn cael eu hystyried llawer pwysicach na aelod honedig o’r hyn a gaiff ei alw yn “Gymuned o Genhedloedd”. Wrth ystyried pa feysydd sydd angen mwy o gyllid, mae’n amlwg bod Llywodraeth y DU yn gweld Cymru fel “dibwys”, sydd yn golygu bod unrhyw gais am gyllido teg yn cael ei ystyried yn syth fel afresymol. Ond dyna ni…mae gan bawb eu blaenoriaethau.

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *