Llafur yn bradychu’r ifanc

Wythnos ddiwethaf, wrth i’r Geidwadwyr cychwyn ymysodiad arall ar bobl arferol ar draws y DG, eisteddodd y Blaid Lafur yn ôl a gwylio.

Gwnaeth 48 o ASau’r Blaid Lafur gwrthryfela, ond nid yw hynna’n unrhyw beth iddynt fod yn falch ohono. Rydym wedi cyrraedd pwynt yng ngwleidyddiaeth San Steffan le mae ASau Llafur yn cael eu hystyried fel gwrthryfelwyr os maent yn pleidleisio yn erbyn y Ceidwadwyr. Wrth edrych mewn mwy o fanylder, gwelwn mai ond 7 o’r 24 AS Llafur yng Nghymru wnaeth pleidleisio yn erbyn y mesur. Ychydig dros chwarter o’r bobl a gafodd eu hethol i ymladd yn erbyn y Torïaid ac i amddiffyn y wanaf yn erbyn llymder.

Un peth pwysig i sylwi yw bod Carwyn Jones, arweinydd y blaid Lafur yn y Cynulliad, ac ein Prif Weinidog, wedi siarad yn llym yn erbyn Harriet Harman, ar ôl iddi awgrymu na fyse Llafur yn pleidleisio yn erbyn y mesur. Mae’n debyg ei fod e wedi sylwi, fel ry’n ni ym Mhlaid Ifanc yn gwybod yn iawn, y byse pobl ifanc yn dioddef oherwydd y mesur hwn. Dywedodd “Ar hyn o bryd mae yna lawer iawn o dargedu pobl ifanc gan lywodraeth y DG.” Dywedodd wrth y wasg ei fod yn anghytuno’n llwyr gyda Harriet Harman. Beth mae hyn yn dangos yw nad oes gan Carwyn Jones ddim dylanwad o gwbl dros ei ASau ei hunan. Peidiodd 72% o ASau Llafur Cymru pleidleisio o gwbl er i Carwyn Jones, eu harweinydd ers 6 mlynedd, dweud ei fod am iddynt bleidleisio yn erbyn. Yn hytrach, dewisodd ei ASau ochri gyda pherson sydd ond wedi bod yn eu harweinydd dros dro yn Llundain. Gan symud yn awr mewn i flwyddyn yr etholiad, bydd Carwyn Jones yn poeni os na fedrith e hyd yn oed dibynnu ar gefnogaeth ei ASau, fe fydd yn cael amser gwirioneddol caled wrth geisio dangos ei fod yn arweinydd credadwy i bobl Cymru.

Nid yn unig yw hyn yn broblem i Carwyn Jones, mae’n broblem i bobl Cymru tra bod ei blaid mewn grym. Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyfaddef yn barod nad oes ganddo unrhyw ddylanwad yn ei berthynas gyda’r blaid Lafur yn San Steffan. Dywedodd, “Prif Weinidog Cymru ydwyf ac Aelod o’r Cynulliad. Mae beth sy’n digwydd yn San Steffan yn digwydd yn San Steffan.” Oes unrhyw syndod felly bod Cymru dal yn cael ei thanariannu er bod Mr Jones wedi cytuno gyda Phlaid Cymru am rhai blynyddoedd fod angen newid?

Pan ymddiswyddodd cyn arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Johann Lamont wedi’r refferendwm ar annibyniaeth, dywedodd bod Llafur yn yr Alban yn cael eu trîn fel swyddfa cangen gan y blaid canolog yn Llundain. Deallodd pobl yr Alban hyn ac, wrth reswm, gadawodd cefnogwyr Llafur yr Alban mewn swmp. Mae nawr yn glir bod Llafur Cymru yn cael eu trîn yn gwmws yr un ffordd gan eu meistri yn Llundain. Tra bod hwn yn wir, ni fydd Carwyn Jones na’i dîm o ACau yn gallu ennill y gorau dros Gymru. Mae gennym plaid Lafur yn Llundain sydd ddim yn gwrando a phlaid Lafur yng Nghaerdydd sydd yn gwbl hapus i wneud beth bynnag mae’r meistr yn Llundain yn dweud. Fe wneith hyn un ai orffen gyda Chymru yn parhau i ddioddef o dan blaid gwbl ddi-glem, neu fe wneith arwain at bobl Cymru yn gadael y blaid Lafur yn yr un ffordd a wnaeth pobl yr Alban.

Yn yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld un o flaenwyr ymgyrch arweinyddol y Blaid Lafur, Andy Burnham, yn cyfaddef yr oedd yn gwybod bod Cymru yn cael ei thanariannu yn ystod ei adeg yn y Trysorlys. Ar y pryd wnaeth mynnu bod yna ddim tanariannu o gwbl.

Rydym hefyd wedi gweld llywodraeth Llafur ym Mae Caerdydd sydd wedi cael eu condemnio mewn adroddiad a ddangosodd eu bod wedi cael dim llwyddiant yn eu hymdrech dros ddiweddi dlodi yng Nghymru. Tra bod pob gwlad arall ym Mhrydain wedi symud yn y cyfeiriad cywir, mae’r unig lywodraeth Llafur yn colli ei frwydr yn erbyn tlodi yn llwyr. Nid dyma’r rheswm pam y pleidleisiodd pobl dros y Blaid Lafur, a dylai’r blaid honno deimlo cywilydd llwyr am ei record ddiweddar.

Trwy hyn, mae Plaid Cymru wedi bod yn brwydro i amddiffyn teuluoedd a phobl ifanc yng Nghymru rhag y polisi ffyrnig yma gan y Ceidwadwyr. Dywedodd AS Plaid Cymru, Hywel Williams:

“The welfare reform proposals set out in the Chancellor’s Budget spell very bad news for thousands of working families in Wales. Around 120,000 households in Wales currently receive tax credits to top up their low wages which simply don’t provide enough for them to get by.

“The Tories’ plans to cut these tax credits threaten to plunge many more into poverty. Despite the Chancellor’s efforts to rebrand the minimum wage as a living wage, this change won’t offset the impact of these cuts.”

Pleidleisiodd pob AS Plaid Cymru yn herfeiddiol a gyda balchder yn erbyn y mesur. Bydd Plaid Cymru yn ymladd i amddiffyn pobl yn erbyn y toriadau ideolegol gan y Ceidwadwyr bob amser. Yn symud tuag at etholiad cyffredinol Cymru yn 2016, bydd Plaid Cymru Ifanc allan yn siarad gyda chymaint o bobl ac sy’n bosib er mwyn sicrhau fod pobl yn gwybod bod yna wrthblaid go iawn yng Nghymru, a Phlaid Cymru yw ei henw.

Mae’r Blaid Lafur yn blaid gydag arweinydd yn San Steffan sydd yn ysu am ddilyn y Ceidwadwyr ac ymadael o’i rôl o amddiffyn y dosbarth gweithiol, ac arweinydd yng Nghymru sydd ddim hyd yn oed yn gallu gorchymyn parch ei ASau.

Os ydych chi am weld llais cryf dros Gymru, mudiad a fydd yn sefyll lan i’r Torîaid ac yn ymladd yn erbyn llymder, ymunwch â ni.

I aralleirio AS ieuengaf Prydain, Mhairi Black o’r SNP, “Ddim ni wnaeth adael y Blaid Lafur, y Blaid Lafur wnaeth adael ni.”

Os ydych chi am frwydro yn ôl yn erbyn y llymder ac adeiladu Cymru decach a chryfach, byddwn ni ym Mhlaid Cymru Ifanc yn hapus iawn i’ch croesawu.

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *