Gall gwleidyddiaeth o obaith ennill yn 2016

Yn dilyn pum mlynedd o doriadau didrugaredd, treblu ffioedd dysgu, taliadau tlodi a rhenti esgynnol, gwaith ansicr neu ddim gwaith o gwbl, Llywodraeth Brydeinig a anwybyddai osgoad trethi, wrth ddiddymu ein gwladwriaeth les, pwy fuasai wedi rhagweld canlyniad bu i ni ddeffro i ar Fai’r 8fed? O’r SNP yn ysgubo 56 o’r 59 sedd Albanaidd, i gwymp dramatig y Democratiaid Rhyddfrydol, ac am y tro cyntaf, Cymru, yr Alban a Lloegr oll yn pleidleisio am bleidiau gwahanol, bu i ni dal ddeffro i lywodraeth fwyafrifol Geidwadol, yn dilyn swing pitw o 0.8%.

Unwaith yn ragor, cawsom ein bradychu gan system etholiadol doredig San Steffan – un a addolai deuopoli Llafur/Ceidwadol. O dan system y Cyntaf i’r Felin, dyw pleidiau’r sefydliad bellach ddim yn ysbrydoli na chefnogi gweledigaeth am yfory well. O dan fath system, mae eu swyddogaeth lawer symlach. Maent yn edrych i lwgrwobrwyo, twyllo a chodi ofn ar bobl i gredu mai ond pleidlais amdanyn nhw all atal y bwystfil. I’r Ceidwadwyr, Llafur oedd y bwystfil economaidd – gyda’u bwriad ar fwy o fenthyg a threthi uwch. Yn ôl Llafur, profai’r Ceidwadwyr i fod yn greulon, dibryder a dideimlad tuag at anghenion bobl gyffredin. Bu i’r fenter ar y cyd yma o arswydo fod ond yn orchudd – gwleidyddiaeth Punch & Judy a wrthdynnodd ni o’r bwgan go iawn, sefydliad sydd wedi cymryd perchnogaeth o bleidiau San Steffan, a gyda hwy, perchnogaeth o ein bywydau ni.

Pleidleisiodd Cymru i ‘Gadw’r Torïaid allan’, gyda Llafur yn ennill y canran uchaf o’r bleidlais ar 37%. Ond unwaith eto, fel 2010, 1992, 1987 a 1983, pa fudd roddodd hyn i ni? Bellach, rydym yn llygad y storm. Cenedl wedi ei dal dan bridwerth straeon ofn. Yn hytrach na diwedd i’r Glymblaid Con/Dem, rydym unwaith eto yn wynebu pum mlynedd dan wawd llywodraeth heb unrhyw fandad yng Nghymru, yn ddiben ar slaesio gwariant cyhoeddus, ac yn yr un gwynt, ein gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig. Serch y cyfryngau yn brolio buddugoliaethau Ceidwadol, tra honnai Ysgrifennydd Gwladol Cymru bod y pleidiau “Ymreolaeth” yn dioddef yng Nghymru, y realiti yw, mae gan lywodraeth newydd y DU y mandad lleiaf yng Nghymru ers 1945. Mae eu mandad mewn gwirionedd yn llai na’r hyn brofodd llywodraeth Thatcher yn 1983, un o’r prif ffactorau wrth greu momentwm i atgyfodi’r cwestiwn o ddatganoli i Gymru.

Mae hi’n trist i feddwl bod ein prif obaith o gael ein cysgodi o’r storm i’w ganfod yn nwylo blinedig a di-uchelgais llywodraeth Bae Caerdydd. Dros y pedair blynedd ddiwethaf nid yw ffocws Llywodraeth Llafur Caerdydd wedi bod ar ddiwygio economi Cymru, yn hytrach canolbwyntio ar geisio sicrhau buddugoliaeth i Lafur yn San Steffan oedd y prif amcan. Nid cynnig gweledigaeth ysbrydoledig y bu eu rôl, ond yn hytrach ceisio sgorio gymaint o bwyntiau-gwleidyddol dibwys â sy’n phosib. Maent wedi mabwysiadu rôl weinyddol, gan gyfyngu eu colledion, eistedd ar eu dwylo er mwyn osgoi ysgwyd y cwch; dro ar ôl tro maent wedi anwybyddu prosiectau uchelgeisiol yn sgil ofnau o fethiant- ofnau y gall fath fethiant effeithio ar ragolygon y blaid yn San Steffan. Ystyriwch y Dreth Lofftydd fel enghraifft – yng Nghymru bu’r blaid wrthod ddiddymu’r dreth, gan ei ddefnyddio yn hytrach fel addewid ar gyfer etholiad San Steffan a gan ein gadael ni yn ddibynnol ar ba ffawd wynebai’r blaid yn Lloegr. Serch y bu i fwyafrif o etholwyr Cymru cefnogi pleidiau a wrthwynebai’r Dreth Lofftydd, Cymru’r yw’r unig wlad ddatganoledig lle mae’r dreth dal i fodoli. Bu eu tacteg o ‘aros pum mlynedd am fuddugoliaeth Llafur yn San Steffan’ brofi i fod nid yn unig yn amharchus, ond hefyd yn hynod o beryglus.

Nid yn unig y bu i fath dacteg fethu a sicrhau buddugoliaeth i Lafur yn Llundain, ond bu hefyd fethu gwasanaethau datganoledig yng Nghymru hefyd. Ar ôl 16 mlynedd wrth y llyw, mae angen i Lafur gael eu barnu am eu record athrist ar iechyd, addysg ac yr economi. Mae’n record sydd wedi gadael Cymru ar waelod y tablau addysg, yr amseroedd aros GIG hiraf, ac economi waethaf yn y DU. Parod yw Llafur yng Nghymru i frolio ffigyrau buddsoddiad mewnol fel arwydd o’u record economaidd, ond mae’r math ffigyrau yn gyfnewidiol iawn, a beth bynnag, mae angen i ein ffocws fod ar fusnesau ar lawr gwlad Cymru. Mae eu record yn un na all sefyll i feirniadaeth. Mae etholiad 2016 yn gyfle euraidd i sicrhau newid go iawn i Gymru – ni ddylen ni ei adael iddo gael ei ddefnyddio fel pôl barn am lywodraeth San Steffan. Mae angen i etholiad y flwyddyn nesaf fod am ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael i ni yma yng Nghymru i fedru rhoi ein GIG, ein hysgolion ac ein heconomi ar sylfaen gynaliadwy.

I wireddu hyn mae angen llywodraeth ym Mae Caerdydd sydd yn feiddgar. Llywodraeth sydd yn fodlon rhoi anghenion y gymdeithas ehangach o flaen rhagolygon ei phlaid – un sydd yn dadlau y dylai Cymru gael cydraddoldeb gyda’r Alban, wrth ddefnyddio’r pwerau sydd ganddom i helpu gwella bywydau ein pobl. Mae angen arnom lywodraeth drawsnewidiol a fydd yn ein rhoi ar y llwybr i orffen ein dibyniaeth gyllidol, ac yn ei dro yn ein rhyddhau o’r gwarged democrataidd sydd yn ein hanalluogi i ddiogelu ein hunain o’r Torïaid – dim bwys pa ffordd yr ydym yn pleidleisio.

Os ydym wir yn ddifrifol am amddiffyn ein hunain o’r Torïaid yn yr hir dymor, mae angen i’r chwith drefnus yng Nghymru – undebau llafur, mudiadau ymgyrchu a phleidleiswyr blaengar, ganfod dynesiad ffres, un lle gall bawb – dim bwys pa blaid – ei gefnogi. Ymgyrch unedig, bositif o blaid ymreolaeth go iawn i Gymru. Heb fath ymgyrch, bydd Cymru yn parhau i gael ei chyniweirfa gan ragolygon o lywodraeth Geidwadol na fu iddo’m ei ethol.

Y flwyddyn nesaf bydd gennym y cyfle i ddod a newid go iawn- i ryddhau ein democratiaeth o’r cyflwr o arswyd, gan ethol llywodraeth gyda gweledigaeth newydd i Gymru. Mae’n amser i ni stopio cuddio o dan y duvet. Mae’n hen bryd i ni wynebu’r bwystfilod sydd yn ein hwynebu, a sicrhau dyfodol gwell i ni oll.

Glenn Page.

 

 

 

 

 

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *